[Blog 1 mewn cyfres o 3]
Daeth Thomas ac Edith Hallworth o dref Hyde yn Swydd Caer, lle bu ef yn goetsmon a hithau’n wniadwraig. Ym 1911 roeddent yn byw ym Mythynnod Gwynfryn, Y Gors, gyda’u merch fach Annie, a Thomas yn gweithio fel gyrrwr i Dr Roberts o Benywern.

Gwynfryn, Penywern
Bu Thomas yn gyrru ambiwlansys yn Yr Aifft yn ystod y Rhyfel Mawr, ac wedi hynny symudodd y teulu i Aberystwyth ac erbyn 1922 roeddent wedi agor siop ddillad ar Stryd y Bont, ble mae’r tŷ Golchi a Throi a Sychu erbyn heddiw.
Yn ddiweddarach aeth Thomas i redeg yr Eagle Garage ar ben uchaf y Lôn Gefn, sydd heb newid rhyw lawer ers hynny, a symudodd y teulu i dŷ newydd ar Heol y Buarth.
Roedd pob aelod o’r teulu Hallworth yn frwd dros foduro, ac roedd Annie’n un o selogion y clwb tenis lleol. Roedd yn fyd gwahanol iawn i dref Hyde yn oes Edward.
Mwy am y Hallworths yn fuan!
[John Wiles]
Pingback: Teulu Hallworth rhan 2: I’r gad! | Archifdy Ceredigion
Pingback: Teulu Hallworth rhan 3: Awydd gêm o denis? | Archifdy Ceredigion