Nid dyma’r tro cyntaf, na’r tro olaf, i lyfr coginio Webley-Parry ymddangos ar ein blog ni. Ar gyfer Wythnos Archwilio Eich Archif 2016, rhoddodd yr archifydd yma gynnig ar rysáit y Bisgedi Te.

Y ddogfen (rhif cyf. WP/2/1)
Dyma’r rysáit gwreiddiol:
Bisgedi Te
Pwys o flawd,
2 owns o Siwgr Wedi ei Hidlo,
1 owns o Hadau Carwe,
Eu cymysgu gyda’i gilydd; rhwbiwch 2 owns o fenyn ffres i mewn a melyn Wy, gwlychwch â llaeth ac ychwanegwch jochiad bach o Frandi ato.
Rholiwch y cyfan yn denau a thorrwch allan ? o deisennau gyda gwydryn. Priciwch nhw cyn eu rhoi yn y ffwrn.
Tynnwch nhw o’r ffwrn pan fyddant yn barod a’u rhoi nôl mewn eto i grimpio ar ôl i’r ffwrn oeri.
Defnyddiais i hanner y cynhwysion, fe wnes i’r toes a’i rolio allan yn ôl y cyfarwyddiadau.
Helpodd Noodle y ffured trwy waredu’r rhan o’r wy nad oedd ei angen arna’ i.
Roedd y ffwrn yn boeth – oddeutu 200 gradd Celsius – ac fe bobais y bisgedi am oddeutu 15 munud. Wedyn, ar ôl i’r ffwrn oeri fe roddais i nhw’n ôl i mewn, yn unol â’r cyfarwyddiadau. Ystyr y gair bisged yw ‘coginio ddwywaith’ ac felly roedd yn ddiddorol gweld hynny’n cael ei adlewyrchu yn y rysáit.
Roedd y bisgedi’n flasus tu hwnt er yn galed iawn. Rwy’n deall pam oedd angen eu rholio’n denau iawn! Doedden nhw ddim mor felys â bisgedi modern, ond da o beth yw hynny, i’m meddwl i. Ddim yn siŵr pam oedd angen brandi; dim ond llond cap ddefnyddiais i, ta beth.
Y Farn – cymeradwy. Mae profwyr wedi gofyn am y rysáit! Yn bendant am wneud y rhain eto.
DIWEDDARIAD: Dwi wedi gwneud rhai eto! Roeddwn i am weld a fyddai’n bosib eu gwneud nhw’n llai caled ac felly mi roddais i ddwbl y menyn. Rhoddais i fwy o frandi a llai o laeth i wlychu’r toes (doedd dim angen cymaint beth bynnag oherwydd y menyn) ac fe roliais i nhw’n deneuach. Heblaw am hynny, dilynais y rysait. Yn ôl y disgwyl doedd y bisgedi ddim mor galed, yn debycach i fisgedli modern o ran eu hansawdd. Blasus tu hwnt!
[AZS]