[O’r rhagarweiniad i’r ail-argraffiad]
Pan ddes i o hyd i gopi gwreiddiol o Aberystwyth, Official Guide and Souvenir mewn siop lyfrau yn Macclesfield meddyliais ar unwaith y dylwn ei brynu a mynd ag ef adref i’w briod le. Ond yn ddiweddar rwyf wedi dod i’r casgliad fod pwy bynnag oedd piau’r llyfr yn siŵr o fod wedi’i drysori am flynyddoedd lawer fel rhywbeth i gofio am eu gwyliau ar lan y môr yn nhref arbennig Aberystwyth. Holl bwrpas y llyfr oedd ei fod yn gadael y dref!
Gobeithiwn y byddwch chwithau hefyd yn prynu’r ailargraffiad hwn o’r llyfr gwreiddiol a gyhoeddwyd yn y 1920au. Mae rhai o’r manylion yn dal yn berthnasol ac yn ddifyr, ond mewn rhannau mae fel mynd yn ôl mewn amser – wrth ddarllen byddwch yn dychwelyd i Aberystwyth pan oedd y rhifau ffôn yn fyrrach, pan oedd golau trydanol yn dal yn beth newydd yn y gwestai, a phan fyddech wedi talu dau swllt a chwech am botel o bersawr ‘Aberystwyth Breezes’.
Helen Palmer
Archifydd y Sir, Archifdy Ceredigion
Mae’r ailargraffiad bendigedig hwn ar gael yn syth o’r Archifdy am £5, neu gallwch archebu copi ar Amazon.