Fy Nghyfnod yn Archifdy Ceredigion

Dyma flog gwadd newydd gan Hollie a dreuliodd ddwy wythnos hapus yn cael profiad gwaith yn Archifdy Ceredigion.


Pan ofynnais am gael fy lleoli yn yr Archifdy, nid oedd syniad gennyf beth oedd ynghlwm â’r gwaith. Yr agosaf y bûm at weithio mewn archifdy oedd drwy wefan Ancestry a thaith i Archifau Manceinion pan oeddwn yn ddeunaw. Nid oeddwn yn gwybod beth i’w ddisgwyl am nad yw’n swydd gyffredin iawn, ond ar ôl dwy wythnos yma rhaid i mi gyfaddef y byddaf yn gweld eisiau’r gwaith.

Cefais groeso cynnes iawn (rhywbeth yr oeddwn wedi bod yn becso amdano am fy mod yn berson swil a nerfus iawn) a theimlais fel rhan o’r tîm ar unwaith. Y dasg gyntaf a gefais oedd pori drwy gasgliad y Sefydliad y Merched [WI] a’i wirio i wneud yn siŵr fod popeth yno a gwneud nodyn o unrhyw beth nad oedd wedi’i gatalogio. Cymerodd tua thri diwrnod i fynd trwy’r cyfan, gan gynnwys codi llawer o focsys trwm (rwy’n codi ‘nghap i unrhyw un sy’n gallu cario’r bocsys trymion hyn drwy’r dydd oherwydd heb fy nhroli, byddai wedi fy lladd i yn y diwedd). Roedd casgliad Sefydliad y Merched yn ddiddorol, yn enwedig y llyfrau sgrap – rwy’n berson chwilfrydig felly treuliais hanner yr amser yn eu darllen i weld beth oedd y merched hyn wedi bod yn ei wneud dros y can mlynedd – a mwy – diwethaf.

Ar ôl rhoi trefn ar gasgliad Sefydliad y Merched (dylwn fod yn aelod anrhydeddus erbyn hyn ar ôl cribo drwy eu hanes i gyd!) roeddwn yn gallu bwrw ati a gweithio ar ymholiadau hanes teulu, rhywbeth yr wyf yn mwynhau gwneud yn fy amser sbâr a dyna, siŵr o fod, oedd fy hoff ran o’r holl brofiad. Roeddwn wrth fy modd yn helpu pobl i hel achau a cheisio nodi pam bod rhyw aelod o’r teulu yno mewn un cyfrifiad ond bod teulu newydd sbon ar yr aelwyd erbyn y cyfrifiad nesaf. Mae’n teimlo fel eich bod yn gwau bywyd person at ei gilydd a phan fyddwch wedi gorffen mae rhyw foddhad mawr yn dod drosoch.

Yn ogystal â hel achau, bûm yn edrych ar hanes tai pobl (sydd wedi sbarduno mam i ofyn imi ymchwilio i hanes ein tŷ ni). Mae’n ddiddorol gweld cynifer o deuluoedd fu’n byw yn y tai hyn cyn i ni fyw ynddynt ac mae’n gwneud i chi ddyheu am i’r welydd siarad.

Yn ystod fy nau ddiwrnod olaf bûm yn pori drwy eitemau oedd a wnelo â’r Ail Ryfel Byd ac yn llunio rhestr o faciwîs a ddaeth i Aberystwyth o Lerpwl (o ddiddordeb penodol i mi gan fy mod yn dod o Lerpwl) felly teimlwn fy mod yn gwneud hanes fy ninas i yn hytrach nag ond teipio gwybodaeth o restrau. Roeddwn wrth fy modd yn pori drwy’r eitemau (eto, am fy mod yn fusneslyd!); fy hoff ddarn o’r casgliad hwnnw yw’r posteri propaganda sy’n rhybuddio pobl i beidio â siarad am ymdrechion y rhyfel rhag ofn bod ysbïwyr o gwmpas, sy’n rhyfedd i ni erbyn heddiw o ystyried fod bron pob dyfais dechnolegol yn gwrando ar ein sgyrsiau.

Yr wyf wir wedi mwynhau’r pythefnos a dreuliais yma a byddaf yn gweld eisiau pawb yn fawr. Nid oeddwn yn gwybod beth oedd natur gwaith archifydd cyn i mi ddod yma ond erbyn hyn rwy’n gwybod. Nid yw’n fater yn unig o wybod hanes y sir – mae angen, hefyd, bod yn agored ac yn barod i wrando ar straeon pobl am eu bywydau a’u helpu i ddatrys dirgelwch eu hachau a’u gorffennol yn y gobaith y gallwn ddysgu ohonynt a pheidio â gwneud yr un camgymeriadau â’n cyndeidiau. Hoffwn ddiolch i Helen a’r holl staff eraill am fod mor groesawgar a pharod eu cymwynas dros y pythefnos diwethaf.

Hollie

 

This entry was posted in Archifdy Ceredigion, Blog gwadd. Bookmark the permalink.

Gadewch ateb

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s