Ar y 15fed o Awst 2020 dethlir 75 mlynedd ‘Buddugoliaeth dros Japan’ a diwedd yr Ail Ryfel Byd. Er hynny, rydym ni’n falch i gyflwyno blog gwadd gan Simon Burgess, gor-wyr Capten Read.
Roedd Richard George Read yn garcharor rhyfel yn ystod yr Ail Ryfel Byd a chafodd ei ddal gan y Japaneaid adeg cwymp Singapôr ar y 15fed o Chwefror 1942. Daeth ef, a bron i 150,000 o filwyr o Brydain, Awstralia a Seland Newydd yn bennaf (ond hefyd o India a’r Iseldiroedd) yn garcharorion rhyfel. Cyfeiriodd Winston Churchill at gwymp Singapôr fel y ‘trychineb gwaethaf a’r ymostyngiad mwyaf yn hanes Prydain’. Profodd Richard a’i gyd-garcharorion rhyfel dros dair blynedd a hanner o greulondeb ac ecsbloetiaeth. Roedd y rhai a gyfranogodd yn ymgyrch y Dwyrain Pell yn cael eu hadnabod fel ‘Y Fyddin Anghofiedig’ gan mai’r rhyfel yn Ewrop oedd y bygythiad uniongyrchol i fywydau’r rhai a oedd gartref.
Capten R G Read ym mis Rhagfyr 1945, rai wythnosau ar ôl iddo ddychwelyd i Aberystwyth
Roedd Read yn Gapten gyda’r Magnelwyr Brenhinol ac roedd eisoes wedi treulio 25 mlynedd gyda’r Magnelwyr Brenhinol cyn i’r Ail Ryfel Byd ddechrau.
Ymunodd â’r Fyddin yn 1914 pan oedd yn 14 mlwydd oed. Treuliodd gyfnod yn Ffrainc gyda Byddin Ymgyrchol Prydain yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Cafodd ei anfon dramor ar ôl y rhyfel gan dreulio amser ym Mhalesteina a’r Aifft. Treuliodd bron i ddegawd yn yr Aifft ac yno, yn Ysgol Barics Byddin Abbassia yng Nghairo y cyfarfu â Daisy Preston a oedd yn nani yno. Priododd Daisy ag ef yng Nghonswl Prydain yng Nghairo yn 1927 ac o fewn blwyddyn ganed, Eileen, eu merch hynaf. Dychwelodd y teulu i Brydain yn 1930. Bryd hyn, roedd Richard gyda Magnelfa ‘F’ y Magnelwyr Ceffylau Brenhinol cyn iddo gael ei symud i Ganolbarth Cymru (Magnelfa Aberteifi) a olygodd ei fod yn gallu ymagartrefu gyda’i deulu yn Aberystwyth; roedd cartref y teulu yn Llangawsai, Llanbadarn. Erbyn hyn roedd yn Ringyll Swyddog Cyflenwi i’r Fagnelfa ac anrhydeddwyd ef â’i Fedal Gwasanaeth Maith ym mis Ionawr 1936 cyn iddo ymadael yn 1938.
Ychydig cyn cychwyn yr Ail Ryfel Byd ailymrestrodd Richard fel Lefftenant (Swyddog Cyflenwi) ym Myddin y Tiriogaethwyr yn Aberystwyth ac Aberteifi, gyda Magnelfa Frenhinol 102 (a ddaeth y 146ain Catrawd yn ddiweddarach) ac fe’i dyrchafwyd yn Gapten yn ystod y cyfnod hwn.
Yn 1941 penderfynodd roi’r gorau i’w reng Capten i ymuno â Chatrawd Maes 118 y Magnelwyr Brenhinol fel Lefftenant unwaith eto efallai am fod yr Uned hon ar fin cael ei chludo ar long i’r Dwyrain Canol a’i fod am ‘gyflawni ei ddyletswydd’ yn weithredol. Roedd yn rhan o 18fed Is-adran, Catrawd Maes 118 y Magnelwyr Brenhinol ac ymadawodd â’r DU yn hwyr yn 1941 yn disgwyl teithio i’r Dwyrain Canol.
Lefftenant R. G. Read naill ai wrth ei hyfforddiant yn India neu efallai ar ôl cyrraedd Singapôr ym mis Chwefror 1942
Fodd bynnag, nid oedd y rhyfel yn erbyn Japan yn y Dwyrain Pell yn mynd yn dda a phenderfynodd Churchill symud y 18fed Is-adran i Singapôr. Treuliodd bythefnos yn India i ddechrau yn derbyn hyfforddiant brysiog, munud olaf, a chyrhaeddodd Singapôr ddiwedd Ionawr 1942 pan oedd y frwydr wedi’i cholli fwy neu lai.
Gorchymyn olaf y Cadfridog Wavell a anfonwyd ar y 10fed o Chwefror 1942, ddiwrnodau yn unig cyn yr ildio ar y 15fed o Chwefror. Mae’r gorchymyn yn cynnwys cyfarwyddyd bod yn ‘Rhaid i Gadlywyddion ac Uwch Swyddogion arwain eu lluoedd ac, os oes angen, marw gyda nhw. Ni ddylid meddwl am ildio a rhaid i bob uned ymladd tan y diwedd un ac mewn cyswllt agos â’r gelyn’.
Glaniodd yr Is-adran yn ystod yr ymgyrchoedd awyr ar harbwr Singapôr a nifer o’r dynion yno heb yr offer cywir ac ychydig iawn o hyfforddiant ar gyfer rhyfel yn y Dwyrain Pell. O fewn pythefnos o’r 15fed Chwefror 1942, roedd Singapôr wedi ildio i’r Japaneaid goresgynnol.
Cadlywydd Percival – Telegram ildio i’r Japaneaid ar y 15fed o Chwefror 1942
Cadlywydd Yamashita – Amodau ildio Lluoedd y Cynghreiriaid yn Singapôr
Cadlywydd Yamashita – Telegram yn ceisio ildiad Lluoedd y Cynghreiriaid, byddin Nippon ar y 13eg o Chwefror 1942
Roedd y Japaneaid wedi gwrthod cydymffurfio â Chonfensiwn Genefa ac roedd nifer o warchodlu’r gwersylloedd yn enwog am eu creulondeb tuag at y carcharorion. Roedd dehongli cod anrhydedd.y Japaneaid, y Bushido, a ddefnyddiwyd i hyfforddi’ gwarchodlu Japan yn ystod yr Ail Ryfel Byd, yn golygu bod dynion a oedd yn ildio yn cael eu hystyried yn gwbl ddiwerth ac arweiniai at y gwarchodlu’n ystyried eu carcharorion yn annheilwng o gael eu trin yn ddynol.
Cerdyn Cofnod carcharor rhyfel y Japaneaidd ar gyfer y Lefftenant R G Read
Cadwodd Read ddyddiadur a llwyddodd i gofnodi ynddo ar gyfer y rhan fwyaf o’i garchariad. Mae darllen ei ddyddiaduron yn brofiad dirdynnol: roedd carcharorion yn cael eu defnyddio ar gyfer llafur caethweision ar yr enwog ‘Reilffordd Angau’ a godwyd gan garcharorion rhyfel rhwng Byrma a Gwlad Thai, mewn pyllau glo ac yn Japan neu’r tiriogaethau yr ymosodwyd arnynt. Mae ei ddyddiaduron yn llawn straeon am galedi, newyn, o guro a marwolaeth. Aeth Read yno yn pwyso 12 stôn 10 pwys ac erbyn iddo gael ei ryddhau, roedd i lawr i 7 stôn 10 pwys, gostyngiad o 40%.
Dyddiadur, Mai 1944 ‘Malwod, llygod mawr, gwymon […] danteithfwydydd diweddaraf’
Dyddiadur, Awst 1944, yn cofnodi colli mwy o bwysau
Bu farw nifer o garcharorion o ganlyniad i ddiffyg maethiad, newyn neu glefydau trofannol. Gwnaeth y llwyth gwaith trwm lawer o ddrwg hefyd. Cadwyd Capten Read yn garcharor rhyfel am y rhan fwyaf o’i gyfnod o dair blynedd a hanner yng ngwersyll carcharorion rhyfel Changi yn Singapôr, ac mae llun yn ei gasgliad yn dangos y carcharorion mewn ‘parti gwaith’ yng nghwmni Gwarchodlu Japan.
Ffotograff o bropaganda’r Japaneaid, tri o’r gwarchodlu a naw carcharor, mewn parti gwaith, a anfonwyd o bosibl i glirio ar ôl yr ildio yn 1942 ac yn ardal Bukit Timah o Singapôr. Noder bod y Prydeinwyr yn gwisgo hetiau cantel llipa bryd hyn er y gallai un carcharor (sy’n cyrcydu wrth ymyl un o warchodlu Japan ar y dde) fod yn Awstraliad cynhenid.
Diben y partïon gwaith hyn yn y lle cyntaf oedd clirio ar ôl yr ildio. Cynhyrchwyd lluniau fel hyn gan y Japaneaid yn bropaganda i ddangos i’r byd mawr cystal yr oeddent yn trin eu carcharorion.
Nid oedd y teuluoedd ym Mhrydain yn ymwybodol o dynged y rhai a oedd yn agos atynt ac a oedd wedi’u dal gan y Japaneaid, ac roedd nifer yn tybio’r gwaethaf ar ôl blynyddoedd o ddiffyg cyswllt.
Telegram a anfonodd y Capten R. G. Read at ei wraig, Daisy, dyddiedig 31ain Ionawr 1942 ond na chafodd ei dderbyn tan 10fed Awst 1944. Mae’n bosibl mai dyma’r arwydd cyntaf i Daisy bod ei gŵr yn dal yn fyw ac yn garcharor rhyfel.
Nodyn yn rhoi eglurhad am yr oedi ynghlwm wrth y telegram uchod
Anfonwyd y llythyr cyntaf a dderbyniodd Daisy, gwraig Capten Read, o Singapôr, dyddiedig 31ain Ionawr 1941, ond ni chyrhaeddodd tan y 10fed o Awst 1944.
[Delwedd 4 Telegram a anfonwyd o Singapôr 31ain Ionawr 1942 ond ni chyrhaeddodd tan 10fed Awst 1944]
Cardiau pen-blwydd a Nadolig o waith llaw a roddwyd i’r Lefftenant R. G. Read ym 1942-44 yn bennaf. Roedd papur yn beth prin yn y gwersylloedd hyn a byddai’r carcharorion yn aml yn cyfnewid gyda’r gwarchodlu er mwyn creu eitemau fel y cardiau hyn.
Roedd disgyblaeth yn y gwersylloedd yn llym a deliwyd ag ymdrechion i ddianc â thrais; wynebu’r criw saethu neu ddienyddio oedd y diwedd i rai. Cyfeiriwyd at un digwyddiad fel ‘Digwyddiad Barics Selerang’ a gychwynnodd ar 30ain Awst 1942 o ganlyniad i’r Japaneaid yn ailgarcharu pedwar carcharor rhyfel a oedd wedi ceisio dianc.
Dyddiadur Capt. Read yn cyfeirio at ‘Ddigwyddiad Barics Selerang’
Mynnodd y Japaneaid bod yr 17,000 o garcharorion eraill yn y gwersyll yn llofnodi llw i beidio â cheisio dianc fyth eto. Wedi iddynt wrthod, gorfodwyd y carcharorion rhyfel i ymgasglu yn sgwâr y barics am bron i bum niwrnod gydag ychydig o ddŵr a dim glanweithdra. Ni lwyddodd hyn i dorri’r dynion. Fodd bynnag sylweddolodd Pennaeth Milwrol y carchar y byddai’r amodau enbyd yn arwain yn fuan at golli mwy o fywydau oherwydd clefydau, diffyg dŵr a newyn. Mynnodd bod y dynion yn llofnodi’r llw, a gwnaethant hynny yn y pen draw er i nifer ddefnyddio enwau ffug. Yn ddiweddarach, aeth y Japaneaid â’r pedwar gŵr a oedd wedi ceisio dianc i draeth cyfagos lle y saethodd y criw saethu nhw.
Effeithiodd digwyddiadau fel hyn yn fawr ar y rhai a oedd yn ddigon ffodus i oroesi. Roedd hyd at draean o’r rhai a ddychwelodd gartref yn dioddef yr hyn a adwaenir erbyn hyn yn anhwyder straen ôl-drawmatig [PTSD]. Bryd hynny roedd problemau iechyd meddwl yn cael eu cadw’n dawel neu eu gwthio i’r naill ochr, a golygai hyn bod nifer o garcharorion yn cael eu gadael i ddelio â’r materion hyn ar eu pennau eu hunain ac yn aml y teuluoedd oedd yn gorfod ymdopi â’r canlyniadau.
Tun baco o waith llaw, a wnaed yng Ngwersyll Carcharorion Rhyfel Changi, a roddwyd i’r Lefftenant R. G. Read o Gatrawd Maes 118 y Magnelwyr Brenhinol. Mae’n debyg bod y tun alwminiwm wedi cael ei wneud yn y gwersyll o fetel a gafodd ei ddwyn oddi ar y Japaneaid gan y carcharorion.
Tun baco, arysgrifiad ar y caead
Dioddefodd Capten Read o beriberi a dyspepsia yn ystod ei gyfnod yn Changi, ac roedd yn gaeth i’w wely am y misoedd olaf. Mae beriberi, a adwaenir hefyd fel diffyg thiamin, yn glefyd sy’n cael ei achosi gan ddiffyg fitamin B-1. Gall dyspepsia (diffyg traul) fod yn arwydd cynnar o ganser y coluddyn neu’r stumog ac, yn drist iawn, bu Read farw ohono ym mis Medi 1946.
Mae bylchau yn ei gofnodion dyddiadur a nodiadau wedi hynny yn dangos ei fod ar brydiau’n ddryslyd neu’n rhy wael i ysgrifennu.
Ni roddai’r Japaneaid unrhyw driniaeth feddygol i garcharorion rhyfel; y milwyr eu hunain oedd yn trefnu eu ‘hysbytai’ eu hunain ac roedd nifer o’r dynion yn mynd trwy driniaethau meddygol heb anesthetig a heb yr offer mwyaf sylfaenol hyd yn oed. Roedd y carcharorion yn dioddef o effeithiau deiet gwael, diffyg maethiad a chlefydau trofannol gan gynnwys malaria ac epidemigau dinistriol o golera. Nid oes amheuaeth bod ymdrechion eu cymrodyr meddygol wedi achub miloedd o fywydau.
Dim ond pan gafodd Capten Read ei gludo mewn llong i India yn hydref 1945 y dechreuodd wella a magu pwysau.
Cerdyn meddygol maes ar gyfer Capten R. G. Read. Cyhoeddwyd y cerdyn hwn pan oedd yn gwella ym Madras, India yn ystod hydref 1945, ar ôl i’r Japaneaid ildio ym mis Awst.
Nid oedd yn bosibl cludo’r carcharorion mwyaf sâl gartref ar longau ar unwaith ac felly aed â nhw i ysbystai yn India neu Awstralia. Aeth rhai gartref drwy Unol Daleithiau America neu Ganada hyd yn oed. Ar ôl dychwelyd i Southampton, teithiodd R. G. Read ar yr SS ‘Llandovery Castle’.
Telegram a anfonodd R. G. Read at ei wraig Daisy, o Fadras, 20fed Medi 1945, pan oedd yn gwella.
Pan gyrhaeddodd gartref yn Aberystwyth ar y 1af o Ragfyr y flwyddyn honno, croesawyd ef oddi ar y trên gan y Maer a phobl bwysig y dref. Cyhoeddwyd erthygl yn y Cambrian News yn adrodd ar ei ddychweliad.
Ymunodd â’r Asgell Hyfforddi Tir a Môr yn Nhowyn am gyfnod byr yn 1946 ond yn drist iawn, ni chafodd wellhad iawn ar ôl ei driniaeth wael fel carcharor rhyfel a bu farw yn Ysbyty Milwrol Caer ym mis Medi 1946. Gadawodd ar ei ôl ei wraig, Daisy, a dwy ferch, Eileen a Mary. Ceir coffâd iddo ar Gofeb Ryfel Llanbadarn Fawr.
Cofeb Ryfel Llanbadarn yn enwi Richard George Read
Simon Burgess