Achosion o lofruddio, crogi a newynu

Rydym ni’n cyflwyno blog gwadd newydd gan Richard Ireland.


Hanesydd y gyfraith yw Richard W Ireland a bu’n dysgu am flynyddoedd lawer ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae’n awdur amryw o erthyglau a llyfrau gan gynnwys ‘A Want of Order and Good Discipline’: Rules and Discretion in the Victorian Prison a ‘Land of White Gloves’?: A History of Crime and Punishment in Wales. Mae’n un o aelodau gwreiddiol pwyllgor Cymdeithas Hanes Cyfraith Cymru ac mae wedi cyfrannu sawl gwaith i raglenni teledu a radio.


Pleser o’r mwyaf yw cael cais i ysgrifennu blog gwadd ar gyfer Archifdy Ceredigion. A minnau’n hanesydd y gyfraith, rwyf wedi treulio oriau lu yn y sefydliad hwn yn ymchwilio. Er nad yw cofnodion y Sir o ran cyfiawnder troseddol mor gyflawn â’r hyn a geir mewn mannau eraill (er enghraifft, nid yw llawer o gofnodion y Llysoedd Chwarter wedi goroesi) mae modd i’r rheiny sydd â’u bryd ar drosedd – mewn ystyr academaidd wrth gwrs – fwrw golwg ar sawl dogfen anarferol a diddorol.

Un o’r rhain yw casgliad o bamffledi o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg sydd wedi’u crynhoi a’u rhoi mewn un gyfrol fawr. Amcangyfrifaf fod tua chwe chant ohonynt ac mae eu pynciau’n amrywio o drychinebau dan ddaear i longddrylliadau – gan gynnwys un mwy diweddar am y Titanic – ac o seremonïau agor rheilffyrdd i anturiaethau’r mochyn du. Mae’r mwyafrif helaeth yn Gymraeg a mawr yw fy nyled i Margaret Jones o’r Archifdy am roi help llaw imi ar yr adegau (niferus) pan oedd fy ngwybodaeth o’r iaith yn annigonol. Roedd rhai o’r pamffledi yn cyfeirio’n benodol at faterion a oedd yn ymwneud â throseddau, a’r rhain fydd yn cael fy sylw yn y cyflwyniad byr hwn.

Mae nifer o’r baledi yn adrodd hanes llofruddiaethau, a oedd yn ffynhonnell bwysig o ran incwm i’r pamffledwyr (gweler, er enghraifft, dudalennau 35, 103, 133). Llofruddiaeth Hannah Davies ym Mhencarreg, Sir Gaerfyrddin yn 1829 sydd â’r gynrychiolaeth fwyaf yn y casgliad hwn, sef tri gwahanol argraffiad (23, 25, 38).

Hannah Davies

Mae’r faled am lofruddiaeth Jane Lewis gan ddau Wyddel, Morris Murphy a Patrick Sullivan yn Ne Cymru yn 1850 (11) yn haeddu sylw penodol. Ar ddiwedd y faled ceir llun o dorlun pren digon cyffredinol mi dybiaf o ddau deithiwr, ac mae un ohonynt yn cario bwyell. Mewn gwirionedd, gwyddom yn fwy cywir sut olwg oedd ar y ddau droseddwr oherwydd tynnwyd ffotograffau ohonynt ar ôl iddynt gael eu harestio. Anfonwyd y ‘daguerroteipiau’ hyn i Iwerddon i weld a oedd rhagor o wybodaeth am y ddau ddiffynnydd, a chymaint oedd y diddordeb yn yr achos fel y gwnaed engrafiad pren ohonynt gan artist benywaidd o Lundain ac fe’u hatgynhyrchwyd ym mhapur newydd y Monmouthshire Merlin – enghraifft gynnar, nodedig o’r arfer hwn.

Ballad illustration

Mae achosion mwy torfol o darfu ar yr heddwch yn cael sylw hefyd yn y casgliad. Mae un (57) yn ymdrin ag achos Richard Lewis (‘Dic Penderyn’), a grogwyd yn ddadleuol iawn am ei ran yn Nherfysg Merthyr ym Mehefin 1831. Hefyd mae pamffledi am Derfysgoedd Rebecca (13, 77) ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, gan gynnwys sawl cerdd a gyfansoddwyd gan David Davies (‘Dai’r Cantwr’) a alltudiwyd o ganlyniad i’w weithredoedd (32, 38, 55). O blith y rhain, cyflwynir dwy gerdd fel rhai a ysgrifennwyd ganddo yng ngharchar Caerfyrddin, ac mae dwy yn fersiynau o’r un gerdd a luniwyd yn Awstralia yn ôl pob golwg.

Cwyn David Davies

Ceir dwy gerdd (91, 131) sy’n bleidiol i achos Sarah Jacob o Sir Gaerfyrddin, yr honnwyd ei bod yn gallu byw heb fwyd na diod ac a fu farw yn 1869 ar ôl cael ei goruchwylio gan nyrsys i brofi a oedd yr honiad yn wir. Roedd yn achos enwog yn genedlaethol ac yn sail i wrthdaro ar y pryd rhwng ideolegau gwyddoniaeth a chrefydd, ac mae wedi cael sylw gan sawl awdur yn y blynyddoedd diwethaf. Mae un o’r testunau, gan Hugh Roberts, yn cynnwys cân ar siâp cerdd y credid ar un adeg ei bod wedi’i chyfansoddi gan Sarah ei hun, mi gredaf.

Sarah Jacob

Ysgrifennwyd y pamffledi uchod i gyd yn Gymraeg, ond nid y ffaith fy mod yn fwy cysurus â’r iaith yw’r unig reswm dros dynnu sylw at Groans of the Gallows or a Sketch of the Life of Wm Calcraft, English Hangman, Commonly called Jack Ketch (95). Gellir dyddio’r fersiwn hon i 1850, ond mae yna bamffledi eraill sy’n rhannu’r un teitl ond nid yr un cynnwys. Peth hynod am y testun yw ei fod yn addo (ond prin yn llwyddo go iawn) i gynnal ‘General Review of the Causes of Crime’, sef pwnc a oedd yn cael sylw cynyddol mewn oes pan oedd ystadegau a system fwy unffurf o heddlua yn sicrhau bod trosedd a chosb yn fater o bwys cenedlaethol ac nid lleol yn unig. Yr awgrym fan hyn yw bod amgylchedd y drwgweithredwyr yn bwysig: ‘The same bad social arrangements that creates [sic] victims for the gallows compelled WILLIAM CALCRAFT to become a hangman’. Mae’r traethawd beirniadol yn crybwyll bod lleihad wedi bod o ran nifer y troseddau â chosb marwolaeth a fu’n gymaint o nodwedd o ail chwarter y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Jack Ketch

Mae’r deunydd y rhoddir ystyriaeth iddo fan hyn yn cynnwys sawl peth sydd o ddiddordeb, ond a yw’n fwy nag ond casgliad o bethau byrhoedlog mewn gwirionedd? Credaf ei fod yn fwy arwyddocaol na hynny. Mae’r casgliad yn cwmpasu amrywiaeth o bynciau ac, o’u plith, dim ond canran fach yw’r rheiny sy’n ymwneud â chyfiawnder troseddol. Dengys y casgliad mor fyw oedd yr arfer yn Gymraeg o ysgrifennu pamffledi, a hynny’n bennaf ar gân. Gwelir y faled lofruddiaeth yn cael ei gwerthu wrth droed y grocbren yn engrafiad Hogarth o’r ddeunawfed ganrif – ar ddiwedd ei gyfres Industry and Idleness – ac mae’r darlun yn parhau i hudo ac arswydo, ond mae swmp y baledi hyn yn ymestyn ymhell y tu hwnt i’r pwnc hwn. Ymdrinnir â materion cymhleth a dadleuol, gan gynnwys yr anghydfodau cymdeithasol ac achos Sarah Jacob a nodir uchod, fel rhai sy’n codi cwestiynau ynghylch cyfiawnder a moesoldeb. Roedd hon yn adeg pan ystyrid fod y Gymraeg, yn dilyn beirniadaeth enwog a ‘bradwrus’ y Llyfrau Gleision, yn iaith dan warchae, ond mae pori drwy’r gyfrol hon o ymatebion bywiog i ddigwyddiadau lleol a chenedlaethol yn rhoi gwedd arall i ni ar y stori honno.

Richard W. Ireland

Advertisements
This entry was posted in Blog gwadd, Ein hoff ddogfennau, Trosedd a Chosb and tagged , , , , , . Bookmark the permalink.

Gadewch ateb

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out /  Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s