Sgwadron y Sianel yn Aberystwyth

Rydym ni’n cyflwyno blog gwadd newydd gan Dr Brian H Davies


Dengys y ffotograff hwn (cyf. GP/1/69) fflyd o longau rhyfel wedi’u hangori ym Mae Ceredigion ac mae’n un o gasgliad o ffotograffau o Aberystwyth, golygfeydd o’r promenâd yn bennaf, a dynnwyd yn y 1890au.  Mae tystiolaeth arall yn dweud wrthym bod yn rhaid iddo fod wedi’i dynnu yn 1896, rhwng yr 20fed a’r 23ain o Fehefin ac mae lle i gredu bod yr olygfa wedi’i dal tua chanol dydd, ddydd Sadwrn 20fed o Fehefin.

Longau rhyfel ym Mae Ceredigion (cyf. GP/1/69)

Ddydd Gwener, 26ain o Fehefin 1896 roedd Tywysog Cymru i fod i gael ei urddo yn Ganghellor ar Brifysgol Cymru ffederal newydd mewn seremoni yn Aberystwyth, a disgwylid y byddai o leiaf ddwy long ryfel Y Llynges Frenhinol yn bresennol yn y bae ar gyfer y digwyddiad brenhinol. Roeddent i gael eu gwahanu oddi wrth Sgwadron y Sianel wrth iddo hwylio yn ôl o Belfast i’w borthladd ym Mhortland, Dorset ar ôl mordaith o ddau fis ar ddyfroedd y gogledd. Roedd y Sgwadron wedi gadael Portland ar y 5ed o Fai, wedi ymweld â Glasgow, Oban, Stornoway (Ynysoedd y Gorllewin), Kirkwall (Ynysoedd Erch) a Belfast, ac i fod i gyrraedd nôl ym Mhortland ar y 26ain o Fehefin. Byddai’r llongau a oedd wedi’u gwahanu ar gyfer yr ymweliad ag Aberystwyth hefyd yn galw yng Nghaerdydd ac Abertawe ar eu mordaith yn ôl i Bortland wedi hynny. 

Cafwyd adroddiad manwl gan yr Aberystwyth Oberver (AO, 25 Mehefin 1896) a’r Cambrian News (CN, 26 Mehefin 1896) fel ei gilydd o’r digwyddiadau yn Aberystwyth, a mynegwyd syndod nad dwy long yn unig a ymddangosodd ym Mae Ceredigion ddydd Sadwrn, yr 20fed o Fehefin, ond Sgwadron y Sianel gyfan, ac eithrio rhai o’r llongau llai a adawyd yn Kingstown (Dún Laoghaire erbyn hyn) ar gyfer cario glo.  Adroddodd yr AO:

Fore Sadwrn, tua hanner awr wedi un-ar-ddeg, mewn niwl ysgafn, daeth sawl llong i’r golwg … cyfrifwyd naw gyda chymorth sbienddrychau.  … O’u blaenau roedd y lleiaf o’r cyfan, a ymddangosai fel petai’n plymio’r dyfroedd.  Daethant yn eu blaenau bob yn dipyn fel yr ofnai’r bobl, bron, y byddent yn mynd ar greigiau’r Castell.  Ond, ar dderbyn arwydd, gollyngwyd angorau’r holl longau ar yr un pryd â sblash.  Yn y cyfamser, gwelwyd mwg tua’r gogledd … ac yna daeth agerlong ag iddi dri hwylbren i’r golwg ac mewn hanner awr roedd wedi anghori gyda’r llongau eraill.  

Roedd y deng llong ryfel a angorwyd oddi ar greigiau’r Castell yn destun balcher i’r Llynges Frenhinol; roeddent i gyd yn llongau newydd, yr un ohonynt yn ddim mwy na saith mlwydd oed.  Roedd dwy long ryfel o’r Dosbarth Majestic, sef y Majestic a’r Magnificent, ill dwy yn 16,000 tunnell yr un, a chriw o 672 ar y ddwy.  Y Majestic oedd banerlong yr Is-lyngesydd Arglwydd Walter Kerr a reolai’r fflyd.  Y pedair llong ryfel yn y Dosbarth Royal Sovereign, bob un yn 14,000 tunnell gyda chriw o 670, oedd y Royal Sovereign, yr Empress of India, y Repulse a’r Resolution.  Roedd y tri chriwser, y Blake, yr Hermione a’r Bellona (yn griwserau Dosbarth 1af, Ail Ddosbarth a Thrydydd Dosbarth, yn eu trefn) yn llongau llai, o 2,000 i 9,000 tunnell â chriw o 170 i 570.  Yr unig long ag iddi dri hwylfwrdd oedd y Bellona, a dengys y ffotograff ei bod wedi cyrraedd yn hwyrach na gweddill y Sgwadron, tua hanner dydd. Llong dorpido fechan 1,000 tunnell oedd yr Halcyon ag iddi griw o 120.  Gweithredai’n llong dendio ar gyfer y Sgwadron gan gyflawni tasgau fel plymio’r dyfroedd.  Roedd tipyn go lew o dunelledd o longau rhyfel wedi’u hangori yn Aberystwyth, felly, a nododd y CN na welwyd llong ryfel “yn y bae er diwrnodau Armada Sbaen pan ddrylliwyd galiwn ar y Gawsai”. 

Wrth angori yn y bae, cododd y llongau eu baneri’n sydyn a thanio eu gynnau enfawr i gyfarch pen-blwydd esgyniad y Frenhines Victoria i’r goron ar yr 20fed o Fehefin 1837. Ar y tir, chwiliodd y Cyngor Tref, sef awdurdod yr harbwr, yn frysiog am faner frenhinol a oedd, erbyn diwedd y dydd, yn chwifio ar dŵr y Castell. Yn y prynhawn, mentrodd y Maer, y Dirprwy Faer a’r Clerc Tref ar fôr garw i ymweld â’r Majestic er mwyn cyfarch yr Is-lyngesydd. Cafwyd sylw yn y CN “nad oedd mynd ar long ryfel bwerus (man-of-war) mor hawdd ei gyflawni â’u dyletswyddau o ddydd-i-ddydd” ac yn ôl yr AO “cawsant i gyd wlychfa go iawn”. Pan ddeallodd swyddogion y Majestic mai cyfeillion y Maer oedd gerllaw, fe’u croesawyd yn ffurfiol ar y llong i sŵn pîb. 

Roedd yn flin gan yr Is-lyngesydd Arglwydd Walter Kerr bod materion gweithredol wedi rhwystro swyddogion y Sgwadron rhag derbyn gwahoddiad y Maer a’r Gorfforaeth i wledd yr oeddynt yn gobeithio’i threfnu ar gyfer nos Lun, 22ain Mehefin. Ni rwystrodd materion gweithredol o’r fath grwpiau o rhyw 5,000 o swyddogion a llongwyr rhag mynd ar y lan ddydd Sadwrn, Sul a Llun, ac ni wnaethant chwaith atal lletygarwch y Llynges Frenhinol rhag croesawu ymweliadau ar y llongau a theithiau o’u cyfleusterau gan gannoedd o bobl y dref dros y tridiau. Gwelwyd nifer o’r llongwyr yn mwynhau teithiau ar y tir ac roedd Pontarfynach, yn arbennig, yn atyniad. Bu’r Is-lyngesydd mewn offeren yn yr Eglwys Gatholig leol fore Sul, ar y dydd Llun bu swyddogion y Repulse a’r Royal Sovereign yn chwarae mewn gêm griced ar dir y Coleg, a bu band un o’r llongau’n chwarae yn ystod y prynhawn.  

Wrth iddi nosi nos Lun, tretiwyd yr ardal gyfan i arddangosfa ysblennydd o chwiloleuadau’r Sgwadron. Cofnododd y CN bod “… pelydrau’r goleuadau mor bwerus fel eu bod nid yn unig yn goleuo’r cymylau ond bod y pelydrau llachar a oedd yn treiddio drwyddynt i’w gweld yng Ngheinewydd ac yn bell i ffwrdd yng nghanol y wlad. Pan dröwyd y goleuadau tua’r mewndir, datgelwyd Pumlumon a chopaon uwch eraill y gyfres o fynyddoedd yn rhyfeddol o glir ynghanol y tywyllwch oddi amgylch”.

Roedd nifer o’r bobl leol yn gobeithio y byddai’r Sgwadron cyfan yn aros ar gyfer yr ymweliad brenhinol ddydd Gwener, 26ain Mehefin, ond daeth gorchymyn y llynges a fynnai bod wyth o’r llongau’n gadael Aberystwyth am 10am, ddydd Mawrth, 23ain Mehefin er mwyn dychwelyd i’r porthladd ym Mhortland. “O ganlyniad, ffurfiodd y llongau yn un rhes, ar ôl cychwyn yn ddwy, a’r Halcyon fechan, a oedd yn tendio’r Sgwadron, yn arwain (AO)”. “Hwyliodd y llongau’n urddasol oddi yno gan adael yr Hermione a’r Bellona i harddu’r digwyddiadau ddydd Gwener a thanio’r salíwt frenhinol (CN)”. 

Fore Gwener, cyrhaeddodd y parti brenhinol Aberystwyth ar y trên o Fachynlleth lle’r oeddent wedi aros dros nos ym Mhlas Machynlleth, cartref Ardalyddes Weddw Londonderry. Teithiodd Tywysog a Thywysoges Cymru, ynghyd â’r Tywysogesau Maud a Victoria o’r orsaf yn y cerbyd brenhinol, wedi’u hebrwng gan farchogion, i’r pafiliwn a godwyd ar gyfer yr urddo yn Sgwâr Neuadd y Dref, wrth gyffordd Is y Llan a Morfa Mawr. Dywed y CN wrthym bod yr olygfa liwgar yn y pafiliwn orlawn “wedi’i dwysáu hyd yn oed yn fwy gan ymddangosiad hynod swyddogion y criwserau Hermione a Bellona.  … Ymddangosodd y rhain mewn gwisg forwrol, yn ysblennydd mewn les aur.  Rhoddwyd lle amlwg iddynt ar y llwyfan”. Wrth i’r parti brenhinol fynd at eu seddau “canodd y Côr ‘Y Derwyddon’ a atgyfnerthwyd gan sŵn y gynnau trymion yn atsain yn ysbeidiol ar yr Hermione a’r Bellona wrth iddynt danio salíwt frenhinol (CN)’. Urddwyd Tywysog Cymru yn briodol yn Ganghellor Prifysgol Cymru, a rhoddodd nifer o raddau er anrhydedd, un (DMus) i Alexandra, Tywysoges Cymru ac un arall (LLD) i Mr W.E. Gladstone, a wasanaethodd yn Brif Weinidog am bedwar tymor rhwng 1868 a 1894. 

Yna, gorymdeithiodd y parti brenhinol, swyddogion y brifysgol a’r gwesteion eraill i’r Coleg lle ffurfiodd môr-filwyr o’r Hermione a’r Bellona yr osgordd er anrhydedd. “Gosodwyd y bwyd ym Mhafiliwn y Pier hardd ac eang a agorwyd y diwrnod hwnnw gan Dywysoges Cymru (CN)”. Wedi hynny, symudodd y parti i ben gogleddol Rhodfa Fuddug lle cafodd y neuadd breswyl i fenywod a oedd newydd gael ei hadeiladu ei hagor yn swyddogol gan Ei Huchelder Brenhinol a’i henwi’n Neuadd Alexandra. 

Dychwelodd y parti brenhinol yn ddiweddarach i Fachynlleth ar y trên am noson arall ym Mhlas Machynlleth. Drannoeth, dychwelont i Lundain gan wneud ymweliad byr â Chaerdydd brynhawn Sadwrn. Yn y cyfamser, gadawodd criwserau y Llynges Frenhinol Fae Aberteifi am Benarth ac yno y buont wedi’u hangori gydol yr ymweliad brenhinol â Chaerdydd. Gadawont Benarth yn gynnar fore Sul gan angori am gyfnod byr oddi ar y Mwmbwls fel y gallai Abertawe dystio i’w salíwt ynnau i nodi pen-blwydd coroni’r Frenhines (28ain o Fehefin 1838). Ar ôl hyn, gadawodd yr Hermione a’r Bellona ddyfroedd Cymru er mwyn teithio o gwmpas Land’s End ac ailymuno â Sgwadron y Sianel yn ei borthladd ym Mhortland. 

Brian H Davies

This entry was posted in Aberystwyth, Blog gwadd, Ffotograffau, Y Prom and tagged , , , , , . Bookmark the permalink.

Gadewch ateb

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s