Rydym ni’n falch i gyflwyno blog gwadd gan Gretel McEwen, ymateb i ddarganfod albymau ei hen fodryb Gwenol yn ein casgliadau.
Y tu ôl i ddrysau gwydr Archifdy Ceredigion yn Aberystwyth ceir straeon personol a theuluol dirifedi. Maent yn cyrraedd mewn ffyrdd annisgwyl ac yn cael eu catalogio yn ofalus iawn a’u storio, gan obeithio gweld golau dydd unwaith eto. Fy ymweliad cyntaf erioed ag Aberystwyth oedd dod i weld dau ddarn anghofiedig o hanes fy nheulu fy hun, y daethpwyd o hyd iddynt ar hap ar-lein – dau albwm o luniau a oedd wedi’u casglu â chariad gan fy hen fodryb Gwenol [cyf. WP/5/8 a WP/5/9]

Toriad papur newydd yn esbonio’r rheswm dros enw ‘Gwenol’
Cafodd ei geni i’r teulu Satow, teulu diddorol a lliwgar. Roedd ei thad – Fedor Andrew Satow – yn farnwr yn y llysoedd apêl yn ninas Cairo, ac yn byw yno am hanner y flwyddyn a’r hanner arall yn Dolfriog Hall, Eryri.

Dathlu bedydd Gwenol yn Nolfriog
Bu Ernest Satow, ei ewythr, yn byw yn Siapan am flynyddoedd lawer a bu’n Bennaeth Llysgenhadaeth Siapan rhwng 1895 a 1900. Cafodd ei dderbyn yn llwyr gan ei gydweithwyr Siapaneaidd fel unigolyn cyfartal â nhw. Priododd Ernest â dynes Siapaneaidd gydnabyddedig o’r teulu Samurai, Takeda Kane – ond doedden nhw ddim yn gallu priodi’n swyddogol gan ei fod ef yn ddiplomat Prydeinig. Treuliodd Feder, yn yr un modd â’i ewythr, rai blynyddoedd yn gweithio fel cyfreithiwr ifanc yn y llysgenhadaeth Siapaneaidd cyn derbyn ei benodiad yng Nghairo. Priododd ef â fy hen famgu brydferth, Adeline Akers-Douglas, merch is-iarll cyntaf Chilston. Roedd yn briodas hapus a chawsant bedair merch, yr ail ohonynt oedd fy mam-gu, Joyce Adeline, a aned yng Nghairo.
Fel plentyn yn ymweld â’m mam-gu, amsugnais estheteg celf Siapaneaidd. Roedd fy hen dadcu, Fedor Satow, wedi bod yn gasglwr arteffactau Siapaneaidd yn ystod ei gyfnod yn y llysgenhadaeth yn Tokyo, ac roedd fy mam-gu wedi etifeddu rhai ohonynt. Ro’n i’n arfer ymdrochi’r crwbanod efydd yn y baddon ar gyfer adar, edmygu’r carp addurnol efydd gyda’r llygaid ifori ac eboni ac ro’n i wrth fy modd gyda cherfiadau’r netswce bach ifori oedd yn eistedd ar ben y ddesg. Flynyddoedd lawer yn ddiweddarach, drwy ffawd neu dynged, penderfynodd fy mab astudio’r iaith Siapanaeg, er nad oedd yn ymwybodol o’n cysylltiadau teuluol, a oedd wedi’u harchifo am hir yn atgofion fy mhlentyndod. Erbyn hyn mae’n gweithio fel cyfreithiwr dwyieithog, gan weithio rhwng Lloegr a Tokyo, mae wedi priodi â merch Siapaneaidd a chanddynt ddau o blant hyfryd – adleisiau o Feder Satow, ei hen hen dad-cu ac Ernest Satow, ei hen hen ewythr.

Plât llyfr Fedor Satow a llofnod Gwenol
Yn haf 2019 ar gyfer prosiect yn ymwneud â thecstilau, dechreuais ymchwilio i’m teulu Satow a’i gysylltiadau â Siapan. Dechreuais ymgolli mewn lluniau; rhai wedi’u benthyca gan fy nghefnder, eraill y des o hyd iddynt ar-lein, ambell un yn yr albymau a oedd gennyf eisoes ac wrth gwrs yr albymau y des o hyd iddynt yn Archifdy Ceredigion. Ysgrifennais at Ania Skarżyńska, un o’r archifyddion, gan esbonio fy niddordeb ynddynt. Roedd ei hateb yn gynnes a chroesawgar ac roedd yn amlwg bod ganddi wir ddiddordeb i’m helpu. Estynnodd wahoddiad agored i mi ymweld â’r archifdy. Ym mis Medi, roedd fy ngŵr a minnau wedi cyrraedd Aberystwyth, ac yn cael ein croesawu gan wyntoedd yr hydref, ein chwistrellu gan ewyn hallt y môr ac yn lletya mewn gwesty oedd yn ein hatgoffa o wyliau glan môr delfrydol.
Dyna beth oedd eiliad, yn sefyll y tu allan i ddrysau gwydr yr Archifdy, yn teimlo braidd yn nerfus am gyfarfod â’m teulu unwaith eto, ond mewn lleoliad newydd. Ces groeso mor gynnes ac roedd Ania mor hael gyda’i hamser a’i gwybodaeth. Roedd y ddau albwm wedi’u rhoi yn yr archifdy ymhlith casgliad o bapurau teuluol Webley Parry – teulu-yng-nghyfraith David Heneker, gŵr fy hen fodryb Gwenol. Y fflach newyddion cyntaf! Ail wraig David oedd Gwenol. Do’n i ddim yn gwybod hyn.
Yr agoriad llygad nesaf oedd cael cyfarfod â’m hen dad-cu – do’n i erioed wedi gweld llun ohono. Roedd Fedor wedi marw o wenwyn gwaed yn 49 mlwydd oed, gan adael fy hen fam-gu yn weddw trideg a thair blwydd oed gyda phedair merch fach, gyda’r ifancaf yn fabi, a aned y flwyddyn y bu ei thad farw.
Roedd yr albymau yr oeddwn i wedi pori drwyddynt fel plentyn yn dangos fy mam-gu a’i chwiorydd yn chwarae yn yr ardd, yn marchogaeth ac yn eistedd mewn cert ar gyfer y ci, ond rhaid bod y lluniau wedi’u tynnu ar ôl i’w tad farw. Felly roedd albymau Gwenol yn corddi teimladau emosiynol pwerus ynof. Am y tro cyntaf, deuthum wyneb yn wyneb â dyn yr oeddwn yn ei adnabod trwy storïau, yn hytrach na lluniau. Roedd yn eistedd ar step yn yr ardd, yn magu Gwenol yn fabi ac mae’n amlwg ei fod yn dad a oedd wrth ei fodd.
Ceir llun ohono’i hun hefyd yn fabi. Enw’r ffotograffydd yw ‘H. Hoffer. Riga.’ Felly roedd y sibrydion ymhlith y teulu fod y Satows yn perthyn i linach o Rwsia yn wir! Roedd teulu Fedor yn sicr wedi byw yn Riga, pan oedd yn fabi – rhan o Rwsia Imperialaidd ar y pryd. Roeddwn i’n hoff o lun o fy hen fam-gu yn fenyw ifanc yn eistedd yng ngardd Dolfriog, gyda Gwenol yn fabi yng nghrud y teulu.
Rwy’n cofio’r crud hwn yn nhŷ fy mam-gu. Mae dau gyfeiriad ar gerdyn ymweld fy hen fam-gu – Kass-EL-Doubara, Cairo a Dolfriog, Penrhyndeudraeth, N. Cymru. Mae hwn yn stori ynddo’i hun am y teithiau rhwng Cymru a Chairo ddwywaith y flwyddyn, gyda phlant ifanc. Nid tasg hawdd!

Cerdyn ymweld Adeline Satow
Roedd gweld yr albymau yn brofiad pwerus. Atgofion plentyndod, hanner storïau yr oeddwn yn eu cofio, a adroddwyd gan bobl nad ydynt yma mwyach, pob un yn dod yn fyw. Awgrymodd Ania fy mod yn tynnu lluniau, gan addo ffeindio amser ar ryw adeg i sganio’r holl gynnwys a’i anfon ataf ar ddisgiau. Caredigrwydd hynod ystyriol.

‘The Gwenol Book’, clawr yr albwm
Cyrhaeddodd y disgiau hynny yn ddiweddar a llwyddais i ail-fyw’r bore bendigedig hwnnw yn Archifdy Ceredigion yn cyfarfod fy nheulu trwy albymau coll. Gallaf, yn awr, rannu’r profiad hwnnw gyda fy nheulu fy hun, fel eu bod hwythau hefyd yn deall eu lle yn y teulu hwn o straeon lliwgar. Mae straeon a lluniau teuluol yn rhoi ymdeimlad o berthyn i ni, o’n lle mewn hanes, o wreiddiau ein hunaniaeth. Diolch!