Fel y gwelwch ar Cofnodi’r Rhyfel Mawr, rydym yn parhau i gynhyrchu blog am y digwyddiadau hynny a oedd yn ymwneud â’r Rhyfel Mawr.
Ar ôl 224 wythnos o flogio am effaith y rhyfel ar drigolion Sir Aberteifi, cyhoeddwyd heddwch a llofnodwyd y Cadoediad. Wythnos ar ôl wythnos, cafwyd storïau diddorol ac emosiynol yn aml a phe bai amser wedi caniatáu, byddai wedi bod yn hynod o ddiddorol cloddio’n ddyfnach i’r adroddiadau yma er mwyn darganfod mwy. Wrth i’r blog fynd yn ei flaen, roedd hi fel pe bai’n dod yn fwy ac yn fwy pwysig datgelu enwau’r unigolion hynny a oedd wedi dioddef ac wedi cysegru’r cyfan. Gyda dyfodiad heddwch, ni ddaeth diwedd ar effeithiau’r rhyfel ar boblogaeth y Sir. O gofio hynny, ymddengys ei bod ond yn briodol cofnodi’r digwyddiadau hynny ym 1919 a oedd yn deillio o’r rhyfel. Yn wir, mae’r papurau newydd a’r eitemau yng nghasgliadau Archifdy Ceredigion yn dal i gyfleu llawer am bethau a ddigwyddodd yn sgil y rhyfel, megis dimobio, carcharorion yn dychwelyd adref, gwasanaethau coffa, trin milwyr a morwyr a oedd wedi eu rhyddhau neu filwyr a morwyr a oedd yn anabl o ganlyniad i’r rhyfel, rôl menywod, pensiynau, tai a mwy.
Felly roeddem yn teimlo ei bod yn rhy gynnar i orffen gyda’r blog oherwydd bod yr effeithiau a deimlwyd wedi i’r rhyfel orffen yr un mor arwyddocaol i lawer o drigolion Sir Aberteifi ag oedd y digwyddiadau yn ystod y brwydro.
[MEJ]
Gyda diolch mawr i Margaret E. Jones am ei gwaith caled a pharhaol ar y blog dros y bedair mlynedd diwethaf.