Mins peis ‘Captain Beefheart’

Campwaith arall wedi’i hysbrydoli gan Archwilio Eich Archif!

Wrth baratoi ar gyfer ein digwyddiad Creu Hanes, fe wnes i ddiod ffrwythau (shrub) – ac eisoes wedi blogio am hwnnw – a gyda chymorth fy ffrind, Mark, llwyth o fins peis Nadoligaidd ar ôl mynd i’r archif am rysáit arall o’r llyfrau Webley-Parry.
Dyma’r rysáit ichi eto:

imag2081

Mince Pie’s Meat
One pound and a half of suet, ten ounces of raisins, two pounds and a half of Currants, half a pound of sugar, half a quarter of an ounce of Mace, one nutmeg, one pound of Bullock’s heart, mix all together with some Lemon peel, then put a quarter of a pint of Brandy, and a quarter of a pint of white wine. When you use it put in Apple and sweetmeats, and a little salt.

Briwdda Mins-peis
Pwys a hanner o siwet, deg owns o resins, dau bwys a hanner o Gyrens, hanner pwys o siwgr, wythfed owns o Bergibyn, un Gneuen yr India, pwys o Galon Ychen, yn gymysg i gyd â chroen Lemwn, yna ychwanegu chwarter peint o Frandi a chwarter peint o Win Gwyn. Cyn gweini ychwanegwch Afal a Golwyth Melys, ac ychydig o halen.

Aethom i weld y cigydd Rob Rattray i brynu calon, ac roedd yn ANFERTH. Wrth lwc, roedd yn fodlon gwerthu hanner inni, ac roedd yn ddigon clên i’w thorri’n fân hefyd. Roedd yn dal yn becyn eithaf swmpus, ac ni ddefnyddion ni ond hanner ohono, sef tua phwys i gyd; roedd Gwrtheyrn, cath Mark, wrth ei bodd yn bwyta’r gweddill (fesul tipyn!)

IMAG0860Fe ddilynon ni’r rysáit bron air am air, ond gan nad oedden ni’n sicr beth oedd union ystyr ‘sweetmeats’ fe benderfynon ni hepgor y rheiny. Fe ddefnyddion ni groen candi cymysg yn lle croen lemwn. Daeth y rysáit ar gyfer y crwst o wefan BBC Good Food.

Y canlyniad: Blasus iawn; yn dipyn llai melys na’r rhai arferol. Synnwn i ddim y gallai llysieuwyr eu bwyta heb fod ddim callach (nid ein bod wedi bwydo rhai i lysieuwyr, cofiwch. Fydden ni byth yn meddwl am wneud y fath beth!)

Fe gynigion ni’r mins peis i bobl yn ein digwyddiad Archwiliwch Eich Archif, ac roedd mynd mawr arnynt, efallai am eu bod ar bwys y shrub!

[AZS]

Advertisements
Posted in Archwilio Eich Archif 2017, Ryseitiau | Tagged , , , | Leave a comment

‘Shrub’: Diod ffrwythau a brandi

Fe wnes i ddiod ffrwythau – ‘shrub‘ – ar gyfer Creu Hanes, ein digwyddiad Archwilio Eich Archif a gynhaliwyd ym mis Tachwedd 2017.

Roedd y dewrion a gymerodd lymaid wedi cael blas mawr arno, ac yn ôl pob golwg doedden nhw ddim gwaeth wedi hynny! Felly dyma gyflwyno (ar ôl galw mawr amdano) blog ynglŷn â gwneud y ddiod dra meddwol hon. Nid oes angen ond diwrnod neu ddau iddo setlo, felly gallech fod yn llymeitian eich diod ffrwythau’ch hun ddydd Nadolig os dymunwch.

wp-2-1-page-10-shrub.jpg

Trawsgrifiad (wedi’i atalnodi rywfaint):

Shrub

Take half a Pound of Lemmon Peel cut very thin and the same quantitly of Sevile orange Peel, let it infuse in two quarts of real french Brandy for twenty four hours, then strain them and by squeezeing them to the Liquor add three quarts more of the Brandy, one of Lemmon Juice and a Pint of Sevile Orange Juice, two Pound and a half of double refined Sugar. Let it stand three or four days shaking it often, filter it through a fine flannel and let it stand some hours to fine then bottle it off. You may if you like it put two quarts of Rum instead of the Brandy.

Os oes unrhyw rai yn eich plith yn gwneud marmalêd, fe wyddoch mai ffrwythau tymhorol yw orenau Seville nad ydynt ond ar gael ym mis Ionawr, ac felly fe ddefnyddiais i rawnffrwyth (i roi’r blas chwerw) ac orenau cyffredin yn lle hynny.

 

Bu’n rhaid imi leihau cynhwysion y rysáit cryn dipyn. Yn lle 5 chwart (10 peint!) o frandi ni ddefnyddiais i ond litr o’r gorau y gallai’r Co-op ei gynnig, ynghyd â sudd pedwar lemon, dau oren a dau rawnffrwyth, ac ychydig yn llai na phwys o siwgr. Roeddwn i’n ceisio defnyddio un rhan o bump o’r cynhwysion gwreiddiol, mwy neu lai.

Ar ôl gwasgu’r sudd o’r ffrwythau fe dorrais y pil yn fân mewn prosesydd bwyd (Pwysig: pil un grawnffrwyth yn unig a ddefnyddiais i) a’i roi mewn jar fawr gyda’r brandi i socian dros nos, gan gadw’r sudd ar wahân am y tro.

IMAG0663

Drannoeth fe dynnais i’r pil allan a hidlo’r hylif, rhoi’r siwgr a’r sudd i mewn a gadael i bopeth setlo yn y jar fawr, gan ei ysgwyd bob yn awr ac yn y man i helpu’r siwgr i doddi.

A dyna ni! Fe dywalltais bopeth i botel a dod â hi i’r digwyddiad, lle’r oedd pobl yn medru’i yfed yn oer, gyda jochaid o gwrw sinsir os dymunent. Yn ôl Archifydd y Sir fe ddylid ei yfed yn boeth (mae’n well imi wneud mwy cyn bo hir i roi cynnig ar hynny).

[AZS]

Posted in Archwilio Eich Archif 2017, Ryseitiau | Tagged , , , | 1 Comment

Y Teulu Hallworth, Hyde ac Aberystwyth

[Blog 1 mewn cyfres o 3]

Daeth Thomas ac Edith Hallworth o dref Hyde yn Swydd Caer, lle bu ef yn goetsmon a hithau’n wniadwraig. Ym 1911 roeddent yn byw ym Mythynnod Gwynfryn, Y Gors, gyda’u merch fach Annie, a Thomas yn gweithio fel gyrrwr i Dr Roberts o Benywern.

ADX1579.02.01-02 Gwynfryn cottage garden

Gwynfryn, Penywern

Bu Thomas yn gyrru ambiwlansys yn Yr Aifft yn ystod y Rhyfel Mawr, ac wedi hynny symudodd y teulu i Aberystwyth ac erbyn 1922 roeddent wedi agor siop ddillad ar Stryd y Bont, ble mae’r tŷ Golchi a Throi a Sychu erbyn heddiw.

Yn ddiweddarach aeth Thomas i redeg yr Eagle Garage ar ben uchaf y Lôn Gefn, sydd heb newid rhyw lawer ers hynny, a symudodd y teulu i dŷ newydd ar Heol y Buarth.

Roedd pob aelod o’r teulu Hallworth yn frwd dros foduro, ac roedd Annie’n un o selogion y clwb tenis lleol. Roedd yn fyd gwahanol iawn i dref Hyde yn oes Edward.

Mwy am y Hallworths yn fuan!

[John Wiles]

Posted in Aberystwyth, Blog gwadd, Ein hoff ddogfennau | Tagged , , | 2 Comments

Creu Hanes: Archwilio Eich Archif 2017 yn Archifdy Ceredigion

Awduron, artistiaid, gweuwyr a chogyddion, cyfansoddwyr, crochenwyr, ffotograffwyr… pawb sy’n creu!

Fe’ch gwahoddwn i greu rhywbeth mewn ymateb i’r casgliadau yn Archifdy Ceredigion.

Yn Archifdy Ceredigion rydyn ni’n cadw gwerth mwy na phum can mlynedd o hanes Ceredigion. Cymaint o fywydau, cymaint o leoedd, cymaint o ddigwyddiadau, oll wedi’u cofnodi mewn gair a llun. Hoffem ddathlu wythnos Archwilio Eich Archif eleni gyda phobl o bob cwr o’r sir a thu hwnt, pobl sydd wedi ymchwilio i’r casgliadau, eu mwynhau ac ymateb iddynt, a chreu rhywbeth newydd eu hunain.

FB title

Nid cystadleuaeth mo hon, ac mae croeso i bawb roi cynnig arni, beth bynnag eu gallu a’u hoedran. P’un a ydych chi’n wneuthurwr proffesiynol neu erioed wedi gwneud dim byd fel hyn o’r blaen, fe fyddai’n wych pe gallech chi ymuno â ni. Wrth ichi ymchwilio, efallai y daw’r awen i gyfansoddi cerdd neu stori fer, neu efallai y darllenwch chi rywbeth sy’n troi’n gân yn eich meddwl, neu gael ysbrydoliaeth i roi cynnig ar rysáit o ganrif arall.

Rydyn ni wedi rhoi rhywfaint o ddogfennau a lluniau ar ein blog i roi syniad o’r amrywiaeth sydd yma i’ch ysbrydoli – ond cofiwch fod llawer mwy na’r rhain, er mor rhyfeddol ydyn nhw. Ewch i bori drwy ein catalogau ar-lein neu waith ein blogwyr bendigedig – y blog hwn, Cofnodi’r Rhyfel Mawr neu Llythyron Llantood, galwch heibio’r Archifdy i weld y dogfennau’r ydych wedi’u dewis, dewch i gael ysbrydoliaeth a dewch i greu!

Mae angen ichi greu rhywbeth erbyn 18 Tachwedd, sef dechrau wythnos Archwilio Eich Archif. Fe gewch chi wahoddiad i ddigwyddiad yn Archifdy Ceredigion ar 23 Tachwedd lle gallwch arddangos neu berfformio’ch gwaith o flaen cynulleidfa. Fe fydd yno de a chacennau, wrth gwrs, yn unol â thraddodiadau Sir Aberteifi.

Am fwy o wybodaeth am yr archifdy, ewch yma.

arcw logoWG logo

 

Posted in Archifdy Ceredigion, Archwilio Eich Archif 2017 | Tagged , | Leave a comment

O Dywyllwch i Oleuni: Casgliad sleidiau Ronald Everson

Dyma flog newydd gan Swyddog Prosiect O Dywyllwch i Oleuni, Dr. Andrew Cusworth.

Rydym yn ddiolchgar i deulu Mr. Everson am y caniatad i roi’r casgliad ar-lein fel y gall pawb ei fwynhau.


Casgliad sleidiau Ronald Everson (ADX/1489) yw’r mwyaf yn yr Archifdy. Mae’n llanw tri blwch ar ddeg i gyd, pob un yn cynnwys dau gant o sleidiau. Er mai dim ond y sleidiau mwyaf perthnasol i ffocws yr Archifdy ar Geredigion sydd wedi’u digideiddio a’u lanlwytho, mae’r rheiny eu hunain yn rhai cannoedd o luniau.

Dechreuodd Everson ymddiddori mewn ffotograffiaeth fel hobi oddeutu 1969, yn rhannol er mwyn tynnu lluniau o’i siwrneiau a’i deulu. Roedd yn cymryd yr hobi’n gyfan gwbl o ddifrif, ac ymhen dim roedd yn cynnal sioeau sleidiau ar gyfer cymdeithasau a chlybiau megis Cymdeithas Eingl-Gymreig Llan-non. Mae nodiadau naratif a gorchmynion y sleidiau’n dal i oroesi ar gyfer o leiaf rhai o’r sgyrsiau sydd yn y casgliad.

Mewn sioe sleidiau oedd yn dwyn y teitl ‘CYMRU Gwlad Mynyddoedd, Cestyll, Llynnoedd, a Moroedd’, a roddwyd ar y 22ain o Hydref 1974. Dywedodd Everson hyn am ei hobi: ‘Buasai’n drueni pe na bai gen i luniau o fy wyres a’r holl lefydd hardd ‘na ac felly fe brynais gamera rhad imi fy hun. Cyn hynny, yr unig brofiad o ffotograffiaeth oedd gen i oedd defnyddio camera bocs pan oeddwn yn fachgen.’

Arwyddair y ffotograffydd amatur yw mai’r ‘camera gorau yw’r un sydd gen ti yn dy ddwylo’, mae Everson yn dadlennu pa mor frwd ydoedd dros ffotograffiaeth: ‘Es i ddim i’r llefydd hyn yn un swydd i dynnu ffotograffau. Digwydd bod roedd fy nghamera gen i rhag ofn! Peidiwch byth â mynd i unlle heb gamera. Byddwch yn siwr o golli allan ar lun eich bywyd.’

Trefnwyd ‘CYMRU Gwlad Mynyddoedd, Cestyll, Llynnoedd, a Moroedd’ fel siwrnai ddychmygol, ac Everson yn dywysydd – ‘’Gadewch inni ddechrau yn Aberystwyth a gan fod milltiroedd mawr o deithio o’n blaenau ni, fe godwn ni’n gynnar i weld y wawr a haul y bore cynnar.’

ADX.1489.3.03.132

ADX/1489/3/3/132 Y Wawr dros Dan y Coed

‘Does ond un lle sydd i wylio tref Aberystwyth – sef Craig Glais’

ADX.1489.3.2.041

ADX/1489/3/2/41 Aberystwyth o Graig Glais

Ac felly mae’r sioe sleidiau’n mynd rhagddi drwy bron i ddau gant o sleidiau, er mae’r naratif yn cwmpasu ychydig o dudalennau’n unig. Mae’n ymddangos bod Everson wedi cynnal nifer o sioeau sleidiau, er does ‘na’r un wedi ei chofnodi mor drwyadl â hon; y cwbl sy’n weddill o’r rheiny yw gorchmynion y dangosiadau a theitlau’r lluniau. Roedd y sioeau eraill hynny’n cynnwys ‘East Anglia, taith ar hyd yr Arfordir,’ ‘Golwg ar Loegr,’ ‘Norwy, Gwlad y Fjord’, a ‘Golygfeydd i swyno’r llygaid, rhai yn agos, rhai yn bell.’ Mae’n amlwg o’r teitlau yma bod y casgliad yn cynnwys amrywiaeth o luniau o dirweddau ac adeiladau a hyd yn oed Ras Welyau Fawr Knaresborough.

O droi’n ôl at Geredigion, mae’n dda o beth bod hobi Everson yn fodd inni gael cipolwg ar fywyd y Sir trwy gyfrwng ei luniau, ac roedd ei deulu’n falch bod yr Archifdy’n eu rhannu nhw gyda chynulleidfa newydd ar-lein. Bûm wrthi’n sganio’n ddyfal drwy’r casgliad a dyma rai o’r lluniau, er nad ydyn nhw mewn trefn neilltuol, a roddodd y pleser mwyaf imi.

ADX.1489.3.2.040

ADX/1489/3/2/40, trên Pontarfynach. Mae’r difrod sydd wedi ei achosi i ochr dde’r ffrâm, a hynny oherwydd bod y llun reit ar ddiwedd y rholyn ffilm yn rhoi awyrgylch ac osgo i’r llun.

ADX.1489.3.2.087

ADX/1489/3/2/87, Y Neuadd Fawr, Coleg Prifysgol Cymru. Y Neuadd Fawr ar ei newydd wedd go iawn

ADX.1489.3.03.015

ADX/1489/3/3/15, Dechrau Ras Seiclo, Aberystwyth. Mae’r ras yn dechrau, a’r beicwyr yn cychwyn, ond mae amseriad y llun yn creu golygfa syfrdanol o dawel a llonydd.

 

 

ADX.1489.3.1.188

ADX/1489/3/1/188, Eithin yn eu blodau, Aberdyfi. Llun a gafodd ei dynnu ar ochr y ffordd, a chip ar ryw gerbyd neu’i gilydd (car y ffotograffydd o bosib?) ac arwydd yn rhybuddio ynghylch rhoi’r llwyni ar dân.

ADX.1489.3.03.161

ADX/1489/3/3/161, Y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, Aberystwyth. Y band yn gorymdeithio heibio i Neuadd y Dref, cartref presennol yr Archifdy.

ADX.1489.3.04.179

ADX/1489/3/4/179, Gwesty’r Hafod, Pontarfynach. Rhywun yn aros i groesi’r ffordd gyda phlant y tu allan i Westy’r Hafod.

ADX.1489.3.05.103

ADX/1489/3/5/103, Rhybudd o gloddfa blwm: ‘Perygl:- Siafft Cloddfa. Os byddwch yn taflu cerrig, yn llacio’r gwaith maen, neu’n peri difrod mewn unrhyw ffordd arall i’r siafft ac yn peryglu’r rhai sy’n gweithio islaw fe gewch eich erlyn. N.C.M.C.’

ADX.1489.3.05.126

ADX/1489/3/5/126, Capel Bethel, Cwm Rheidol. Yn y llun yma, yr ydym yn credu bod Everson yn defnyddio lens ongl lydan neu drawsnewidydd, ac yn creu effaith hynod ddramatig sy’n eithaf anarferol o fewn ei gasgliad.

ADX.1489.3.06.053

ADX/1489/3/6/53, Arwerthiant Fferm ger Llanbedr Pont Steffan. Dyma lun hyfryd sy’n nodi digwyddiad o bwys yn y gymuned amaethyddol ac sy’n cyfleu peth o gyffro’r diwrnod.

[Andrew Cusworth]

Posted in Digido | Tagged , | Leave a comment

“Mae Clefydau Gwenerol yn Achosi mwy o Anafiadau na Rhyfel”: Sioe Arswydus y Llusern Hud…

Blog newydd am beryglon y Frech Fawr (Siffilis), gyda lluniau a sganwyd yn ystod prosiect digido O Dywyllwch i Oleuni


Dyma i chi gasgliad rhyfedd o sleidiau’r llusern hud (ADX/1262) sydd newydd gael eu digido ac sydd ar gael yn awr ar-lein. Mae’n dechrau â lluniau o flodau a cherfluniau cyn troi at y brif thema sef erchyllterau siffilis.

Mae’n debygol mai yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf neu’n syth ar ôl hynny y cafodd y sioe llusern hud yma ei chreu a hynny gan neu ar ran Swyddog Iechyd Meddygol Sir Aberteifi – Y Dr L. Meredith Dr Davies oedd yn y swydd y pryd hynny. Buasai darlith gyda’r sioe sleidiau wreiddiol (aeth honno i ddifancoll). Cafodd y sleidiau eu darganfod wedi’u lapio mewn papur newydd o 1919.

Roedd siffilis yn hysbys ers canrifoedd lawer ond roedd yn broblem neilltuol adeg rhyfel. Cafodd llawer o oriau gwaith eu colli yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf o’i herwydd, ac yr ofn oedd y byddai dynion a oedd yn dal siffilis yn dod â’r haint adref, ac yn ei roi i’w gwragedd ac i’w plant yn y groth.

Erbyn cyfnod y rhyfel byd cyntaf roedd modd trin Siffilis er roedd y triniaethau’n dal yn eithaf gwenwynig. Tan ddechrau’r ugeinfed ganrif roedd y rhan fwyaf o driniaethau’n cynnwys arian byw ac roedd y sgil-effeithiau’n ofnadwy, ond ym mlynyddoedd cynnar yr ugeinfed ganrif, datblygodd Cemegydd o’r Almaen o’r enw Paul Erlich gyffur a oedd yn gwella’r cyflwr. Fe enillodd Wobr Nobel  am y gamp aruthrol honno ym 1908.  Doedd y cyffur hwnnw, a adwaenid fel Salvarsan yn fasnachol, ddim yn berffaith chwaith gan ei fod yn cynnwys arsenig, ac roedd gofyn ei gymryd am gyfnodau hir er mwyn iddo weithio. Mae sleidiau sioe’r llusern hud yn dangos symptomau cas ac effeithiau siffilis gan gynnwys y cyflwr, ‘Parlys Cyffredinol y Gwallgofiaid’ a oedd newydd ei adnabod fel rhywbeth a oedd yn cael ei achosi gan siffilis.

Nes daw mwy o wybodaeth i’r amlwg allwn ni ond dyfalu pwy oedd y gynulleidfa arfaethedig ar gyfer y lluniau yma, sydd wedi eu dwyn ynghyd o ffynonellau amrywiol. O chwilio yn rhifynnau digidol yr Aberystwyth Observer a’r Cambrian News ar gyfer 1917 – 1919 does dim awgrym o gynulleidfa, ond o ystyried natur y sioe sleidiau efallai nad yw hynny’n syndod!

Mae’r sleidiau eu hunain yn gybolfa hynod ddiddorol: Mae ffotograffau o ddioddefwyr (anhysbys, ac nid yn lleol, fe dybir), sleidiau lliw tywyll o ‘ryfeddodau natur’, dwy o sleidiau sy’n amlygu peryglon yfed mewn tafarnau…

… nifer o sleidiau o bobl ifanc iach (gêm polo dŵr, ras seiclo’r merched, dawns)…

… a llawer o sleidiau sy’n cynnwys dyfyniadau mewn llawysgrifen ac ystadegau sy’n ymwneud â siffilis a’r clwy gwenerol yn gyffredinol.

Mae’r casgliad yn dangos yn ddigamsyniol bod rhywun ddechrau’r ugeinfed ganrif yn Sir Aberteifi wedi ystyried y byddai’n dda o beth ac yn angenrheidiol rhoi esboniad manwl a chynhwysfawr o broblemau cymdeithasol a meddygol siffilis a’r angen am driniaeth broffesiynol unwaith y mae diagnosis wedi ei wneud.

Efallai fod yr awdurdodau meddygol yn pryderu bod dynion yn dychwelyd adref o’r rhyfel gyda mwy nag atgofion i’w canlyn. Prin iawn yw ein casgliad ni o bapurau Swyddog Iechyd Meddygol Sir Aberteifi ac ychydig iawn o ddogfennau sydd wedi goroesi o’r cyfnod a allai daflu goleuni ar y mater.

Byddem yn falch iawn o gael mwy o wybodaeth am gasgliadau tebyg ac am unrhyw luniau ‘stoc’ a oedd yn cael eu defnyddio, os gwelwch yn dda!

[HP]

Posted in Digido, Gwyddoniaeth a thechnoleg, Swyddog Iechyd y Sir, Y Rhyfel Mawr | Tagged , , , , , | Leave a comment