Cyn y llungopïwr

Blog gwadd gan Dr. Brian H. Davies.

Mae James Watt (1736-1819) yn enwog hyd heddiw am ei waith i wella injan stêm Newcomen, ond roedd hefyd yn arloeswr mewn technoleg swyddfa. Gadawodd wlad ei febyd, Yr Alban, a symud i Firmingham ym 1774 i gydweithio â Matthew Boulton, y peiriannwr y bu’n datblygu’r injan stêm Boulton a Watt gydag ef. Roedd y ddau fel ei gilydd yn aelodau o’r Lunar Society, cylch o gyfeillion oedd yn cwrdd yn rheolaidd i drafod pynciau technegol o ddiddordeb iddynt oll. Ymhlith yr aelodau roedd Joseph Priestley, James Keir a dau daid Charles Darwin, Erasmus Darwin a Josiah Wedgewood. Roedd y gwŷr busnes yn eu plith yn rhwystredig am eu bod yn gorfod copïo pob llythyr mewn llawysgrifen i’w cofnodion. Ym 1780, enillodd James Watt batent am ei ‘ddull newydd o gopïo llythyrau a deunyddiau ysgrifenedig eraill.’

1. Wrth agor y llyfr llythyrau gwelir fod y 1000 dalen cwarto (11” x 9”) wedi’u rhifo a’u rhwymo o dan y clawr caled.

Hanfod y dull yma oedd gwlychu darn o bapur tenau iawn, heb ei ludo, a’i osod ar ben yr ysgrifen pan oedd yr inc yn dal yn wlyb. Wedyn câi’r ddwy haen eu gwasgu â’i gilydd naill ai mewn gwasg sgriwio neu’r wasg rolio’r oedd Boulton wedi’i hadeiladu. Roedd rhywfaint o’r inc yn trosglwyddo o’r papur gwreiddiol i’r papur tenau; roedd yr ysgrifen o chwith wrth gwrs, ond roedd yn ddigon hawdd ei ddarllen o’r ochr arall gan fod y papur mor denau. Nodwyd yn y patent y dylid defnyddio inc haearn-afalau’r deri i gopïo, ond yn gymysgedd fwy trwchus na’r hyn a ddefnyddiwyd at ddibenion heblaw am gopïo, fel y defnyddiwyd gyda chwils ers y canol oesoedd. Cymysgid gwm Arabaidd â dŵr oedd yn cynnwys dau beth, sef copras (hynny yw, sylffad haearn) a rhin afalau’r deri, a oedd yn adweithio gyda’i gilydd i greu lliw du’r inc arbennig hwn.

Dyfeisiwyd y dull yn y lle cyntaf ar gyfer gwneud copïau unigol o lythyrau, a gellid ei ddefnyddio gyda’r peiriant copïo a werthwyd gan James Watt and Co. (Watt, Boulton a Keir). Roedd y peiriant yn dod mewn cês mahogani a phres a oedd yn cynnwys popeth y byddai ei angen ar unrhyw ŵr busnes i ysgrifennu llythyrau a’u copïo, gan gynnwys gwasg rholio. Fe’i gwerthwyd ymhell ac agos; roedd hyd yn oed Thomas Jefferson wedi defnyddio un ar ddechrau ei gyfnod fel Arlywydd yr Unol Daleithiau.

2. Wrth agor y llyfr ar dudalennau 843 ac 844, wyneb uchaf 843 yw’r arwyneb y rhoddwyd copïau o’r ddau lythyr gwreiddiol arno, ac mae’r ysgrifen i’w weld yn ddrych-ddelwedd o’r rhai gwreiddiol. Ar dudalen 844 mae’r copi ar yr wyneb sydd o’r golwg, ond mae’n hawdd ei ddarllen drwy’r papur tenau.

Bu llawer o ddatblygiadau yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg o ran ysgrifennu llythyrau a’u copïo. Daeth yr ysgrifbin ddur i ddisodli’r gwilsen yn raddol yn y 1820au a dechreuwyd rhoi siwgr neu glyserin yn yr inc copïo fel na fyddai’n sychu mor sydyn. Roedd hynny’n golygu nad oedd cymaint o frys wrth wneud copi pan oedd yr inc yn wlyb, a bod modd gwneud mwy nag un copi. Defnyddiwyd mathau gwahanol o inc heblaw am inc haearn-afalau’r deri, ond roedd yr egwyddor yr un fath. Er enghraifft, rhoddwyd cynnig ar ddefnyddio coed lliwio a rhai o’r lliwiau synthetig cynharaf (ar ôl 1860) fel inc ar gyfer copïo. Ond y newid mwyaf oedd rhoi’r gorau i wneud copïau ar ddalennau unigol o bapur a dechrau gwneud copïau mewn llyfrau copïau neu lyfrau llythyrau gwlyb.

3. Mae tudalen 812 yn gopi o’r un o’r llythyrau prin a ysgrifennwyd yn Gymraeg; gellir gweld rhai o’r tudalennau sy’n dilyn drwy’r papur tenau iawn.

Byddai’r llyfrau hyn fel arfer yn cynnwys hyd at 1000 o dudalennau o bapur tenau iawn, heb ei ludo, wedi’u rhwymo o dan glawr caled. Roedd yn rhaid i’r papur fod yn wydn pan oedd yn llaith, ac felly roedd yn rhaid iddo fod wedi’i wneud o ffibrau hirion (er enghraifft, coed morwydd), ac o’r 1860au ymlaen, câi’r rhan helaeth o bapur ei fewnforio o Siapan at yr union ddiben hwn. Wrth agor y llyfr, rhoddid dalennau o bapur gwrth-ddŵr (oeliog) o dan y tudalennau ar y chwith a’r dde. Rhoddid y llythyr i’w gopïo gyda’r inc am i fyny ar y dudalen ar y dde, ac fe gâi’r dudalen ar y chwith ei lleithio fel y gallai gymryd y copi. Yna fe gaewyd y llyfr a’i wasgu mewn gwasg sgriwio (gwasg gopïo, gwasg lythyrau), ac roedd y clawr caled yn sicrhau y câi’r pwysau ei wasgaru’n gyfartal. Ar ôl tynnu’r llyfr o’r wasg a’i agor, tynnid y llythyr gwreiddiol allan a gadawyd y copi i sychu.

Roedd llyfrau copïo fel hyn yn gyffredin iawn mewn swyddfeydd o’r 1870au ymlaen. Pan gyflwynwyd y teipiadur a phapur carbon oddeutu troad y ganrif, nid oedd angen mwyach am y llyfr copïo ar gyfer y rhan helaeth o ohebiaeth mewn byd busnes, ond credir y bu pobl yn dal yn eu defnyddio ar gyfer copïo llythyrau mewn llawysgrifen hyd at y 1950au.

Mae’r lluniau’n dangos llyfr llythyrau a ddefnyddiwyd ym 1907 yn swyddfeydd Evans, Thomas a Jones, cyfreithwyr yn Llandysul a Chastellnewydd Emlyn (Archifdy Ceredigion, Cyf ETJ, Rhif cyfrif 2370)


Rydym yn ddiolchgar i Dr. Brian H. Davies am ei ganiatâd i ail-gyhoeddi ei erthygl yma fel blog gwadd. Mae hefyd ar gael fel PDF ar ein gwefan .

This entry was posted in Blog gwadd, Gwyddoniaeth a thechnoleg and tagged , , , , , , . Bookmark the permalink.

Gadewch ateb

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s