Ar gyfer Wythnos Archwilio Eich Archif 2018 rydym yn dathlu Blwyddyn y Môr. Mae Bandstand Aberystwyth gennym am yr wythnos gyfan a bydd pob math o bethau ar yr arlwy. Galwch mewn, mynnwch gip ar yr arddangosfeydd, gwrandewch ar gyflwyniad, ewch ar daith tywys, archebwch le ar weithdy celf, gwrandewch ar siantis môr gyda’r band The Hittites… mae rhywbeth i bawb, ac mae’r cyfan AM DDIM!
Cliciwch yma i weld y rhaglen gyfan Wythnos Archwilio Eich Archif 2018!
Diwrnod ar lan y môr: Aberystwyth 1796. Gallwch gael oriau o hwyl yn ceisio meddwl sut fyddai’r olygfa hon yn cyd-fynd â thirlun Aberystwyth erbyn heddiw. (cyf. LIB/59/3/1)