Yn 1864 daeth y rheilffordd i Aberystwyth gan greu brwdfrydedd bod y dref yn datblygu i fod yn ‘ Biarritz Cymru ’. Gwelwyd gwestai yn cael eu datblygu ac adeiladwyd pier ar bromenâd Aberystwyth.
Cynlluniwyd y pier gan y peiriannydd, Mr Eugenius Birch ac fe’i adeiladwyd gan J.E. Dawson o Gwmni’r Pier Aberystwyth. Agorwyd ef ar Ddydd Gwener y Groglith, 1865 gan Mrs Dawson ac ar y diwrnod agoriadol, talodd 7000 o ymwelwyr i weld yr olygfa o’r strwythur 242 metr.
Print o’r pier newydd o’r Illustrated London News (ADX/1005 – Archifdy Ceredigion)
Ar ddechrau Ionawr 1866, cafodd y pier ei ddifrodi gan storm gyda rhan o’r strwythur yn syrthio i’r môr. Ailadeiladwyd y pier erbyn 1872 gan y peirianwyr James Szlumper ac Aldwinkle ac fe’i ail-agorwyd ar 21ain o Fedi 1872 gydag arddangosfa tân gwyllt.
Gwerthwyd y pier yn 1885 i berchennog Gwesty’r Queens, William Henry Palmer am £1,200. Gwerthodd ef yn 1891 ac erbyn 1895 roedd yn cael ei reoli gan gwmni o’r enw’r Aberystwyth Marine Pier Company, is-gwmni’r Improvement Company.
Ar yr adeg hon yr ychwanegwyd Pafiliwn y Pier at y strwythur. Cwblhawyd y gwaith a gostiodd £8,000 gan Bourne Engineering and Electrical Company a chynlluniwyd y Pafiliwn gan George Croydon Marks. Defnyddiwyd y pafiliwn ar gyfer cinio a roddwyd gan Brifysgol Cymru i Dywysog a Thywysoges Cymru ym Mefefin 1896,gan felly roi’r enw Pafiliwn y Pier ‘Brenhinol.’
Postcard o’r Pafiliwn a’r Pier (ADX/115/8 – Archifdy Ceredigion)
Ar y 15fed o Ionawr, 1938 bu i’r ‘Storm Fawr’ a effeithiodd Aberystwyth ddinistrio rhan fawr o’r promenâd a diflannodd dros hanner o hyd y pier. Yn y 1970au prynwyd y pier a’r pafiliwn gan Grŵp Don Leisure a bu iddynt wella gweddill y strwythur. Ar hyn o bryd mae’r pafiliwn dal i fod yn weithredol ac mae’n cynnwys amrywiol gyfleusterau hamdden.
Mae’r pier wedi goroesi, efallai iddo gael ei daro gan stormydd dros y blynyddoedd ond mae’n parhau’r nodwedd amlwg ar bromenâd Aberystwyth, yn hafan adar yr eira ac yn fan hyfryd i edrych ar yr haul yn machlud.
PEN-BLWYDD HAPUS YN 150.