Ffoaduriad Gwlad Belg yn cyrraedd Sir Aberteifi

Wrth i’r ymladd creulon ledaenu ar y rheng flaen yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, daeth y don fwyaf erioed o ffoaduriaid i Brydain, pan gyrhaeddodd dros 250,000 o bobl o Wlad Belg. Yn nyddiau cynnar y rhyfel roedd yn rhoi ymdeimlad i bobl leol eu bod yn cyfrannu at yr achos. Dyma pam y croesawodd Sir Aberteifi garfan o ffoaduriaid tua dechrau’r rhyfel.

Cyhoeddwyd yn y Cambrian News ar Hydref 9 1914 fod carfan o 52 o ffoaduriaid o Wlad Belg wedi cyrraedd Aberystwyth ddydd Sadwrn 3 Hydref. Soniodd yr adroddiad fod y trigolion lleol wedi rhoi croeso cynnes iddynt, a’u bod wedi cael llety yn y Queen’s Hotel. Dyma ddyfyniad:

It is stated that the adults are distinguished professional teachers, musicians, and painters of a high station in life.

Ar y Sul cynhaliodd Côr Rheidol gyngerdd yn y Queen’s ac roedd yn braf iawn gan yr ymwelwyr glywed Anthem Genedlaethol Gwlad Belg.

Nid ar hap a damwain y daeth gymaint o weithwyr proffesiynol o fri i Gymru ac Aberystwyth. Wrth sôn am ‘generous benefactors’ roedd y Cambrian News yn cyfeirio at y chwiorydd Gwendoline a Margaret Davies, Neuadd Gregynog, a ddymunai sbarduno adfywiad diwylliannol yng Nghymru drwy ddod â phobl ddiwylliannol adnabyddus o Wlad Belg i’r ardal.

Cyrhaeddodd saith ar hugain arall ohonynt ar 9 Hydref a dau ar bymtheg ar 10 Hydref.

Cafodd y Belgiaid loches y tu hwnt i Aberystwyth hefyd, a rhoddwyd croeso iddynt mewn cymunedau ar hyd a lled y sir gan gynnwys Aberaeron, Y Borth, Aberteifi, Llanbedr Pont Steffan, Llandysul a Chei Newydd ac aeth sawl ardal ati i sefydlu cronfeydd er budd y ffoaduriaid. Ymhlith ein casgliadau mae llun o’r ffoaduriaid a aeth i Gei Newydd gyda aelodau o’r pwyllgor ffoaduriaid yn ‘Park Street’ lle roedd dau dŷ wedi’u ddarparu i’r ymwelwyr.

Belgian Refugees in New Quay

Llun o’r ffoaduriaid o Wlad Belg a ddaeth i Gei Newydd, rhif cyfeirnod Passmore/bocs12/26/30

Gellir gweld y ffotograff yma yn llyfr Sue Passmore, One Village’s Wars: New Quay in two world wars.

Mor gynnar â 16 Hydref 1914 roedd y Belgiaid yn perfformio mewn cyngerdd yn y Coliseum o dan nawdd Clwb Cerddoriaeth Prifysgol Cymru gyda’r elw’n mynd at y Gronfa Gymorth y Belgiaid. Ymysg y perfformwyr disglair oedd Mm Guillaume, Nicolas Laoureux – pianydd i’r Llys Brenhinol ym Mrwsel – a Marcel Laoureux, feiolinydd. Cafwyd sawl adroddiad am gyngherddau eraill yn y Cambrian News, gan gynnwys hanesyn difyr am gyngerdd a gynhaliodd y Belgiaid brynhawn dydd Nadolig yn Llangeitho.

Bu nifer o arlunwyr a cherflunwyr yn byw yn Aberystwyth a’r cyffiniau hefyd. Ymhlith y rhain oedd Valerius de Saedeleer, tirluniwr enwog a oedd yn byw yn yr ardal gyda’i deulu, gan beidio â dychwelyd i Wlad Belg tan 1920. Cewch fwy o hanesion y teulu de Saedeleer mewn blog arall cyn bo hir!

[MH]

This entry was posted in Y Rhyfel Mawr and tagged , , , . Bookmark the permalink.

Gadewch ateb