Mapiau yn Archifdy Ceredigion

Mae Archifdy Ceredigion yn gofalu am lawer iawn o fapiau, rhai printiedig a rhai a wnaethpwyd â llaw – ac maen nhw’n dangos sut mae’r sir wedi newid drwy’r oesoedd!

Cafodd y mapiau printiedig cynnar yma o Sir Aberteifi (cyf. ACM) eu rhoddi i’r Archifdy’n ddiweddar. Dyma rai o oreuon y casgliad.

  • Copi a gafodd ei liwio â llaw o fap Michael Drayton o 1612 sy’n dangos afonydd, coedwigoedd a bryniau, wedi eu portreadu fel nymffau dŵr, helyddesau a bugeiliaid. Mae Michael Drayton fwyaf adnabyddus am ei gerdd dopograffigol, The Poly-Olbion. Map bardd yw hwn.
    acm4rivers2

    Cyf. ACM/4

     

  • Mae mapiau ‘stribedog’ John Ogilby a gyhoeddwyd ym 1698 yn cynnwys Prydain gyfan. Dyma ran olaf y siwrnai o Lundain i Aberystwyth mewn manylder cyfewin.
acm43ribbon

Cyf. ACM/43

 

  • Map morwrol o 1801 sy’n dangos llwybr diogel i mewn i harbwr Aberystwyth. Sylwch fod y dref yn dal i fod o fewn ei muriau yn y llun yma.
acm-83

Cyf. ACM/83

 

Mae rhai o fapiau degwm gwreiddiol yn Archifdy Ceredigion ac fe gewch eu harchwilio yma (Mae mapiau degwm Cymru ar gael ar-lein hefyd trwy’r prosiect Cynefin).

    • Rhan o Fap Degwm Dihewyd (1845) wedi ei chwyddo. Mae’n dangos canol y pentref, gan gynnwys yr eglwys a’r dafarn. Pan gafodd y map ei drin a’i adfer buom yn blogio amdano yma.
dihewyd-tm

Cyf. Dihewyd TM

 

  • Dyma fap hyfryd a wnaethpwyd gan William Couling ym 1814. Un o nifer fawr o fapiau ydyw o gyfrol sy’n cynnwys arolwg o blwyfi Llannarth a Llanina.
adx-176llanina

Cyf. ADX/176

 

Ceir llawer o fapiau yng nghasgliadau’r stadau, naill ai yng nghatalogau argraffedig yr arwerthiannau a gynhyrchwyd pan gâi stadau eu gwerthu, neu pan gâi arolygon eu comisiynu gan berchnogion y stadau.

  • O arolwg Stad y Priordy (Aberteifi) 1884 y daw’r map yma o’r ‘Felin Newydd a’r Tiroedd’ yn ogystal â rhestr o’r caeau a’u herwau.

 

  • Mae’r map bach yma, sy’n dod o Gasgliad Stad yr Hafod, yn dangos gwythiennau plwm ardal Bodcoll, Dolwen a Tyglyn.
h-d4-17

Cyf. H/D4/17

 

  • Y map yma a gafodd ei lunio â llaw o’r ‘Pedair Coedwig neu Goedwigoedd yr Esgob’ (1787) yw’r map manwl cynharaf hysbys o ardal Plwyf Llanddewibrefi ger y ffin â Sir Gaerfyrddin. Mi wnaeth y mapiwr, Thomas Lewis, fapio Stad Gogerddan ac ardal Llanfair Clydogau; cedwir y mapiau yma yn y Llyfrgell Genedlaethol.
adx-1282

Cyf. ADX/1282 (rhan)

 

Mapiau’r Arolwg Ordnans a mapiau eraill diweddarach

Mae nifer o fapiau eraill ar gael yn Archifdy Ceredigion, rhai’r Arolwg Ordnans ac eraill. Y prif gasgliadau yw:

  • Mapiau Old Series yr AO, 1 fodfedd/milltir (1834)
oos

Rhan o fap Old Series yr AO (Colby), tudalen LVIII, cyf. LIB/1 (1834)

 

  • Mapiau County Series yr AO, 25 modfedd/milltir: Golygiad 1af (anghyflawn); 2il olygiad (y rhan fwyaf o’r sir); adolygiad o 1937 (Aberystwyth a’r cylch yn unig). Tair trem yn olynol ar Benparcau isod.

 

  • Mapiau’r AO 6 modfedd/milltir: 2il argraffiad (c. 1905) ac Argraffiad Dros Dro, a’r grid cenedlaethol wedi ei argraffu drosto (1950au)
  • Amryw o fapiau mwy diweddar cyfres Pathfinder a Landranger yr AO (ar gael yn yr ystafell ymchwil)
  • Mapiau printiedig modern (wedi eu seilio ar rai’r AO fel rheol) gan Bartholomew’s a chyhoeddwyr eraill.
adx-371-bart-maps

Cyf. ADX/371

  • Ac yn olaf, cofiwch am yr holl fapiau sydd yn hen dywyslyfrau’r twristiaid!

Archwiliwch Eich Archif yn Archifdy Ceredigion!

explore_final_logo_jpeg