Trychineb Aber-miwl: marwolaeth trasig mewn teulu lle roedd gweithio ar y rheilffyrdd yn eu gwaed

Roedd trychineb Aber-miwl yn un o’r damweiniau gwaethaf ar reilffyrdd Cymru a hynny yn dilyn cyfres o ddigwyddiadau ar 26 Ionawr 1921 pan fu i staff gymysgu’r ‘tabled’ neu daleb a roddwyd i griw yr injan i ddangos fod ganddynt rwydd hynt diogel ar hyd trac sengl. O ganlyniad i’r camgymeriad yma bu i’r trên cyflym am 10.25 o Aberystwyth wrthdaro’n benben â thrên araf wnaeth adael Whitchurch / Yr Eglwys Wen am 10.05 a.m. a hynny oddeutu 2 ½ milltir o Drenewydd a 1 ½ milltir o Aber-miwl.

Roedd y ddau drên yn teithio ar gyflymder o oddeutu 30mph a bu i’r gwrthdrawiad o 60mph ddryllio a falu’r ddwy injan.  Roedd y trên cyflym yn cynnwys saith cerbyd. Taflwyd y ddau gerbyd cyntaf oddi ar y rheiliau ond bu i nifer o deithwyr osgoi niwed difrifol.  Bu i’r tri cherbyd olaf barhau ar y rheiliau; er bod cryn ddifrod ar un ohonynt roedd y ddau olaf braidd heb unrhyw farc arnynt.  Y trydydd a’r pedwerydd cerbyd cafodd y difrod mwyaf am y bu nerth y gwrthdrawiad eu telesgopio i’w gilydd. Roedd y pedwerydd cerbyd yn gerbyd cyfansawdd  8 olwyn GWR, a oedd yn teithio i Paddington a dyma lle bu farw nifer fwyaf o deithwyr.

Lladdwyd gyrrwr a thaniwr y trên araf a bu i’r gyrrwr a’r taniwr y trên cyflym neidio o’r cab ar y funud olaf ac er iddynt gael eu niweidio bu i’r ddau oroesi. Hefyd bu farw un o gyfarwyddwyr Rheilffordd y Cambria, Yr Arglwydd Herbert Vane-Tempest, yn ogystal â’i falet James Henderson.

Ymhlith y dwy ar bymtheg a fu farw oedd gard teithwyr y trên cyflym sef Edward Shone of Aberystwyth a oedd yn 69 oed.

Mae’n bosib fod aelod o’r teulu neu ffrind agos wedi cyflwyno’r casgliad bach yma i Archifdy Ceredigion. Mae’n cynnwys darnau o bapurau a chylchgronau ar y pryd ac un erthygl mwy modern am y trychineb ac am Edward Shone yn benodol.

Mae hanes y trychineb a’r camau a gymerwyd yn ystod y gwaith achub yn dorcalonnus hyd yn oed wrth ei ddarllen 99 mlynedd ar ôl hynny, gan gofio nad oedd papurau newydd mor dawedog ag ydynt nawr wrth nodi’r holl fanylion y byddem ni yn yr oes fodern yn teimlo eu bod yn ddiangen, yn boenus ac yn annheg i’r teulu.

Corff Edward Shone oedd y cyntaf i gael ei symud o’r cerbydau a faluriwyd, a bu’n bosib ei adnabod gan ei ‘iwnifform a botymau llachar’ a bu i ebychiad trist a thawel gan y sawl oedd yno i’w hachub fynegi eu bod wedi adnabod y claf. Fel y gard teithwyr roedd yn eistedd mewn ‘bocs bach’ (mae’n bosib y byddem yn ei alw’n gwpwrdd bach) yn y caban oedd yn teithio i Paddington.  Mwy na thebyg bydd wedi ei leoli rhwng dosbarthiadau cyntaf a thrydydd yn y caban gan sylw.

Adroddiad am y cwest

Mewn cwest wedi’r ddamwain bu i Henry Shone, 3 St George’s Terrace, Llanbadarn adnabod corff ei dad a oedd yn byw yn 4 Ffordd Stanley, Aberystwyth. Bu Edward Shone yn byw yno am ymron ugain mlynedd, gan symud o Lanidloes ym mlynyddoedd cynnar y ganrif, pan fu i Gwmnïau Rheilffordd y Cambria a Rheilffordd Canolbarth Cymru uno. Roedd ganddo ef a’i wraig Annie tair o ferched a chwech mab. Bu i bob un o’r meibion ddilyn ôl troed Mr Shone a gweithio ar y rheilffordd, fel y bu iddo ef ddilyn ei dad a oedd yn un o’r gardiau cyntaf i weithio ar linell rheilffordd Canolbarth Cymru.

Roedd Henry Shone yn signalwr yn  Aberystwyth, a bu iddo weld ei dad am y tro diwethaf wrth i’r trên cyflym am 10.25 fynd allan o Aberystwyth a bu i Edward “yn ei ffordd arferol godi ei law wrth fynd heibio’r bocs signalau.”

Bu Edward ac Annie wrth i’r teulu ymestyn fyw yng Nghwmdu, wrth ymyl Llanidloes “ac roedd gan nifer o bobl y dref atgofion hapus iawn o’u cysylltiad ag ef yn yr hen amser. Roedd yn 69 oed ond roedd yn edrych tipyn yn iau, gyda’i wyneb gwritgoch siriol yn cuddio ei oedran yn haws iawn.” Nodwyd yn y papur lleol “bu iddo ymweld yn aml â lleoliadau arferol yn Llanidloes gan siarad yn gynnes am ei brofiadau yn y dref.” Ar ôl cyrraedd Aberystwyth bu iddo enwi ei gartref newydd yn Stanley Road yn ‘Idloes House’  

Yn Llanidloes bu Mr Shone yn gefnogwr selog o’r Eglwys Anglicanaidd ac ar ôl trosglwyddo i Aberystwyth bu iddo ymaelodi ag Eglwys y Drindod Sanctaidd, lle bu’n aelod gweithgar o’r eglwys.

Bu i gylchgrawn plwyf Llanbadarn Fawr, Plwyf San Mihangel ac Eglwys y Drindod Sanctaidd dalu teyrnged eu hunain ym mis Chwefror 1921 i Mr Shone.  

Roedd Mr Shone yn Eglwyswr i’r carn a bu’n mynychu Eglwys y Drindod Sanctaidd yn rheolaidd am nifer o flynyddoedd gan hefyd fod yn ystlyswr yno ac Aelod o’r Cyngor Plwyf Eglwysig. Ni allwn fynegi’n ddigonol ein gwir tristwch am y golled enfawr i’w gweddw a’i deulu. Bydd yn gysur iddynt wybod fod y parch a’r teimlad a fynegwyd am golli Mr Shone nid yn unig gan ei gyd-weithwyr ond pawb gafodd y pleser o‘i adnabod yn amlwg yn ei angladd ar gynhaliwyd ar ddydd Sul 30ain. Dyma oedd yr angladd fwyaf a welwyd erioed yn y dref. Bu farw mewn amgylchiadau trasig, ond fel milwr mewn brwydr , bu farw yn ei ddyletswydd. Boed i Dduw gysuro a chynnal y teulu yn ystod eu profedigaeth.

Rhaid i ni gadw mewn cof fod marwolaeth milwr ar faes y gad yn rywbeth a oedd yn parhau yn fyw yng nghof y Gymuned yn 1921. Roedd yr angladd yn nodedig iawn ac ysgrifennwyd amdano yn y papurau cenedlaethol gan gynnwys y Daily Mirror.  

Adroddiad yn y Daily Mirror am angladd Edward Shone

Yn 1921 prin oedd y gwasanaethau rheilffordd a oedd yn teithio allan o Aberystwyth, gyda thrên yn cludo’r post yn teithio yn y bore a’r prynhawn yn unig. Dyma’r rheswm y cynhaliwyd yr angladd ar ddydd Sul er mwyn i’w gydweithwyr ar y rheilffordd fedru mynd i angladd ffrind iddynt. Bu i drên arbennig eu cludo i lawr y rheilffordd i Aberystwyth. 

Yn ôl yr adroddiad yn y Cambrian News nodwyd, fel ei dad o’i flaen:

Adroddiad yn y Cambrian News am angladd Edward Shone

Bu Mr Shone ei hun yn gweithio ar y rheilffordd [fel gard] am dros deugain mlynedd, gan ddechrau â gofal trên a oedd yn teithio rhwng Caerdydd ac Aberystwyth.  Symudodd i fyw yn Aberystwyth oddeutu ugain mlynedd yn ôl, ac yn ystod y cyfnod hynny roedd yn gard ar y trên cyflym rhwng Aberystwyth a’r Amwythig ym misoedd y gaeaf ac ar y trên a oedd yn teithio i Lundain yn ystod misoedd yr haf. Adlewyrchwyd y parch oedd iddo prynhawn dydd Sul diwethaf pan gynhaliwyd ei angladd.  Bu i gannoedd o bobl y dref fynd i’w angladd. Cynrychiolwyd Cwmni Rheilffordd y Cambria gan Mr Herbert, un o’r cyfarwyddwyr: Mr James Rees o’r Brif Swyddfa yng Nghroesoswallt; a MR T.K. Vaughan Gorsaf-feistr, a oedd yn cynrychioli Uwcharolygydd y llinell.  Bu i drên arbennig gludo nifer fawr o ddynion y rheilffordd o wahanol ardaloedd a rhannau o’r system ….a chafwyd gwasanaeth teimladwy yn Eglwys y Drindod Sanctaidd … cariwyd yr arch o’r eglwys i’r fynwent gan weithwyr y rheilffordd. Y prif alarwyr oedd Mrs A. Shone, gweddw, Messrs. William, Edward, Thomas, James, Albert, Harry a Stanley Shone, meibion. Misses Polly, Lottie a Sally Shone (merched). Roedd 32 torch … [gan gynnwys torchau oddi wrth] Rheilffordd Dyffryn Taf, Caerdydd, Gweithwyr Rheilffordd y Canolbarth, Cwm Tawe, Darn Arfordir Rheilffordd y Cambria, Staff Clerigol Rheilffordd Aberystwyth, Cangen N.U.R Aberystwyth, Cymdeithas Cydweithredol Aberystwyth, & Wardeiniaid Eglwys y Drindod Sanctaidd

Mae ein cipolwg diwethaf i fywyd Edward Shone yn ei ysgrif goffa a gyhoeddwyd yn The Wheatsheaf ym mis Chwefror  1921, sef cylchlythyr Cymdeithas Cydweithredol Aberystwyth a’r Ardal:

Yn dilyn marwolaeth Mr Shone a fu farw mewn amgylchiadau torcalonnus yn nhrychineb ar reilffordd y Cambria ar y 26 Ionawr 1921 rhwng Drenewydd ac Aber-miwl, bu i’r Gymdeithas golli un o’i haelodau hynaf a mwyaf ffyddlon.

Bu Mr Shone ar y Pwyllgor Rheoli ers ei sefydlu yn 1915, ac roedd yn aelod a oedd bob amser yn barod ac yn awyddus i wneud beth bynnag y gallai wneud er budd y Gymdeithas. Er ei fod yn weddol dawel ei gymeriad, roedd bob amser yn ennill parch ei gydweithwyr, ac roedd pob un ohonynt yn gwerthfawrogi gwerth ei wasanaeth yn ystod y cyfnodau anodd a wynebwyd gan y Gymdeithas ac  y mae’n edifar na fu’n bosib iddo weld beth sy’n ymddangos i fod yn gyfnod  llewyrchus yn hanes y Gymdeithas. Roedd gan yr aelodau eu hunain hyder mawr yng ngallu Mr Shone gan iddo gael ei ailethol am dymor gwasanaeth arall yn y cyfarfod chwarterol diwethaf.

Roedd Mr Shone yn 69 oed a bu’n gweithio i reilffordd y Cambria am 50 mlynedd. Roedd yn wreiddiol o Lanidloes a bu’n byw yno am ryw 20 mlynedd ac yn ystod ei amser fel gard teithwyr bu iddo ennill nifer o ffrindiau yn sgil ei gymeriad hynaws a charedig wrth iddo ymdrin â theithwyr ar y Cambria. Yn ogystal â’i ddiddordeb mewn gwaith cydweithredol bu Mr Shone yn undebwr llafur egnïol a bu’n drysorydd ei gangen lleol N.U.R am ymron 20 mlynedd. Bu i’r ymadawedig adael gweddw, tair merch a chwech mab (a phob un ohonynt yn gweithio ar y rheilffordd).

Ysgrif goffa Edward Shone yn The Wheatsheaf

Wrth astudio hanes teuluol a hanes lleol mae’n aml iawn yn anodd neu’n wir amhosib i gael gafael ar unrhyw beth am gymeriad unigolion, oni bai os ydynt wedi cyfrannu mewn ryw ffordd i gymdeithas a bod yn agored i lygad craff y cyhoedd, neu os ydynt wedi gadael gohebiaeth neu ddeunyddiau eraill sy’n rhoi syniad i ni o’u cymeriad. Y mae hefyd yn anarferol i fedru cael gafael ar lawer am elfennau gwahanol bywyd pobl.  Yn yr achos yma er ei fod mewn cyd-destun trist iawn, mae’r adnoddau sydd ar gael i ni’n darparu darlun crwn o ddyn caredig ac egwyddorol, wnaeth dreulio ei fywyd mewn gwahanol elfennau o wasanaethau cyhoeddus, a fu farw mewn amgylchiadau trasig wrth ymgymryd â’i waith a oedd yn wir bleser iddo.

Helen Palmer


Isod: Adroddiadau am y trychineb yn y Montgomeryshire Express, 1 Chwefror 1921 (rhowch glic ar y lluniau i’w gwneud yn fwy)

This entry was posted in Aberystwyth, Hanes Rheilffyrdd and tagged , , , , , . Bookmark the permalink.

Gadewch ateb

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s