Beth wnewch CHI?
Awduron, artistiaid, gweuwyr a chogyddion, cyfansoddwyr, crochenwyr, ffotograffwyr… pawb sy’n creu!
Fe’ch gwahoddwn i greu rhywbeth mewn ymateb i’r casgliadau yn Archifdy Ceredigion.
Cliciwch ar y lluniau bach isod i’w gweld yn llawn a dysgu mwy amdanynt. Yna gallwch gynyddu maint y llun; mae’r botwm ar waelod y sgrîn ar y dde (efallai y bydd arnoch angen sgrolio i lawr).
Map o dref Aberteifi ym 1884 a luniwyd yn gelfydd â llaw, sy’n dangos daliadau Ystâd y Priordy. Cyf. PE/1/1.
Mae disgrifiad bendigedig Polly Jones o ddraenog ym 1911 yn werth ei ddarllen o safbwynt gramadegol, ac mae’n llawn drama. Cyf. ABY/ED/9/1
Diwrnod ar lan y môr: Aberystwyth 1796. Gallwch gael oriau o hwyl yn ceisio meddwl sut fyddai’r olygfa hon yn cyd-fynd â thirlun Aberystwyth erbyn heddiw. (cyf. LIB/59/3/1)
Tynnwyd y llun hwn ddechrau’r ugeinfed ganrif, ac mae’n cipio eiliad mewn hanes ar ddydd o haf yn Henblas. Nid ydym yn gwybod dim am gyd-destun y llun.
Llawer o fenywod, ond dim ond tair het. Mae’r lluniau ar y dudalen hon yn datgelu fod y menywod oedd yn mynd i gael tynnu’u lluniau gan y ffotograffydd Mr. John Turnor Mathias yn y 1860au yn hoff o ddefnyddio’r celfi yn y stiwdio i greu argraff o ddiwydrwydd a Chymreictod digamsyniol. I gael y portread perffaith, mae’n debyg fod yn rhaid cael het, siôl, basged, a gwaith gweu. O gasgliad John Turnor Mathias, cyf. JTM.
Mae Cardygan Shyre, Mountgomery Shyre a Radnor Shyre yn ymddangos yn ‘Polyolbion: Great Britaine’ (1612), cerdd dopograffaidd gan Michael Drayton. Cafodd y copi hwn o’i fap ei liwio â llaw, ac mae’n dangos afonydd, coedwigoedd a bryniau ar ffurf nymffiaid dŵr, helwragedd a bugeiliaid. Map gan fardd yw hwn. (cyf. ACM/4)
‘Gwellhad’ ar gyfer y gynddaredd, a gasglwyd yn ardal Capel Seion ar gyfer y prosiect Chwedlau Gwledig yn y 1920au. Cyf. MUS/103/2.
Rhai’n llawn cyffro, rhai’n chwilfrydig, rhai’n poeni ac un yn cydio’n dynn yn llaw’r athrawes; naw deg mlynedd yn ôl fe wisgodd y plant hyn eu dillad gorau a chadwyni tlws (wedi’u benthyg?) i gael tynnu’u lluniau yn yr ysgol. Ond roedd llaid yn dal ar eu hesgidiau ar ôl cerdded i’r ysgol. (cyf. ADX/926)
Preifat Thomas Rees Warrington o Aberystwyth. Nid oedd ond yn ugain mlwydd oed pan fu farw ar faes y gad yn Ffrainc ar 22 Chwefror 1916.
Bonaparte wedi’i drechu a’i ddal yn garcharor gan Gosaciaid Rwsia! Owen Williams sy’n ysgrifennu o Hounslow at ei frawd, John, ger Aberteifi. Mae’n debyg fod Dug Caerefrog (y ‘Duck’ yn ôl Owen) wedi galw heibio tafarn i newid ei geffyl wrth farchogaeth i Windsor, ac wedi rhannu’r newyddion cyffrous â’r tafarnwr – a oedd wedi adrodd yr hanes i bawb, yn ôl pob golwg! Faint o wirionedd sydd yn y llythyr, a faint ohono oedd yn freuddwyd? (cyf. MUS/59/27/1) Mwy o lythyron gan Deulu Williams yma:
https://llantoodletters.wordpress.com/
Modura mewn steil – cofrestrwyd y car hwn ar gyfer Miss Ena Parry o Llidiardau, Llanilar, ym 1915. Cyf. ADX/710.
Engrafiad cynnar o Goleg Dewi Sant, yn dangos heliwr a’i gŵn yn y tu blaen.
Roedd diodydd ffrwythau (‘shrub’ yn Saesneg, o’r gair Arabeg sharab, sy’n golygu ‘diod’, a dyma darddiad y geiriau syrup a sherbet hefyd) yn boblogaidd iawn o’r ail ganrif ar bymtheg hyd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, a cheir sôn amdanynt yng ngwaith Jane Austen a Laura Ingalls Wilder. Daw’r un yma o lyfr ryseitiau Webley-Parry, cyf. WP/2/1.
Mae’r map hwn gan Lewis Morris yn dangos y muriau amddiffynnol yn dal i sefyll o amgylch Aberystwyth. Mae Pen Dinas yn bwrw’i gysgod dros y dref fel rhyw losgfynydd. Cyf. ACM/83
Miniatur o wenynen feirch (roedd y llun gwreiddiol tua’r maint iawn). Casgliad Webley-Parry, cyf. WP/4
Ym 1898 nid oedd gan neb beiriant golchi, ac roedd dillad yn llawer drutach na rhai heddiw. Dengys yr hysbyseb hwn fod yno alw am ddosbarthiadau golchi dillad yn Llambed, ac am swllt gallech ddysgu’r holl ffyrdd o olchi gwahanol ddillad â llaw – pluen yn het unrhyw eneth neu wraig ifanc a ddymunai weini, neu gynnal busnes golchi dillad. O gasgliad argraffwyr Caxton Hall.
Criw o bobl hyddysg a chwilfrydig oedd Cymdeithas Hynafiaethwyr Sir Aberteifi. Ond pan oedd rhaid diogelu hen greiriau archeolegol bregus, ymddengys y byddai hen flwch caws yn gwneud y tro. Daw’r dudalen hon o lyfr lloffion cyfarfodydd y Gymdeithas, cyf. DSO/100.
Mae’r poster hwn yn annog pobl i gyflawni trosedd – dyna farn yr heddlu yn Oes Edward, beth bynnag. Ymgynullodd 60,000 o bobl ar Sgwâr y Senedd ar 13 Hydref 1908 wrth i’r suffragettes geisio torri drwy linell o 5,000 o gwnstabliaid a mynd i mewn i Dŷ’r Cyffredin. Aflwyddiannus fu eu hymdrechion, ond does dim dwywaith eu bod wedi creu cryn argraff. O gasgliad Margot James (MJ)
Cartouche yn dangos tref Aberteifi ar fap John Speed o Sir Aberteifi. 1620au.
Yn Archifdy Ceredigion rydyn ni’n cadw gwerth mwy na phum can mlynedd o hanes Ceredigion. Cymaint o fywydau, cymaint o leoedd, cymaint o ddigwyddiadau, oll wedi’u cofnodi mewn gair a llun. Hoffem ddathlu wythnos Archwilio Eich Archif eleni gyda phobl o bob cwr o’r sir a thu hwnt, pobl sydd wedi ymchwilio i’r casgliadau, eu mwynhau ac ymateb iddynt, a chreu rhywbeth newydd eu hunain.
Nid cystadleuaeth mo hon, ac mae croeso i bawb roi cynnig arni, beth bynnag eu gallu a’u hoedran. P’un a ydych chi’n wneuthurwr proffesiynol neu erioed wedi gwneud dim byd fel hyn o’r blaen, fe fyddai’n wych pe gallech chi ymuno â ni. Wrth ichi ymchwilio, efallai y daw’r awen i gyfansoddi cerdd neu stori fer, neu efallai y darllenwch chi rywbeth sy’n troi’n gân yn eich meddwl, neu gael ysbrydoliaeth i roi cynnig ar rysáit o ganrif arall.
Rydyn ni wedi rhoi rhywfaint o ddogfennau a lluniau ar ein blog i roi syniad o’r amrywiaeth sydd yma i’ch ysbrydoli – ond cofiwch fod llawer mwy na’r rhain, er mor rhyfeddol ydyn nhw. Ewch i bori drwy ein catalogau ar-lein neu waith ein blogwyr bendigedig – y blog hwn, Cofnodi’r Rhyfel Mawr neu Llythyron Llantood, galwch heibio’r Archifdy i weld y dogfennau’r ydych wedi’u dewis, dewch i gael ysbrydoliaeth a dewch i greu!
Mae angen ichi greu rhywbeth erbyn 18 Tachwedd, sef dechrau wythnos Archwilio Eich Archif. Fe gewch chi wahoddiad i ddigwyddiad yn Archifdy Ceredigion ar 23 Tachwedd lle gallwch arddangos neu berfformio’ch gwaith o flaen cynulleidfa. Fe fydd yno de a chacennau, wrth gwrs, yn unol â thraddodiadau Sir Aberteifi.
Am fwy o wybodaeth am yr archifdy, ewch yma.
Like this:
Like Loading...