Mae gennym gyfres o ryseitiau o Dloty Aberystwyth (a safai ar safle Ysbyty Bronglais) ym 1884.
Cafodd y tloty ei godi o ganlyniad i Ddeddf Diwygio Cyfraith y Tlodion 1834. Roeddynt yn adeiladau mawr a gafodd eu cynllunio i gartrefu pobl dlawd oedd ddim yn gallu gofalu amdanyn nhw eu hunain. Mae’r gair Saesneg ‘workhouse’ wedi ei seilio ar yr egwyddor y byddai’r trigolion yn gweithio at eu cynhaliaeth. Fodd bynnag, roedd gan lawer o’r bobl yma anableddau ac yn methu gweithio. Roedd rhai’n oedrannus iawn ac yn fethedig, neu’n blant a oedd naill ai’n amddifad neu roedd eu rhieni wedi cefnu arnynt. Dim ond rhai o’r trigolion (megis menywod â phlant yr oedd eu gwŷr wedi ymadael â nhw) oedd yn abl i weithio. Yn wreiddiol, roedd mynd i’r tloty i fod i godi cywilydd ar bobl fel na fyddai neb yn dymuno mynd yno oni bai fod hynny’n gwbl angenrheidiol. Roedd y bwyd gwael hefyd yn ymgais i annog pawb ond y rhai a oedd yn y trybini mwyaf enbyd i beidio â mynd i’r tlotai. Er hynny, doedd y tlotai ddim yn sefydliadau creulon o fwriad a doedd pobl ddim yn mynd heb fwyd (fel rheol); yn wir roedd y prydau’n eitha’ hael.

Rhestr o fwyd ar gael yn y Tloty
Roedd y prydau’n blaen, yn ddiflas ac yn undonog ond yn o lew o faethlon. Yn nhreigl amser fe wnaeth bwyd y tlotai wella wrth i agweddau pobl fynd yn fwy haelionus, pan sylweddolwyd bod y trigolion yn wirioneddol analluog i weithio yn hytrach nac yn amharod i wneud hynny.
Helen Palmer, Archifydd y Sir, yn siarad am fwyd yn y Tloty
Beth am roi cynnig ar y ryseitiau? Mae’r bwyd yn debyg iawn, ac yn well weithiau, na’r hyn y byddai gweithiwr neu was fferm yn Sir Aberteifi’n ei gael i’w fwyta yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
A oes gennych chi ddiddordeb yn y Tlotai? Mae gennym gatalog o gasgliadau ynglŷn â thlotai Aberaeron, Aberystwyth , Aberteifi, Llanbedr Pont Steffan, Tregaron a Chastellnewydd Emlyn.