Mae Blas y Gorffennol yn Archifdy Ceredigion.
Mae ryseitiau lu yn Archifdy Ceredigion. Maen nhw i’w cael mewn amryw o gasgliadau sy’n rhychwantu tair canrif. Mae rhai mewn llyfrau printiedig, efallai’n hyrwyddo brand neu gynnyrch penodol, ac eraill wedi eu copïo’n ofalus mewn llawysgrifen, wedi eu rhannu rhwng ffrindiau yn yr oesoedd a fu. Maen nhw’n dod o wahanol ffynonellau ac maen nhw’n adnodd gwych i bawb eu mwynhau.
Mae bwyd ac arferion coginio’r gorffennol yn ddifyr tu hwnt ac mae’n sbarduno pob math ar ymchwil. Mae llawer o eiriau ac ymadroddion yn anghyfarwydd heddiw – beth yn union YW padell dân? Ydych chi’n gallu bwyta toddion ynteu a fydden nhw’n llosgi’ch tafod chi? Beth yw bara coesed?
Mae’n andros o hwyl ac yn ddiddorol iawn. Bwyd y tlawd, bwyd y crach, bwyd adeg heddwch a bwyd adeg rhyfel; llyfr coginio’r ysgol neu fwyd cordonbleu, mae cymaint i’w weld – a’i flasu.
Y cwbl sydd ei angen yw rysáit, rhestr siopa, cegin ac ychydig bach o ddychymyg….