Ar hyd y pedair wythnos diwethaf rwyf wedi cael y fraint o gatalogio cofnodion Cwmni Harbwr Y Ceinewydd. Cafodd Archifdy Ceredigion grant gan Gyngor Archifau a Chofnodion Cymru ar gyfer y prosiect hwn, a’r cylch gwaith oedd catalogio ac ail-becynnu/diogelu casgliad y Cwmni, creu arddangosfa ar-lein, ac ysgrifennu blog – a dyma fe!
Mae casgliad Cwmni Harbwr Y Ceinewydd yn un cymharol fach, gyda llond dau focs o ddeunydd yn yr archif. Ynddo ceir dogfennau sydd a wnelont â materion cyfreithiol – sefydlu’r Cwmni, Deddfau Seneddol, Is-ddeddfau lleol a chofnodion o’r amryfal anghydfodau cyfreithiol y bu’n ymwneud â hwy; cofnodion eiddo – gweithredoedd eiddo, prydlesi (gan gynnwys tollau), biliau costau cysylltiedig ac ati; cofnodion cyllid, yn enwedig y rheiny oedd a wnelont â chyfranddalwyr; gohebiaeth; a nifer fechan o eitemau mwy byrhoedlog – rhestr o enwau tai, ac enwau llongau, yn Y Ceinewydd; a llun o Gymdeithas y Methodistiaid Calfinaidd a gynhaliwyd yn Y Ceinewydd ym 1900, fel y gwelir isod.
Mae’r casgliad yn cwmpasu’r cyfnod cyn sefydlu Cwmni Harbwr Y Ceinewydd, sefydlu’r cwmni, ei weinyddiaeth feunyddiol, ac yn y pen draw ei drosglwyddo i ddwylo llywodraeth leol. Mae’n dyddio o 1787 tan 1953.
Er bod a wnelo’r rhan helaeth o’r deunydd â’r Ceinewydd, yn Sir Aberteifi (Ceredigion), mae rhywfaint ohono’n sôn am lefydd eraill yn y sir (sef porthladdoedd Aberystwyth ac Aberaeron), ac mae un ddogfen yn cyfeirio at Harbwr Bryste.
Ceir mwy o gofnodion sy’n gysylltiedig â’r casgliad hwn yn Archifdy Sir Gâr, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, a’r Archifdy Gwladol, Kew. Mae’r cofnodion isod – Tystysgrif Cyfrannau (chwith), Prydles y Stordy (canol) a Thollau’r Harbwr (dde) yn rhan o gasgliad Archifdy Ceredigion ar Gwmni Harbwr Y Ceinewydd.
Bu’n brofiad arbennig; cefais gyfle i fynd i’r afael â chasgliad newydd o fath gwahanol i’r hyn y bûm yn gweithio arno yn y gorffennol, ac roedd yn bleser mawr imi. Erbyn hyn rwy’n gwybod llawer mwy nag erioed am ddyfnderoedd porthladdoedd, problemau â llaid, y Patent Slip, y trafferthion a’r caledi o redeg Cwmni Harbwr, heb sôn am y mater dadleuol o ymdrochi ar y Sul…
Hoffwn ddiolch i bawb yn Archifdy Ceredigion ( Ania, Gwyneth, Helen, Mair, a Margaret) am ateb fy nghwestiynau, am wneud peth wmbreth o lungopïau imi, am fod mor hael â’u gwybodaeth, ac am fod yn bobl mor hyfryd i weithio â hwy. Diolch hefyd i’r gwirfoddolwyr (Anna, John, Lucie, Sian a Tish) am yr hwyl a gawsom bob dydd Mawrth a dydd Mercher. Hoffwn hefyd ddiolch i staff y Llyfrgell am eu croeso ac am adael imi fynd i mewn i’r ‘Crypt’. Fy mhrofiad cyntaf o weithio gydag archifau oedd pan fues i’n gweithio mewn llyfrgell gyhoeddus yn ôl yn Swydd Caint, ac felly roedd bod yn ôl mewn awyrgylch fel hyn fel bod adref imi.
Gallwch weld y catalog a’r arddangosfa ar-lein ar ein gwefan.
Ceir arddangosfa fach ar bapur hefyd, sy’n rhoi cyflwyniad i’r casgliad ac yn dangos rhai o’r dogfennau sydd ynddo (ar ffurf copïau), yn y cwpwrdd gwydr y tu allan i ddrws swyddfa’r Archifdy yn Hen Neuadd y Dref, Maes y Frenhines, Aberystwyth.
Lynne Moore
Ebrill 2015