Croeso i Archwilio Eich Archif 2016 yn Archifdy Ceredigion!

Ydych chi wedi gwirioni ar fapiau? Onid yw pawb? A oedd X yn dynodi’r fan ar eich map trysor chi slawer dydd? Cliciwch yma!

acm-54

A oes hiraeth arnoch chi ar ôl Bake Off? Mae gennym hen ryseitiau lleol difyr i chi roi cynnig arnynt gartref. Nid pryd o fwyd yn unig yw Blas y Gorffennol, mae’n ymwneud â bywydau ein cyndadau yn y sir hon a thu hwnt. Cliciwch yma i roi cynnig ar rywbeth newydd (ond hen!). Rhannwch y canlyniadau gyda ni a gyda’ch ffrindiau!

1910s-corned-beef-a

Beth arall sydd yn yr Archifau? Mae rhywbeth i bawb. Rhowch gynnig arni!


explore_final_logo_jpeg Wythnos o ddathlu’r gwasanaeth archifau a’r dogfennau anhygoel sydd dan eu gofal yw Archwilio Eich Archif.

Ar ein gwefan a’n blogiau ni fe welwch chi ddetholiad o’n hoff ddogfennau ni. Yn well fyth, beth am roi cynnig ar ddefnyddio a mwynhau’r cofnodion gwreiddiol sydd yn ein casgliadau.


CCC crest colour with words CRO logo

Advertisements