‘Gobeithio fod ein llythyron yn dy gyrraedd di’: Profiadau Carcharor Rhyfel o Aberystwyth yng ngwersylloedd llafur y Japaneaid

Rydym yn falch i gyflwyno blog gwadd arall gan Dr. Lucy Smith


Mae gan Dr. Lucy Smith radd mewn Llenyddiaeth Saesneg a hefyd mewn Gweinyddiaeth Archifau ac astudiodd ffotograffiaeth Julia Margaret Cameron ar gyfer ei doethuriaeth. Mae ganddi ddiddordeb penodol mewn creu archifau ac yn y modd y caiff celfyddyd Oes Fictoria ei chynrychioli mewn llenyddiaeth. Yn ei hamser sbâr mae’n hoffi paentio, darganfod llefydd hanesyddol a dod o hyd i siopau llyfrau.


Er bod llawer o’r casgliadau mwyaf amlwg a geir mewn archifau lleol yn sôn am fywydau teuluoedd cefnog a thrigolion enwog, yn fynych iawn y cannoedd o gasgliadau bychain gan bobl gyffredin yw’r rhai sy’n cynnig y straeon mwyaf personol a theimladwy.

Ar ôl dychwelyd i wirfoddoli yn Archifau Ceredigion, cefais gasgliad bach hynod ddiddorol i weithio ag ef – papurau Ivor Tegwyn James (cyf. ADX/1712), gweithiwr rheilffordd o Aberystwyth a fwynheuai ysgrifennu a ffotograffiaeth ac a brofodd y gwersylloedd rhyfel ofnadwy a sefydlwyd gan Japan yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

O’m blaen yr oedd bocs – heb ei sortio – o ddogfennau swyddogol Ivor, ei lythyron personol a’i ffotograffau, a’m gwaith i oedd rhoi trefn ar yr hanes y tu ôl i’r casgliad a gwneud synnwyr o stori Ivor. Gan ddefnyddio dogfennau a llythyron o’r casgliad, deallais fod Ivor Tegwyn James wedi’i eni yn 1918 ac ef oedd mab ieuengaf Hugh Owen James, haearnwerthwr, a’i wraig Elizabeth. Dechreuodd Ivor weithio i Reilffordd y Great Western yn 1934 ac yntau’n bymtheg oed, ac roedd yn byw gyda’i deulu gerllaw’r orsaf yn Greenfield Street (Heol Cae Glas). Eitemau cynharaf y casgliad yw’r ffotograffau o Ivor yn llanc yn yr 1930au, ac mae i’w weld yn aml yn treulio amser gyda’i ffrindiau ac yn nofio yn y môr. Mae’r ffotograffau hyn wedi cael difrod oherwydd mae’n rhaid eu bod ym meddiant Ivor pan gafodd ei ddal gan y Japaneaid, a’i fod wedi’u cludo o un gwersyll i’r llall. Mae’n anodd dychmygu gwerth y lluniau hyn i Ivor pan oedd yn y gwersylloedd, a gafodd eu disgrifio ganddo’n hwyrach fel ‘uffern ar y ddaear’.

Ivor and friend on wall

ADX/1712/3/2: Llun – sydd wedi cael difrod – o Ivor James (chwith) a ffrind yn eistedd ar wal, tua’r 1930au.

Mae’r dogfennau milwrol sydd yn y casgliad yn dangos bod Ivor wedi ymrestru’n gynnar iawn, cyn i’r Rhyfel ddechrau hyd yn oed. Esbonia’n hwyrach fod hyn am fod pob dyn ugain neu un ar hugain mlwydd oed yn cael eu galw i fyny o flaen llaw ar gyfer eu chwe mis o wasanaeth milwrol.  Ugain oed oedd Ivor pan gafodd ei alw i fyny. Yn 1940, ar ôl chwe mis o hyfforddiant yng ngogledd Cymru, anfonwyd Ivor i Singapôr yn Lefftenant Magnelwr yn y Royal Artillery. Fel brodor o Aberystwyth, ymddengys iddo fynd am drochiad yn y môr yn Singapôr yn ddiymdroi.

Singapore beach

ADX/1712/3/20 Ivor James (gwaelod ar y chwith) a’i ffrindiau tra oeddent yn gwasanaethu yn Singapôr.

Fodd bynnag, daeth tro anffodus ar fyd pan ddaeth lluoedd Japan i Singapôr ym mis Chwefror 1942, gan orfodi lluoedd Prydain i ildio. Cymerwyd Ivor yn garcharor gyda milwyr eraill o Brydain ac Awstralia a dinasyddion Prydeinig. Fe’i anfonwyd i wersyll carcharorion rhyfel Changi ar Ynys Singapôr, sef gorsaf filwrol a ddefnyddiwd ynghynt gan Brydain ac a fu’n orsaf i Ivor pan aeth i Singapôr. Yn wyrthiol, mae’n ymddangos fod Ivor wedi llwyddo i ymdopi â’r digwyddiadau hyn drwy ysgrifennu amdanynt ac mae’r casgliad yn cynnwys cerdd am Frwydr Singapôr, yn ogystal â dyddiadur Ivor yn Garcharor Rhyfel rhwng 1942 ac 1943.

HM Transport Nevasa

ADX/1712/3/11 H.M. Transport “Nevasa”, y llong a gludodd Ivor i Singapôr. Ionawr 1940

Yn y dyddiadur hynod ddiddorol hwn byddai Ivor yn disgrifio’i fywyd dyddiol yn y gwersylloedd, a hynny mewn llawysgrifen fechan ar ddarnau o garden. Mae’n nodi’n rheolaidd y dognau bwyd a roddwyd iddo, a fyddai wedi bod yn bwysig iawn iddo. Yn fynych, pryd o fwyd oedd cwpanaid o reis a darnau o binafal. Gorfodwyd y carcharorion i wneud gwaith trwm ac mae’n cofnodi cael ei anfon i mewn i Singapôr yn un o fintai o weithwyr, gan aros yn yr ‘ysgol Tsieineaidd’. Mae hefyd yn cofnodi pyliau rheolaidd o salwch, gan gynnwys ‘mynd i ysbyty Roberts gyda dysentri’. Ar adegau eraill mynychodd angladd cyd-garcharorion a bu’n cludo stretsier. Hyd yn oed pan oedd yn cofnodi bywyd llwm y gwersyll, glynodd Ivor wrth ei atgofion o’i fywyd gartref. Mae’n cofnodi penblwyddi ei rieni a’i frodyr a’i chwiorydd ac ar 1 Mawrth 1943 cofnoda Ddydd Gŵyl Dewi, gan ysgrifennu ei fod wedi cwrdd â Roy Fisher fin nos yn y ‘Changi Palladium’, sef theatr y carcharorion rhyfel yn y carchar-wersyll, lle gwelodd Ivor gynhyrchiad o ddrama o’r enw ‘The Dover Road’. Noda yn ei ddyddiadur yn 1943 fod rhai carcharorion wedi cael eu hanfon ‘up country’. Ar ôl Mawrth 1943 daw’r dyddiadur i ben.

Ivor's Diary

ADX/1712/4/5 Tudalen o ddyddiadur y carcharor rhyfel Ivor James, 1942-1943

Wrth i’r digwyddiadau hyn fynd rhagddynt ar ochr arall y byd, roedd rhieni Ivor yn Aberystwyth yn daer am newyddion amdano. Gwelais mai craidd y casgliad oedd cyfres o lythyron a anfonwyd bob wythnos at Ivor oddi wrth ei rieni drwy wasanaeth post y Carcharorion Rhyfel. Ar ôl cwymp Singapôr yn 1942, dywedwyd wrth rieni Ivor ei fod ar goll ac y tybir ei fod wedi marw ond ymddengys eu bod nhw wedi dechrau ysgrifennu ato bob wythnos yn 1943 yn y gobaith prin y byddai’r llythyron yn ei gyrraedd. Mae darllen y rhain yn ddigon i dorri calon ac maent yn rhoi darlun o’r sefyllfa a oedd ohoni i deuluoedd nad oedd yn gallu gwneud dim ond aros am ryw newydd. Mewn llythyr nodweddiadol a ysgrifennwyd ar 9 Mawrth 1943, ysgrifenna tad Ivor, ‘We are still without any news of you and we trust that our letters are reaching you […] and have placed our confidence in your safe keeping in the one that rules all’. Mae rhieni Ivor yn aml yn ei annog i ‘barhau i wenu’ ac yn galw ar Dduw i’w amddiffyn. Mae’r llythyron hyn yn deimladwy iawn, yn enwedig pan fo’r rhieni yn cynnwys y newydd fod brawd hŷn Ivor, Hubert, wedi marw mewn damwain awyren yn Swydd Lincoln ym mis Mai 1943 ac yntau yn y Llu Awyr. Yn ôl llythyron blaenorol roedd Hubert yn pryderu’n fawr am ei les. Wrth i’r llythyron fynd rhagddynt, mae gwybodaeth am Garcharorion Rhyfel yn y Dwyrain Pell yn dechrau cyrraedd o dipyn i beth ac mae Hugh James yn ysgrifennu, ‘we are very nervy and excited as news came through last night that Roy Fisher from the GPO was a prisoner in Malaya’. Dyma’r un dyn y cyfarfu Ivor ag e yn y Changi Palladium ar Ddydd Gŵyl Dewi dim ond deufis ynghynt. Fodd bynnag, maen nhw’n parhau i aros am newyddion, gan ysgrifennu ym mis Mai 1943 fod y ‘suspense of not having any news regarding you is a heavy burden […] we have no special news to tell and if we had we would not be allowed to put it down’.

Parents Letters

ADX/1712/2 (rhan): Llythyron a anfonwyd gan rieni Ivor drwy wasanaeth post y Carcharorion Rhyfel, 1943. Sylwer bod pob un wedi’i agor gan ‘archwiliwr’ Prydeinig.

Yn y cyfamser, toc ar ôl i’r dyddiadur orffen yn ôl pob tebyg, anfonwyd Ivor James o Singapôr i adeiladu’r rheilffordd rhwng Byrma a Gwlad Thai, sef y ‘Rheilffordd Angau’ lle bu farw miloedd o garcharorion y Cynghreiriaid a llafurwyr cyffredin wrth ei adeiladu. Symudwyd Ivor o wersyll i wersyll a byddai’n cael ond cwpanaid o reis y dydd. Roedd yn sâl o achos diffyg maeth, yn methu gweithio, hyd yn oed pan fyddai ceidwaid Japaneaidd y carchar yn ei guro, a dim ond ar ôl i un Capten Diver sefyll lan drosto y llwyddodd i gerdded drwy’r jwngwl i wersyll-ysbyty. Ar ôl cael profiadau erchyll, cyfarfu â dyn o Aberystwyth a weithiai yn ffreutur yr ysbyty ac a roddai ddognau ychwanegol o fwyd iddo. [1] Hyd yn oed yn yr amgylchiadau gwaethaf, ymddengys mai gwir yw’r gair – lle bynnog y byddoch yn y byd, byddwch yn cwrdd â phobl o Aberystwyth!

Ym mis Medi 1943, ysgrifennodd rhieni Ivor eu bod wedi derbyn ei garden, o’r diwedd. ‘How happy we are after the good news’. Efallai mai’r garden hon yw’r neges y mae Ivor yn cyfeirio ati yn ei ddyddiadur, a anfonwyd ym mis Chwefror 1943. Nid oedd hawl gan y neges i fod yn hirach na 24 gair. Roedd lluoedd Japan yn araf iawn yn anfon negeseuon y carcharorion rhyfel adre ac yn dosbarthu’r post a gyrhaeddai iddynt. Derbyniodd Ivor y rhan fwyaf o’r negeseuon dros flwyddyn ar ôl iddynt gael eu hanfon, a chofnododd y dyddiadau’n fanwl gywir ar yr amlenni. Profiad anodd mae’n rhaid oedd darllen am farwolaeth ei frawd dros flwyddyn ar ôl ei golli. Trosglwyddwyd Ivor yn ôl i wersyll carcharorion rhyfel Changi ar ôl adeiladu’r rheilffordd ac yno, mae’n rhaid, y derbyniodd y llythyron yn 1944.

Mae’r ohebiaeth yn gorffen gyda llu o delegramau a anfonwyd gan rieni a ffrindiau Ivor yn dilyn y newydd ei fod yn dychwelyd adre. Ar ôl i’r rhyfel orffen ac i’r gwersylloedd gael eu rhyddhau, cludwyd Ivor i ysbyty yn Bangalore, India. Anfonodd lythyr at ei rieni a anfonodd delegram yn ôl i Lundain i ddweud ‘Happy to hear that you are alright anxiously waiting your arrival love = parents’. Yn ei erthygl ar gyfer 50fed penblwydd Diwrnod ‘VE’, ysgrifennodd Ivor fod criw enfawr o bobl yno i’w groesawu pan gyrhaeddodd orsaf Aberystwyth ym mis Tachwedd 1945, ac roedd addurniadau ar hyd stryd ei gartref.

Serch hynny, nid oedd yn ddychweliad hawdd am fod y cofnodion yn dangos fod Ivor wedi cael niwed yn sgil ei brofiadau a derbyniodd lwfans pensiwn anabl hyd 1953. Ceisiodd hawlio am eiddo a gollodd ar adeg yr ildio yn Singapôr, gan gynnwys watsh aur a roddwyd iddo gan ei rieni ac albwm lluniau a brynwyd yn Singapôr. Aeth yn ôl i weithio ar y rheilffordd fel Guard yng ngorsaf Aberystwyth, a gwnaeth hyn hyd nes iddo ymddeol. Drwy gydol ei fywyd parhaodd yn aelod o’r Japanese Labour Camp Survivors’ Association of Great Britain.

Un o’r eitemau hyfrytaf yn y casgliad yw’r ffotograff hwn o Ivor a’i wraig Olwen ar ddiwrnod eu priodas yn 1950. Mae’r llun yn llawn arwyddocâd o achos yr hyn a ddigwyddodd. Er ei fod yn dangos yr effeithiau corfforol yn sgil profiad Ivor yn garcharor rhyfel, mae’r llun hwn, sydd mewn cyflwr da iawn, hefyd yn dal llawenydd y diwrnod a’r dechreuad newydd.

Wedding day

ADX/1712/3/24: Ivor Tegwyn James ac Olwen Roberts ar ddiwrnod eu priodas, haf 1950.

 

This entry was posted in Aberystwyth, Blog gwadd, Yr Ail Ryfel Byd. Bookmark the permalink.

Gadewch ateb

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s