Arsenig, Ymddygiad Anllad ac Arbenigwr

Rydym ni’n cyflwyno blog gwadd newydd gan Richard Ireland.


Hanesydd y gyfraith yw Richard W. Ireland a bu’n dysgu am flynyddoedd lawer ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae’n awdur amryw o erthyglau a llyfrau gan gynnwys ‘A Want of Order and Good Discipline’: Rules and Discretion in the Victorian Prison a ‘Land of White Gloves’?: A History of Crime and Punishment in Wales. Mae’n un o aelodau gwreiddiol pwyllgor Cymdeithas Hanes Cyfraith Cymru ac mae wedi cyfrannu sawl gwaith i raglenni teledu a radio.


‘Does dim byd gwell na ffeil ‘Amrywiol’. Er bod cofnodion llysoedd yn cynnwys amrywiaeth eang o ran eu cynnwys, maen nhw, o ran eu cynllun, yn debyg iawn yn fynych. Mae’n bleser cael amrywiaeth. Pan wnaeth Archifydd y Sir dynnu fy sylw at RE/PS/5/1, ffeil lwyd ddi-nod yr olwg, cafodd fy chwilfrydedd ei ennyn gan yr hyn a oedd y tu mewn iddi. Roedd ynddi nifer o ddogfennau cyfreithiol, rhestrau rheithgorau, derbynebau, dogfennau trosglwyddo carcharorion, ac ati. Ond yr hyn a daniodd fy niddordeb yn fwy na dim oedd llythyr dyddiedig y 19eg o Ionawr, 1851, ynghylch archwilio tebot a’r ffaith fod olion arsenig wedi’u canfod yn ei big. Daw’r llythyr i’r casgliad, “I have therefore no doubt that great care was taken to clean the pot and throw out all the contents and it is only from the ignorance of the person as to the properties of Arsenic that my discovery is owing”. Ar waelod y llythyr yr oedd llofnod William Herapath o Fryste.

RE.PS.5.1 Herepath letter

Roeddwn yn gyfarwydd, mewn ffordd o siarad, â Herapath (mewn ambell i ffynhonnell sillefir ei enw’n anghywir ar ffurf “Herepath”). Yn fy ngwaith ymchwil i garcharorion carchar Caerfyrddin des ar draws ei enw fel un yr ymgynghorwyd ag ef yn achos Elizabeth Rees yn 1864, a gyhuddwyd o lofruddio’i mab, ac yn achos yr ecsentrig Ann Matthews, a oedd wedi dwyn o’r Swyddfa Bost ac a ddedfrydwyd i’w halltudio yn 1849. Roedd yr achos cyntaf yn ymwneud â gwenwyno â ffosfforws, ac fel arbenigwr ar wenwyno y gwnaeth Herapath – a ddisgrifiodd ei hun mewn un achos fel “fferyllydd athronyddol” – ei enw. Yn sgil ei arbenigrwydd yn y maes hwn, deuai cyfres ddi-baid o focsys i’w gyfeiriad ym Mryste yn cynnwys stumogau wedi’u torri allan. Rhoddodd dystiolaeth yn yr achos mwyaf enwog o’r holl achosion o wenwyno yn Oes Victoria, sef un William Palmer, “Gwenwynwr Rugeley”, yn 1856, a rhoddai ei farn hefyd ar lawysgrifen ac mewn achosion o dagu. Yn wir, mae nifer o achosion o Gymru yn cyfeirio at ei waith ymchwil, naill ai fel tyst yn y llys neu mewn adroddiadau dogfennol. Er enghraifft, mewn achos o lofruddiaeth yng Nghasnewydd yn 1845, achos yng Nghrucywel yn 1849, achos arall yng Ngheredigion (un Jane Davies) yn 1861, ac achos o ladd plentyn yn Nhrefynwy yn 1855, a hyd yn oed mewn achos tybiedig o wenwyno moch ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn 1847. Roedd ei enw wedi mynd ar led i’r graddau, pan drafodwyd achos marwolaeth ddiweddar y Tsar mewn cyfarfod am Ryfel y Crimea ym Mryste yn 1855, gwaeddodd rhywun o’r llawr, “Anfonwch ei stumog at Herepath a dywedith e wrthoch chi”!

ADX1714r

Roedd arlliw o Agatha Christie yn perthyn i “Achos y Tebot Gwenwyn” ac enynnodd hyn fy niddordeb, felly troais at adroddiadau papur newydd o achos Elizabeth Jones, a gyhuddwyd o lofruddio’i mam-yng-nghyfraith drwy ei gwenwyno ger Pontrhydfendigaid. Canfuwyd bod yr achos yn un hynod yn ogystal ag un hynod o ddiddorol. Wrth ddewis y rheithgor rhoddwyd sawl her gerbron er mwyn i reithgor a oedd yn deall Saesneg a Chymraeg fedru clywed yr achos. Mae hyn yn nodedig oherwydd roedd achosion y brawdlysoedd yn cael eu cynnal yn ddieithriad yn Saesneg, wrth gwrs. Yr wyf wedi dadlau mewn man arall fod anallu llawer o reithgorau yn y Gymru wledig i ddeall yr iaith honno yn gyfrifol yn rhannol am yr enw a gawsant am gyflwyno rheithfarnau a oedd yn groes i’r dystiolaeth. Yn yr achosion hynny lle’r oedd y diffynnydd neu’r tystion yn siarad Cymraeg yn unig, cyflogwyd cyfieithydd yn fynych i gynorthwyo’r llys. Fodd bynnag, nid wyf wedi dod ar draws achos arall lle bwriwyd ati o’r cychwyn i sicrhau a dewis yn bwrpasol reithgor dwyieithog.

Roedd y llys dan ei sang (roedd achosion o wenwyno yn gyffredinol yn denu cynulleidfa fawr) ac roedd yr olygfa a wynebai’r rheithgor ac oriel y cyhoedd yn un hynod. Caniatawyd i’r diffynnydd “gwelw ac eiddil ei golwg” eistedd yn y doc, a’i gŵr yn sefyll o flaen y doc a dau feddyg gerllaw. Roedd ei mam-yng-nghyfraith, Anne Jones, wedi marw ac roedd arwyddion o wenwyn yn amlwg yn y corff ar ôl i Herapath ei archwilio. Roedd dau dyst allweddol, John Jones a Jane Davies, wedi tystio bod y diffynnydd wedi gofyn iddynt brynu gwenwyn a’i bod wedi mynegi ei bwriad i ladd Anne oherwydd ofnai y byddai’n gwerthu’r fferm ac y byddai hi Elizabeth yn ddigartref o ganlyniad. Daeth John Jones o hyd i’r tebot mewn clawdd ond honnwyd ei fod wedi crybwyll hynny’n unig ar ôl dioddef ymosodiad gan grŵp o ddynion. Tystiodd Jane Davies iddi gael breuddwyd ac ynddi fe’i rhybuddiwyd i beidio ag ôl y gwenwyn. Roedd yr achos yn erbyn Elizabeth yn dibynnu ar hygrededd y ddau dyst hyn.

IMG_9170

Roedd tystiolaeth John Jones yn fregus am iddo fethu â chyfeirio’n wreiddiol at faterion yr oedd bellach yn tystio yn eu cylch yn yr achos llys. Heriwyd hygrededd Jane Davies ar hyd llinellau tra gwahanol. Dyma linellau clo deialog – a ailadroddwyd ym mhapur The Welshman – rhyngddi a John Evans QC, AS, cwnsler yr amddiffyniad a ddatgelodd nad oedd y tyst wedi gweld ei gŵr ers peth amser. Dylwn nodi nad oedd y cwestiynau a sbardunodd yr atebion wedi’u cynnwys yn y papur newydd, ac eithrio’r cwestiwn cyntaf, ond digon hawdd yw dyfalu beth oeddent.

“Mr Evans: “Ydych chi’n cofio’i adael a mynd i ffwrdd gyda David Lloyd o Dregaron?” (Ailadroddwyd y cwestiwn.) “Do, es i gyda David Lloyd. Ni es i gyda Sais o’r enw Benjamin. Efallai imi fynd i ffwrdd gyda dyn arall. Nid wyf yn cofio’i enw. Es i gyda thrydydd dyn, ei enw oedd John Kemp. Ni es gyda neb arall. Kemp oedd yr un olaf yr es oddi cartref gydag ef. Gan fy mod i gartref nawr rwy’n derbyn ymwelwyr os oes ganddynt negeseuon ar fy nghyfer. Mae David Jones y glöwr wedi bod gyda mi droeon. Ni ofynnais erioed iddo gysgu â mi. Nid wyf yn cofio p’un a wnaeth ai peidio. Ni wnes nodyn o’r sgyrsiau hyn.” [Gadawodd y tyst y llwyfan tystio gan ddweud o dan ei gwynt, “Rwy’n credu fy mod i wedi cael digon.”].

Beth oedd dan sylw fan hyn? Pam yr oedd hanes rhywiol tyst mewn achos o lofruddiaeth yn berthnasol o gwbl? Yn syml, cododd y cwnsler y pwnc er mwyn tanseilio’i hygrededd yn gyffredinol: tybir, heb ddweud hynny’n agored, fod moesoldeb yn sefydlog ac na fyddai modd ymddiried mewn menyw sy’n cyfaddef ei bod wedi ymddwyn yn llac ei moesau – yr oedd wedi colli “ei henw da”. Defnyddiwyd yr un dacteg yn erbyn Mrs Dyson, y prif dyst yn un o achosion enwocaf Oes Victoria, sef un y lleidr a’r llofrudd Charles Peace yn 1879.

Ar ôl i John Jones roi ei dystiolaeth, anghyson fel yr ydoedd â’i ddatganiadau blaenorol, ildiodd cwnsler y Goron yn llwyr gan ddweud “nad oedd o’r farn y dylai ymestyn terfynau cyfiawnder ymhellach drwy barhau â’r erlyniad”. Cytunodd y barnwr, ac felly hefyd y rheithgor, a ddywedodd eu bod “wedi bod o’r farn, ers peth amser, nad oedd modd dibynnu ar y ddau dyst.” Cafodd Elizabeth Jones – a lewygodd ac a gyfogodd yn ystod ei hachos – adael y llys yn ddynes rydd.

A dyna ni. Roedd Anne Jones dal yn farw. Roedd natur lidus ei horganau mewnol yn dal yn awgrymu iddi farw’n annaturiol. Safai’r tebot â’r olion arsenig yn y llys. Roedd ganddo stori i’w hadrodd, ond nid hon oedd hi.

Richard W. Ireland

This entry was posted in Blog gwadd, Gwyddoniaeth a thechnoleg, Trosedd a Chosb. Bookmark the permalink.

Gadewch ateb

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s