Enw’r ymgyrch eleni yng Ngheredigion yw ‘Hen Siwtces Tolciog yn yr Atig’. Y bwriad yw cael pobl i roi gwerth ar eu harchifau personol. Mae’r teitl yn cyfeirio at y trysorau anghofiedig sydd gan lawer o bobl yn cwato yn yr atig neu o dan y gwely.
Mae’r ymgyrch am i bobl y sir ystyried a pharchu’r dogfennau sy’n cwato yn y corneli hyn a dechrau sgwrs am y syniad o beidio â thaflu popeth pan fyddwn ni’n symud tŷ neu’n gwacáu hen dŷ.
Mae materion emosiynol a moesol dan sylw. Pam ydym ni fel pobl yn cadw rhai pethau? O dan ba amgylchiadau y mae’n briodol i archifau personol a phreifat y teulu gael eu rhoi mewn archifdy?
Bwriad Archifdy Ceredigion yw defnyddio casgliadau sy’n tarddu o ‘hen siwtcesys’ y teitl i edrych ar botensial archifau teuluoedd nid yn unig er budd y teulu ei hun ond er budd y gymuned ehangach.
Mae Archwilio Eich Archif yn ymgyrch ledled y DU ac Iwerddon sy’n cael ei rhedeg gan y Gymdeithas Archifau a Chofnodion. Ei nod yw arddangos y pethau gorau am archifau a gwasanaethau archifau a hynny i ystod eang o ddarpar ddefnyddwyr yn ogystal â’r rhai sy’n eu defnyddio ar hyn o bryd.
Archwiliwch raglen yr wythnos (ar y gweill!), ymunwch â ni yn y Bandstand eto ac Archwiliwch Eich Archif Eich Hun!