Daeth muriau’r lle i’r llawr: Sir Aberteifi a Deddf Carchardai 1865

Rydym ni’n cyflwyno blog gwadd newydd gan Richard Ireland.


Hanesydd y gyfraith yw Richard W. Ireland a bu’n dysgu am flynyddoedd lawer ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae’n awdur amryw o erthyglau a llyfrau gan gynnwys ‘A Want of Order and Good Discipline’: Rules and Discretion in the Victorian Prison a ‘Land of White Gloves’?: A History of Crime and Punishment in Wales. Mae’n un o aelodau gwreiddiol pwyllgor Cymdeithas Hanes Cyfraith Cymru ac mae wedi cyfrannu sawl gwaith i raglenni teledu a radio.


Gofynnwyd i mi gyfrannu blog arall ar adeg pan oedd feirws COVID-19 yn gorfodi pob un ohonom i aros yn ein cartrefi. Heb fynediad at yr Archifau eu hunain nac ychwaith i lawer o fy neunydd ymchwil fy hunan, roeddwn ychydig yn betrus. Teimlai, i raddau, fel petawn mewn cell ar fy mhen fy hun (er, rwy’n gwybod digon am garchardai i weld bod datganiad o’r fath yn or-ddweud heb fod angen). Ond roedd fy meddwl yn troi at garcharu ac effaith un Ddeddf Seneddol yn benodol ar y sir.

Roedd Deddf Carchardai 1865 yn ddarn o ddeddfwriaeth ag iddo arwyddocâd mawr yn hanes cosb gyfreithiol. Gwelwyd chwyldro yn y modd yr oedd troseddwyr a gafwyd yn euog yn cael eu trin yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, a’r hen gosbau corfforol, cyhoeddus yn ildio i oruchafiaeth carchardai. Cyfyngwyd ar ddefnyddio’r gosb eithaf ar yr ystod eang flaenorol i achosion o lofruddiaethau yn unig; diflannodd y cyffion, y pilwri a’r fflangellu cyhoeddus, diddymwyd y ddedfryd o alltudio ym 1857. Dedfrydu i garchar oedd yn flaenllaw yn awr yn y system cyfiawnder troseddol.

Roedd carchardai wedi cael eu defnyddio ar gyfer troseddwyr er yr oesoedd canol er nad oeddynt, mewn theori o leiaf, ar gyfer y troseddau mwyaf difrifol; dienyddio oedd y gosb ar gyfer y rheiny. Cadwyd carchardai ym mhob sir a chawsent eu gweinyddu, eu hariannu a’u staffio’n lleol; ehangwyd hyn i Gymru ar ôl deddf Uno Harri’r VIIIfed. Yn ychwanegol at y Carchardai Sir hyn, bu agor palas brenhinol gynt, sef Bridewell, yn 1556 yn fodel ar gyfer haen arall o sefydliadau carcharu a rannai’r un enw â’r adeilad gwreiddiol weithiau, ond a ddaethant yn swyddogol i gael eu hadnabod yn ‘Houses of Correction’. Roedd y rhain yn caethiwo’r mân droseddwyr a’r segur tlawd ac yn eu gorfodi i weithio; roedd tlodi a throseddoldeb yn aml yn cael eu hystyried yn gyflyrau tebyg. Yn 1609 daeth darparu ‘House of Correction’ yn orfodol ar gyfer pob sir. Maes o law, codwyd un yn Aberteifi ac un arall yn Aberystwyth yn agos at y fan lle saif neuadd y farchnad heddiw.

Oherwydd fy stoc gyfyng o adnoddau ymchwil ar hyn o bryd, nid wyf yn gwybod union ddyddiadau codi’r adeiladau hyn (ond rwy’n amau mai’r un yn Aberteifi yw’r cynharaf), ond dim ond y naïf fyddai’n cymryd bod y statud wedi’i weithredu ar unwaith yn Sir Aberteifi. Fel y gwelwn, nid oedd y Sir uwchlaw amddifadu ei rhwymedigaethau cyfreithiol, yn enwedig os oedd hynny’n golygu cost ariannol. Yn y cyfamser, parhaodd Carchar y Sir i weithredu yn Aberteifi. Cymhlethir stori Aberystwyth gan y ffaith fod yr ‘House of Correction’ wedi cael ei adleoli ar adegau gwahanol. Ym 1799, er enghraifft, symudodd i safle ar Y Stryd Fawr (gweler y map). Rhoddir sylw i’r amryw leoliadau yn yr hanes ardderchog hwnnw o’r dref yn Born on a Perilous Rock gan W.J. Lewis.

Aberystwyth_town_plan_4669578 (3)

Gwelodd y chwyldro cosbi ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg nid yn unig fwy o garcharu ond mwy o ymyrraeth ar ran y llywodraeth ganolog wrth eu gweithredu. Agorodd y wladwriaeth ei sefydliadau ei hun hyd yn oed ar gyfer troseddwyr a oedd wedi cyflawni troseddau difrifol, a’r cyntaf o’r rhain oedd penydfa Millbank (‘Millbank Penitentiary’) yn 1816. Ymddangosodd rhagor wedi hynny. Ond roedd hyd yn oed Carchardai’r Sir yn cael eu cyffwrdd gan yr awydd i fod yn fodern ac unffurf fel y tystir gan weithgareddau llywodraeth leol. Ffurfiwyd yr Arolygiaeth Garchardai yn 1835 ac er bod sefydliadau lleol yn annibynnol o hyd, roeddent dan bwysau i gadw at safonau cyffredinol ac i weithredu trefn fwy unffurf. Wrth i amser fynd yn ei flaen, roedd yr ‘Houses of Correction’ yn dod yn sefydliadau llai amlwg i Garchardai’r Sir wrth i’r rhain ddatblygu fwy. Prin yw’r cofnodion o sefydliad Aberystwyth ond tynnodd Dr Skarżyńska fy sylw at rai dogfennau yng nghasgliad Roberts ac Evans yn yr Archifdy, gan gynnwys rhestr o’r deunydd yn y sefydliadau hyn fel y’i hatgynhyrchir yma.

RE.PS.5.1 Aber House of Correction inventory r

Er mai dogfen gryno, amlinellol yw hi, mae’n rhoi manylion diddorol am fywyd yn y sefydliad. Ochr yn ochr â’r llenyddiaeth grefyddol a’r cyffion dwylo, rydym yn gweld y cofnod am saith troell nyddu. Y rhain fyddai’r gwrthrychau a oedd yn gysylltiedig â gwaith gorfodol gan y rhai a garcharwyd. Roedd nyddu fel hyn yn cael ei arfer mewn sefydliadau eraill yng Nghymru, megis yn Ffordun a Maldwyn. Er nad oes dyddiad ar y rhestr, mae’n bosibl ei bod yn deillio o 1845 gan ei bod i’w gweld yn yr un casgliad â rhestr debyg arall sy’n ymwneud â Charchar a ‘House of Correction’ Aberteifi o’r flwyddyn honno. Mae methiant y ddogfen olaf hon i wahaniaethu rhwng y ddau sefydliad yn Aberteifi yn awgrymu eu bod, ar yr adeg honno, yn rhan o’r un cyfadeilad. Roedd y patrwm hwn yn gyffredin iawn mewn trefi eraill lle’r oedd Carchar y Sir yn cael ei gynnal, fel ag yr oedd gerllaw, er enghraifft, yn Sir Gaerfyrddin.

Yn 1865, ceisiodd y Ddeddf Carchardai osod mwy o safonau o ran unffurfiaeth ar sefydliadau’r sir. Cyn hyn, ceisiwyd dwyn perswâd, ond yn awr trowyd at orfodaeth. Roedd ‘House of Correction’ Aberystwyth yn nodedig am fod yn un o’r ychydig sefydliadau a gaewyd yn benodol gan y statud. Roedd rhwymedigaeth ar Garchar y Sir, yn sgil annifyrrwch diddymu cefnogaeth ariannol y llywodraeth, i wneud newidiadau penodol yn ôl y ddeddf a oedd yn cynnwys gofyniad i ddarparu celloedd ar wahân i droseddwyr yn hytrach na’r llety cymunol a fodolai o hyd mewn nifer o garchardai. Byddai Adroddiadau’r Arolygwyr ar y sefydliadau yn y cyfnod yn arwain at Ddeddf 1865 yn rhoi syniad am gyflwr yr adeiladau, ond oherwydd fy sefyllfa bresennol o orfod aros yn fy nghartref, nid wyf wedi gallu cael mynediad iddynt. Fodd bynnag, ni aeth awdurdodau Sir Aberteifi i’r drafferth na’r gost o ymgymryd â’r gwaith ar y Carchar. Aros yn eu hunfan a wnaethant. Amryfusedd o ran Deddf 1865 oedd ei methiant i ddarparu mewn unrhyw ffordd ar gyfer ffawd carcharorion pe byddai’r sefydliad yn cael ei gau. Yn 1877 daeth holl ystad carchardai Cymru a Lloegr o ran reolaeth y Swyddfa Gartref. Dan rwymedigaeth i Ddeddf 1865, ailadeiladodd Sir Gaerfyrddin ei charchar ei hun, gan fenthyg £15,000 i wneud hynny, ac fe’i cafodd ei hun yn y sefyllfa o orfod cymryd carcharorion o Sir Aberteifi ac o Sir Benfro. Dim ond ‘House of Correction’ Aberteifi oedd ar ôl: caewyd y Carchar, a oedd ar un adeg yn ddangosydd clir o statws sirol. Mae’n ymddangos i mi, ac rwy’n siŵr ei bod yn ymddangos felly i’r awdurdodau yng Nghaerfyrddin, eu bod yn cael eu cosbi yn sgil torcyfraith eu cymdogion!

Richard W. Ireland

This entry was posted in Blog gwadd, Sir Aberteifi, Trosedd a Chosb and tagged , , , , , , . Bookmark the permalink.

Gadewch ateb

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s