Bydd y catalog o ddyddiaduron a dogfennau eraill o’r casgliad Webley-Parry (cyf. WP) yn dod ar ein gwefan cyn bo hir. Mae un o’n gwirfoddolwyr, John Wiles, wrthi’n rhestru’r lluniau, ac ef sydd wedi llunio’r blog – isod – sy’n cyflwyno rhan o’r casgliad.
Mae’r lluniau yn y casgliad Webley Parry’n dogfennu bywydau breintiedig bonheddwyr de Sir Aberteifi yn ystod y Belle Époque, sef diwedd Oes Fictoria a dechrau Oes Edward. Ceir lluniau o’r 1860au hyd at flynyddoedd cynnar yr ugeinfed ganrif, ac fe’u tynnwyd ar hyd a lled Prydain, mewn mannau ffasiynol ar y Cyfandir ac yn rhannau mwy llewyrchus yr Ymerodraeth. Cadwyd y lluniau yn nwylo teulu’r Llyngesydd Herbert Willis Webley Hope, a briododd ei gyfnither, Katherine Kewley, ym 1905.
Mewn tri chas lledr, un ohonynt o siop John Lewis, mae casgliad o bortreadau teuluol wedi’u hargraffu ar cartes de visite yn ogystal â’r cardiau cabinet mawr a ddaeth yn ddiweddarach.
[Rhowch glic ar luniau i’w gwneud yn fwy]
- WP/5/1/34 Carte de visite yn dangos Katherine Kewley mewn gwisg theatraidd, tua 1895
- WP/5/2/8 Cerdyn cabinet yn dangos teulu’r Llyngesydd Charles Webley Hope; mae Herbert, yr ieuengaf, yn eistedd yn y canol, tua 1885
- WP/5/3/17 Cerdyn cabinet yn dangos Herbert Hope fel canol-longwr, tua 1892-8
Ceir amrywiaeth llawer helaethach yn y pedwar albwm. Yn ôl pob tebyg, roedd yr un cynharaf yn eiddo i Maria Brigstocke, née Webley Parry, ‘Modryb Brigstocke’, a oedd yn feistres weddw ym Mlaen-pant rhwng 1861 a 1898. Ynddo mae llawer iawn o luniau proffesiynol, gan gynnwys sawl un o blasty Blaen-pant. Mae eraill yn dangos yr adeg pan gyrhaeddodd y clychau yn yr eglwys a adeiladodd Mrs Brigstocke yn Llandygwydd. Gellir tybio fod y lluniau o wyliau a theithiau wedi’u hanfon ati oddi wrth berthnasau iau.
[Rhowch glic ar luniau i’w gwneud yn fwy]
- WP/5/4/3 Blaen-pant, tua 1855-8
- WP/5/4/3 Blaen-pant, tua 1855-8
- WP/5/4/32 Clychau Eglwys Llandygwydd, Mrs. Brigstocke yn y canol.
Yn yr albymau eraill ceir twr o gipluniau, ac yn rhai ohonynt gallwn weld pobl yn dal camerâu bocs. Ceir golygfeydd o dai ac ystadau, mabolgampau, gwibdeithiau, gwyliau a theithiau, ynghyd â llongau a’u criwiau a’r ffordd drefedigaethol o fyw. Gwelwn Herbert a Katherine yn aml, yntau’n tyfu o fod yn fachgen ysgol i ganol-longwr ac yna’n is-gapten, a hithau’n llawn hwyl gyda’i chyfoedion di-briod. Wrth hamddena byddent yn gwneud pethau fel cynnal dramâu amatur a beicio, pan oedd y chwiw fawr am y gamp honno yn ei hanterth.
[Rhowch glic ar luniau i’w gwneud yn fwy]
- WP/5/5/32 Un o blith nifer o gipluniau a dynnodd criw o enethod ifainc o’i gilydd, gan gynnwys Katherine Kewley a’i chwaer, Mary, ym Mynydd y Gernos, Sir Aberteifi, ym 1898 (Katherine Kewley yn y canol ar y chwith).
- WP/5/5/32 Genethod ifainc, perthynas oedrannus a nyrs ym Mynydd y Gernos ym 1898, sylwer ar y camera bocs.
- WP/5/5/3 Y chwiorydd Grant o Ecclesgraig, Swydd Aberdeen, ar eu beiciau ym 1895.
Hwyrach fod Herbert Hope wedi mynd ar y môr fel canol-longwr ac yntau ond yn 13 neu 14 mlwydd oed (1892-3) a daeth yn is-gapten erbyn 1900. Bu’n gwasanaethu ar nifer o longau, gan gynnwys y llong ryfel HMS Empress of India a’r criwser ail ddosbarth, HMS Astrea.
[Rhowch glic ar luniau i’w gwneud yn fwy]
- WP/5/5/37 Swyddogion y llong ryfel H.M.S. Empress of India, efallai pan oeddent ar wasanaeth ym Môr y Canoldir, tua 1897-8. Hwyrach mai’r canol-longwr Herbert Hope sydd yn y rhes flaen, yn y canol ar y dde.
- WP/5/5/9 Y gynfad torpidos, HMS Speedwell, yn gwneud ei ffordd drwy’r dŵr
- WP/5/5/9 Swyddog ar fwrdd HMS Astrea
- WP/5/5/8 Ar symudiadau ym 1894 , Blue Fleet
Mae ambell i lun yn dangos ymweliad dwy ferch ifanc a’u gwarchodwraig â thri is-gapten ifanc yn Ysgol Ynyddiaeth y Llynges ar Whale Island, Portsmouth, ym 1900. Y merched ifainc yw Katherine a Mary Kewley, ac un o’r swyddogion yw Herbert Hope.
[Rhowch glic ar lun i’w wneud yn fwy]
[John Wiles]