Dyma’r trydydd flog gwadd am y teulu Hallworth. Darllenwch rhan 1 a rhan 2, wedyn chwarae gêm o denis gydag Annie Hallworth!

ADX/1579/12/1. Mae Annie Hallworth yn y rhes flaen, y drydedd o’r chwith.
Rhwng y ddau ryfel roedd clybiau tenis mewn trefi bach yn ganolfannau cymdeithasol lle gallai pobl gwrdd ac anghofio’r llymder gartref. Yn y llun hwn fe welwn fod criw eithaf amrywiol yn dod i chwarae ar gyrtiau Morfa Mawr, a agorodd ym 1923, gan gynnwys myfyrwyr yn y Brifysgol.

ADX/1579/12/7. Annie Hallworth yw’r ail o’r dde.
Mae’r lluniau eraill yn dangos Annie Hallworth ynghanol cylch o gyfeillion byrlymus, yn fenywod a dynion.

ADX/1579/12/3. Annie Hallworth yw’r ail o’r chwith.
Tynnwyd y rhan fwyaf o’r lluniau hyn ar y Morfa Mawr, ond mae dau lun o’r chwaraewyr yn ymlacio mewn cadeiriau cynfas sydd wedi’u tynnu rhywle yn y wlad o amgylch y dref, ond nid oes wybod ble.

ADX/1579/12/6. Mae Annie Hallworth yn y canol.
Y tu ôl i’r criw yn y llun gallwn weld Neuadd y Coleg, a losgodd yn ulw ym mis Awst 1933, sy’n ein galluogi i ddyfalu pa bryd y tynnwyd y gyfres ryfeddol hon o luniau.

ADX/1579/11/2. Annie, modurydd awyddus, yn ei char!
[John Wiles]