Mae enw’r cawl yma o 1913 yn reit ddoniol. Ai’r cawl ynteu’r teulu sy’n wych?
Mae cawl yn dibynnu ar godi blas y cig a’r llysiau sydd wedyn yn cael eu gwaredu (neu’u defnyddio at ddibenion eraill). Mae’r gwlych sy’n weddill yn cael ei dewychu cyn ei weini. Mae angen 3½ chwart (neu saith peint) o ddŵr – a sosban fawr iawn – ond does dim angen llawer iawn o gynhwysion eraill.
Defnyddiwch sego i dewychu’r cawl. Bydd rhai’n cofio pwdin sego, sef pwdin llaeth a oedd yn boblogaidd gan y plant yng nghanol yr ugeinfed ganrif. Roedd y plant oedd ddim yn hoffi sego (neu dapioca, rhyw fwydiach arall lled debyg iddo) yn arfer dweud ei fod yn ymdebygu i rifft llyffant.
Daw coes las cig eidion o ran uchaf y goes flaen.
Y cyflasau olaf i’w hychwanegu yw pergibyn (sbeis a ddaw o’r siderion a geir ar nytmeg) a phupur cayenne, sy’n goch ac yn boeth, sy’n annisgwyl braidd ac yn gyffrous!
[HP]