Yn ystod ymweliad gyda cyd-aelodau Cymdeithas Hanes Llandysul i Archifdy Ceredigion ychydig flynyddoedd yn ôl, dangoswyd y cofrestrau sy’n cynnwys gwybodaeth am y cerbydau modur cyntaf yn y sir i ni. Mae hyn wedi’i gyfuno â diddordeb gydol oes mewn moduro, ynghyd ag angerdd blentyndod cynnar ar gyfer cofnodi rhif y moduron wedi arwain i mi gychwyn prosiect i ddogfennu hanes moduro cynnar yn Sir Aberteifi.
Ym 1903, gyda nifer cynyddol o gerbydau modur ar y ffordd a chyda nifer o ddigwyddiadau a damweiniau, gwnaeth y llywodraeth ar y pryd benderfynu y byddai pob cerbyd yn cael rhif unigryw er mwyn cael eu hadnabod yn hawdd. Byddai pob sir yn cael rhagddodiad o un neu ddwy lythyren ac yna rhif gyda hyd at bedwar digid. Cafodd Sir Aberteifi y llythrennau EJ. Parhaodd y rhagddodiad EJ tan 1948 gyda chyfanswm o 8819 o gerbydau a gofrestrwyd rhwng y blynyddoedd 1903-1948, mae’r rhain yn cael eu cofnodi mewn cyfres o 12 o gofrestri gyda pob cofnod mewn llawysgrifen.
Mae’r cofnodion yn eithaf cynhwysfawr gyda gwneuthuriad a model o bob cerbyd, pŵer ceffyl, nifer y seddi, a lliw, ynghyd â dyddiad cofrestru ag enw y perchnogion ai cyfeiriad. Hefyd defnydd, sef boed breifat, nwyddau neu drawsgludiad gyhoeddus. Mae unrhyw newidiadau i’r manylion hyn hefyd wedi cael eu cofnodi.
Mae cofrestru cerbydau yn Sir Aberteifi yn dechrau ar ddiwedd mis Rhagfyr 1903, cafodd pump o geir modur a phedwar beic modur ei cofrestru. Mae dau beic modur arall wedi eu cofrestru yn gynnar ym mis Ionawr 1904. Felly, gallwn ddod i’r casgliad mae y 11 cerbyd hyn oedd yr unig gerbydau cludo teithwyr yn y sir ar yr amser hyn. Mae nifer y ceir modur a beiciau modur wedi’u cofrestru am y tro cyntaf ym mhob blwyddyn 1903-1930 i’w gweld yn y tablau isod
Rhif ceir modur ym mhob blwyddyn | |||||||||||
00 | 01 | 02 | 03 | 04 | 05 | 06 | 07 | 08 | 09 | ||
1900 | 5 | 14 | 5 | 11 | 12 | 11 | 11 | ||||
1910 | 16 | 15 | 32 | 30 | 40 | 63 | 52 | 14 | 20 | 75 | |
1920 | 221 | 152 | 171 | 202 | 202 | 185 | 159 | 173 | 191 | 205 | |
1930 | 227 |
Rhif beic modur ym mhob blwyddyn | |||||||||||
00 | 01 | 02 | 03 | 04 | 05 | 06 | 07 | 08 | 09 | ||
1900 | 4 | 23 | 14 | 10 | 4 | 5 | 8 | ||||
1910 | 6 | 17 | 22 | 26 | 28 | 80 | 33 | 15 | 11 | 35 | |
1920 | 87 | 117 | 97 | 119 | 122 | 137 | 112 | 102 | 80 | 58 | |
1930 | 56 |
Yn ystod y cyfnod hwn i fyny tan 1930 roedd 103 gwneuthuriad gwahanol o geir modur preifat wedi eu cofnodi, 57 gwneuthuriad gwahanol o gerbydau nwyddau, a 54 gwneuthuriad gwahanol o gerbydau ar gyfer cludo cyhoeddus. Y car mwyaf poblogaidd oedd y Morris Cowley Oxford, a chofrestrwyd 357 ohonynt, yr un cyntaf ym 1920. Coeliwch neu beidio, cofrestrwyd dim llai na phedwar o geir stêm hefyd, yr un olaf ym 1919!
Roedd 86 gwneuthuriad gwahanol o feiciau modur, 22 o wneuthuriadau gwahanol gyda cerbyd ochr ynghlwm ac 8 gwneuthuriad o beiciau tair olwyn yn yr un cyfnod.
Ar adeg ysgrifennu’r erthygl hon yr wyf wedi bod yn gweithio am 18 mis ac wedi treulio tua 1000 o oriau yn casglu a mynegeio pob cofnod unigol o’r cofrestrau hyn, ac yn trosglwyddo’r wybodaeth i gronfa ddata y gellir ei chwilio. Rwyf wedi cwblhau 8 cofrestri allan o gyfanswm o 12 sy’n mynd â fi i fyny at EJ 3100 o gofrestriadau tro cyntaf, gyda ail-gofrestriadau, tua 6600 trafodion unigol wedi cael eu cofnodi i fyny hyd ddiwedd flwyddyn 1930.

Roedd y car hwn, rhif cofrestru EJ182, Ford dwy sedd â nerth 20 ceffyl, wedi’i gofrestru yn enw Ena Parry o Blas Llidiardau, Llanilar
Fy nod yw gorffen mynegeio holl gofnodion ar y gronfa ddata erbyn diwedd 2015. Bydd y gronfa ddata iw chwilio ac yn cael mynediad drwy wefan Archifdy Ceredigion . Rwyf hefyd yn casglu cymaint o wybodaeth a ffotograffau o’r cerbydau cynnar hyn ag y medrau, ac yn gobeithio cyhoeddi’r canlyniadau . Mae fy ngwaith yn parhau … .
Andrew Williams
Nodyn: Gweler hefyd y dudalen hon ar ein gwefan.
Pingback: Cofrestriadau Cerbydau Modur yn Sir Aberteifi | Archifdy Ceredigion