A gofiwch chi’r rysait am win eirin ysgaw o’r papurau Webley-Parry? Mae’r amser wedi dod i rannu mwy o ddanteithion Nadoligaidd o blith y ryseitiau bendigedig yn y casgliad hwnnw.
Y tro hwn, daw’r ryseitiau o lyfr gwahanol, â’r cyfeirnod WP/2/2. Ni wyddwn yn iawn mor hen yw’r llyfr na phwy oedd yn berchen arno, ond mae rhai cliwiau wedi’u gadael inni: mae’r flwyddyn 1841 wedi’i nodi ar un o’r tudalennau, ac yn rhydd ynghanol y tudalennau roedd llythyr (yn cynnig meddyginiaeth ar gyfer ‘dolur y Fron’) wedi’i gyfeirio at Mrs. Webley Parry o Noyadd Trefawr.
Felly, heb ragor o lol, dyma rysait am ‘Friwdda Mins-peis’:
Briwdda Mins-peis
Pwys a hanner o siwet, deg owns o resins, dau bwys a hanner o Gyrens, hanner pwys o siwgr, wythfed owns o Bergibyn, un Gneuen yr India, pwys o Galon Ychen, yn gymysg i gyd â chroen Lemwn, yna ychwanegu chwarter peint o Frandi a chwarter peint o Win Gwyn. Cyn gweini ychwanegwch Afal a Golwyth Melys, ac ychydig o halen.
Mae’r rysait arall yn rhoi cig yn y briwdda hefyd:
Briwdda Mins-peis Mrs. Hope
Pwys o Wêr Eidion, pwys o Gyrens, pwys o Afalau, hanner pwys o Resins, hanner pwys o Siwgr Llaith, chwe owns o Eidion wedi’i drin, chwe owns o Oren a Chroen Lemwn Candi, dwy owns o Sitron, hanner owns o Halen, chwarter owns o Bupur Jamaica, chwarter owns o Sinamon, chwarter owns o Glofs, chwarter owns o Sinsir, un Gneuen yr India, croen a sudd tri Lemwn, dau wydraid o Frandi a dau wydraid o Win Gwyn.
Pwdin Nadolig Mrs. Hope
Deg owns o Wêr Eidion, owns o Flawd, wyth owns o Resins, wyth owns o Gyrens, owns a hanner o ffrwythau candi, hanner Cneuen yr India, hanner llond llwy de o Sinsir, yr un faint o Bupur Jamaica, llond llwy de o Halen, gwydraid bach o Frandi, gwydraid bach o Win, pedwar wy, llaeth i dewychu’r gymysgedd yn iawn, a berwi am bedair awr.
Nadolig Llawen!
[AZS]
Pingback: Mins peis ‘Captain Beefheart’ | Archifdy Ceredigion