Ar gyfer Wythnos Archwilio Eich Archif 2018 rydym yn dathlu Blwyddyn y Môr. Mae Bandstand Aberystwyth gennym am yr wythnos gyfan a bydd pob math o bethau ar yr arlwy. Galwch mewn, mynnwch gip ar yr arddangosfeydd, gwrandewch ar gyflwyniad, ewch ar daith tywys, archebwch le ar weithdy celf, gwrandewch ar siantis môr gyda’r band The Hittites… mae rhywbeth i bawb, ac mae’r cyfan AM DDIM!
Bydd y newyddion diweddaraf am unrhyw ychwanegiadau i’r rhaglen yn ymddangos ar y dudalen hon.
Y RHAGLEN
Bob dydd
Byddwn ar agor rhwng 10.00 a 5.30 bob dydd, oni nodir fel arall. Bydd digon o bethau i’w gweld a’u profi:
- Arddangosfeydd ynglŷn â chyswllt Ceredigion â’r môr.
- Paneli arddangos ynglŷn â’n treftadaeth forwrol, wedi’u curadu gan fyfyrwyr ôl-raddedig Gweinyddiaeth Archifau – Prifysgol Aberystwyth
- Bwth tynnu lluniau yn null Oes Fictoria – ar thema’r arfordir. Gwisgwch i fyny yn nillad yr oes a fu (ar fenthyg trwy garedigrwydd Amgueddfa Ceredigion) ac ystumiwch i’r camera o flaen y gefnlen forol!
Creu bathodynnau, i bob oedran!
- Neges mewn Potel – ysgrifennwch eich pennawd newyddion am y dydd a rhowch ef yn y botel i’w gadw i’r oesoedd a ddêl.
- Cornel Gyfforddus: ymlaciwch a gwyliwch sioe sleidiau o’r casgliadau sydd gennym a rhannwch eich atgofion â ni!
- Porwch drwy ddetholiad o lyfrau a chardiau cyfarch Archifdy Ceredigion sydd ar werth am bris rhesymol
- Cyfle i siarad ag archifwyr go iawn – yn y cnawd!
- Lluniaeth
- Llawer o sgyrsiau a gweithgareddau eraill – gweler yr amserlen isod.
Dydd Llun 19 Tachwedd
Drysau yn agor am 14.00
15.00-15.30 Arhoswch yn llonydd – dim symud! Hen ffotograffau yn yr Archifau. Cyflwyniad gan Uwch Archifydd Ania Skarżyńska
16.00 – 18.00 Digwyddiad lansio
Dydd Mawrth 20 Tachwedd
10.30 – 11.00 am Bywyd ar y Moroedd – Capten Roberts a’r Oronsay: sgwrs gan Helen Palmer, Archifydd y Sir
15.00 – 15.30 Y Queen’s Hotel: sgwrs gan Helen Palmer, Archifydd y Sir
Dydd Mercher 21 Tachwedd
12.00 – 12.30 ‘Ganed ar y Môr’: Troseddwyr yn Cuddio pwy oeddent yng Nghymru’r Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg: sgwrs gan Richard Ireland, hanesydd y gyfraith
15.00 – 16.00 Dewiniaeth a Hud yn Sir Aberteifi: cyflwyniad gan Helen Palmer, Archifydd y Sir
Dydd Iau 22 Tachwedd
10.00 – 13.00 Gweithdy printio leino gyda Jenny Fell (oedolion) LLAWN
15.00 – 15.30 Hen fapiau yn Archifdy Ceredigion: sgwrs gan Uwch Archifydd Ania Skarżyńska
19.00 – 21.00 Noson o siantis môr a chaneuon eraill gyda’r Hittites
Dydd Gwener 23 Tachwedd
10.30 Taith tywys ar hyd y Prom yng nghwmni John Weston. Os bydd hi’n wlyb bydd hwn yn digwydd ar ffurf cyflwyniad yn y Bandstand
15.00 – 15.30 ‘We Have a Plan’: darganfod cynlluniau adeiladau Aberystwyth yn Archifdy Ceredigion: sgwrs gan Uwch Archifydd Ania Skarżyńska
Dydd Sadwrn 24 Tachwedd
11.00 – 14.00 Gweithdy printio leino gyda Jenny Fell (plant 8-12). 10 lle ar gael – archebwch docyn nawr!
15.00 – 17.00 Gweithdy – creu symudyn ar thema’r môr i blant 5-12 oed gydag Alison Hincks. Hyd at 15 o blant – archebwch docyn nawr!
Sylwch mai ond hyn a hyn o lefydd sydd ar gael ar gyfer rhai o’r digwyddiadau. Dilynwch y dolenni i archebu lle.

Diwrnod ar lan y môr: Aberystwyth 1796. Gallwch gael oriau o hwyl yn ceisio meddwl sut fyddai’r olygfa hon yn cyd-fynd â thirlun Aberystwyth erbyn heddiw. (cyf. LIB/59/3/1)