Aberteifi? Heb newid dim.

Rydym ni’n falch i gyflwyno blog gwadd gan William Howells, Cyn-Lyfrgellydd y Sir a brodor o Aberteifi.


Tref Aberteifi

Cartouche yn dangos tref Aberteifi ar fap John Speed o Sir Aberteifi.

Bydde cipolwg sydyn ar fap o Aberteifi gan John Speed (1610) yn cadarnhau’r ffaith nad yw cynllun y Stryd Fawr a’r prif strydoedd ochr heb newid ers pedwar can mlynedd. Ond mae sawl adeilad wedi diflannu yn ystod yr un cyfnod.

Tynnwyd y lluniau cynharaf gan J. Turnor Mathias ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Tynnwyd y lluniau diweddaraf yn ystod 2020 er mwyn ceisio cadarnhau lleoliad pob llun a dangos beth sydd i’w weld o’r un safle heddiw. Rwy’n ddiolchgar i Keith Ladd am ei gymorth gyda’r lluniau.

DS. Cliciwch ar y lluniau isod i’w gwneud yn fwy.

Safle 1:

Wrth sefyll ar hen bont y dre dyma’r olygfa am ran fwyaf o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg ac ymlaen i ddechrau’r ugeinfed ganrif (1A): rhes o dai yn syth o flaen wal y castell o’r bont lan hyd mynediad presennol y Castell. Enw stryd oedd Bridge Parade. Mae’r dyn ar gefn y beic o flaen y ‘Liverpool Arms’ sef rhif 6 (rhifau o’r chwith i’r dde yn y llun). Roedd deiliaid trwydded y ‘Liverpool Arms’ yn cynnwys Hannah Davies, 1891; Benjamin Lloyd 1896–98; a Sarah Williams 1921–23.

Heddiw (1B) gallwch weld muriau’r Castell heb unrhyw rwystr.

Safle 2:

Gan symud i’r chwith mae’r llun yma yn dangos Tŷ Argyle, sef rhif 3 Bridge Parade. (2A)
Ym 1838 John James Jones a’i deulu oedd yn byw yma. Roedd John, y tad yn werthwr nwyddau haearn, yn ddiacon yng Nghapel Bedyddwyr Bethania ac yn faer y dre ym 1870; ganed ei fab David yma ym 1836 a bu yntau hefyd yn werthwr nwyddau haearn ac yn ddiacon. Bu ef farw 8 Mawrth 1924.

Mae’n werth nodi fod David Turnor Mathias a’i deulu wedi byw yn 4 Bridge Parade rhwng 1877 a 1891. Ganed John Turnor Mathias (y ffotograffydd) ym 1859, a symudodd wedyn i Stryd y Cei. Rhestrwyd ef fel clerc marsiandydd masnachol ym 1881 a chlerc marchnadol ym 1891. Fan hyn, felly roedd yn tynnu llun ei fan geni. Erbyn 1911 John Salmon, crydd oedd yn byw yma ac wedyn Jenkin Arthur Griffiths rhwng 1914 a 1926.

Heddiw, muriau’r Castell sydd i’w gweld yn glir (2B)

Safle 3:

London House neu Bridge House yw’r tŷ yng nghanol y llun (tynnwyd tua 1935). (3A)
Dymchwelwyd y rhan fwyaf o’r tai o gwmpas mynediad i’r bont tua 1933, yn bennaf er mwyn gwella mynediad y traffic dros y bont. Roedd y tai ar yr ochr chwith yn dal yno (yn wag) yn y 1960au.

Er bod mynediad i’r hen bont wedi gwella (3B), oherwydd cynnydd yn y traffig adeiladwyd ail bont (agorwyd ym 1990) uwch i fyny er mwyn cario’r traffig dros y Teifi.

Safle 4:

Roedd tai Bridge Parade yn cyrraedd lan y rhiw tuag at mynediad y Castell (4A). Erbyn hyn maent i gyd wedi mynd (4B) a gallwch hawlio gwell olwg ar adeiladau yr ochr arall y Teifi.

Safle 5:

Dyma’r olygfa ar dop Rhiw Grosvenor gan edrych tuag at mynediad i’r Castell (5A). Dyma Green St. Mae’r tai bob ochr yn dal yno a nawr yn ffurfio mynediad i’r Castell ar ei newydd wedd (5B).

Rhif 1 Green St. oedd yn arfer bod yn dafarn yr Half Moon (1830au–c.1913); rhif 2 oedd Tafarn y Castell (c.1840au–90au). Ar y dde roedd rhif 3, sef Tŷ Castell (Castle House), eiddo Asa Johnes Evans, y cyfreithiwr yn y 1860au. Yn y 1960au roedd yn gartref i’r cyfrifydd Pritchard, Griffiths a’i gwmni.

Safle 6:

Os ewch chi ar draws yr heol ac edrych i’r gogledd tuag at cloc y dref fe welwch yr olygfa yma (6B).

Dymchwelwyd sawl adeilad oedd arfer bod ar yr ochr chwith: rhif 1, shop lyfrau ail-law, yn eiddo i Mrs Frances Mason yn ystod y 1960au; rhif 2 oedd siop fara Volks. (6A) Ar y dde nawr mae Gerddi Brioude.

Safle 7:

Os gerddwch lawr Stryd y Cei, troi rownd er mwyn gwynebu’r Castell dyma’r olygfa (7B).  Mae’r siopau yma wedi eu dymchwel (7A).

Safle 8:

Os ewch ar hyd y Stryd Fawr, ond cyn cyrraedd y Blac Leion trowch rownd ac edrychwch tuag at y bont unwaith eto ac fe welwch Neuadd y Sir (Shire Hall), adeilad sy’n dyddio ers y ddeunawfed ganrif. Datblygodd wedyn fel canolfan fasnachol ac y mae sawl siop wedi mynd a dod dros y degawdau. Rhwng 1926 a 1947 garej S. T. Jones oedd yma. (8A). Mae’r adeiladau/siopau ar y dde, gan gynnwys tafarn y Three Mariners, wedi eu dymchwel. Maent nawr yn rhan o Gerddi Brioude (8B)

Safle 9:

Os cerddwch tuag at Neuadd y Sir ac wedyn troi i lawr i’r chwith tuag at Stryd y Santes Fair, nes cyrraedd yr heol sy’n arwain nôl at y bont, troi rownd 360 gradd ac edrych i fyny gwelwch (9B)

Yn y ffotograff cynharach (9A, ar y chwith) fe welwch byrddau hysbysebu Swyddfeydd y Teifi-seid, oedd yn arfer bod yn rhif 39. Mae’r pobl yn sefyll ger yr heol sy’n arwain nôl ar hyd y Strand at y bont. Ochr draw i rhain roedd tafarn y White Hart, rhif 11 (1703–1932). Dymchwelwyd yr adeiladau ar yr ochr dde yn ystod y 1960au er mwyn lledaeni’r heol sy’n arwain at yr hen bont.

Safle 10:

Ar y chwith mae’r Strand a golygfa cyffredin o lifogydd yn ystod llanw uchel o’r Teifi gerllaw (10A).

Tynnwyd y llun arall (10B) ychydig ymlaen, sy’n rhoi syniad o faint o glirio ddigwyddodd yn ystod y 1960au.

Safle 11:

Tu ôl y Guildhall, ewch lawr Stryd y Coleg nes cyrraedd y maes parcio. Dyma Greenfield Square. Mae’r tŷ ar y dde wedi mynd er mwyn lledaenu’r fynedfa i’r maes parcio (11A). Mae’r tai ar y chwith yn dal i sefyll heddiw (11B).

Safle 12:

Dyma’r olygfa a dynnwyd o dde pella’r maes parcio gan edrych nôl at y tai yma. Dyma Sgwar Greenfield. Mae’n dangos y cawdel o gwmpas yr afon Mwldan (12A). Cliriwyd y tai er mwyn creu maes parcio (12B).

Safle 13:

Mae’r tŷ yn y pellter chwith yn y ffotograff blaenorol (12B) i’w gweld rhwng y rhesi o dai fan hyn (13A). Dyma Stryd y Felin. Roedd y felin gerllaw.
Dymchwelwyd y tai ar y ddwy ochr (13B).

Safle 14:

Os ewch nôl tuag at Theatr y Mwldan, troi i’r dde i fyny at y Stryd Fawr (Pendre yw’r darn yma) fe welwch y shop yma ar y gornel (14B).

Mae’r hen lun (14A) yn dangos Wil Pantcoch yn dal pen y ceffyl. Thomas Griffiths, groser a pherchennog y shop yw’r gŵr â’r barf gwyn a’r het. Ym 1871, roedd yn ddyn priod 39 oed. Roedd ganddo ef a’i wraig Eliza, dau, ac wedyn tri mab. Evan (Ianto) yr ieuengaf â’r mwstas a’r cap sydd o flaen y drws ffrynt.

Ochr draw’r shop safai’r Ysgol Gynradd, a dymchwelwyd yn y 1970au cynnar. Roedd y plant yn arfer mwynhau gweld Thomas yn taflu bwcedaid dyddiol o indiacorn i’r colomenod. Agorodd John Davies shop groser yma ym 1908. Ei fab Alwyn oedd yn gyfrifol am y shop ym 1962. Caeuwyd y shop ar 2 Chwefror 1985.

Safle 15:

Ymhellach ymlaen, fel mae’r Heol unffordd yn cychwyn ar hyd Feidrfair, ar yr ochr dde fe welwch y shop yma (15B).

Dyma shop Mapstone (ffrywthau a llysiau) yn y 1860au. Mae’r bocs post yn dal i sefyll (15A).

Safle 16:

I’r gogledd tuag at y Senotaff, fe welwch adeilad o’r 1960au, y Ganolfan Waith lleol (16B).

Lion Terrace oedd yr hen enw ar y tai fan hyn (16A). Stryd Napier yw’r heol sy’n arwain i ffwrdd tuag at yr Ysgol Gynradd.

Safle 17:

Os gerddwch ymlaen, heibio’r Senotaff ar eich ochr chwith ac wedyn at yr heol sy’n arwain at Gwbert fe welwch yr olygfa yma (17B).

Mae’r cae gwag ar y dde uwch i fyny, erbyn hyn yn cynnwys yr Eglwys Gatholig a agorwyd yn swyddogol ym 1970 (17A).

Safle 18:

Os wnewch chi droi 90 gradd rydych yn edrych ar hyd Heol Gwbert (18A). Ar y dde nawr fe welwch y Clwb Bowlio lleol a agorwyd ym 1980(18B).

William H. Howells

This entry was posted in Aberteifi, Blog gwadd, Ein hoff ddogfennau, Ffotograffau, Sir Aberteifi and tagged , , , . Bookmark the permalink.

1 Response to Aberteifi? Heb newid dim.

  1. Pingback: Strydoedd (a phobl) Aberteifi 25: ‘slawer dydd a heddiw | Aberteifi drwy'r canrifoedd

Gadewch ateb

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s