Rhan 2 o gyfres fach am deulu Hallworth!
Mae’r llun hynod hwn yn dangos Thomas Hallworth yn ystod y Rhyfel Mawr, ar y traeth ger Alexandria. Yn ei fywyd bob dydd roedd Thomas, a ddechreuodd yn goetsmon yn Hyde yn Swydd Caer, yn gweithio fel gyrrwr i Dr Roberts o Benywern, ger Aberystwyth.
Ymrestrodd Thomas ym 1915 pan oedd yn 37 oed, ac fe’i rhoddwyd ar waith yn yr isadran Cludiant Mecanyddol o Gorfflu Gwasanaeth y Fyddin, a bu’n gyrru ambiwlansys yn Yr Aifft. Credwn fod y rhain yn seiliedig ar yr un siasi â cheir Model ‘T’ Ford, a byddwn yn ddiolchgar i gael unrhyw wybodaeth amdanynt.
Wedi’r rhyfel agorodd Thomas siop ddillad gyda’i wraig, Edith, ar Stryd y Bont, Aberystwyth, ble mae’r tŷ Golchi a Throi a Sychu erbyn heddiw, ddiweddarach aeth Thomas i redeg yr Eagle Garage. Darllenwch fwy am y Hallworths yma.
[John Wiles]
Pingback: Teulu Hallworth rhan 3: Awydd gêm o denis? | Archifdy Ceredigion