Mi wnaeth mam a minnau fwyta Pwdin Nadolig Gogerddan ar ddydd Nadolig. Fe wnes i ei stemio am gwpl o oriau er mwyn ei dwymo’n dda drwyddo a’i droi allan. Fe es i ag ef ar wib i’r ardd i nôl sbrigyn iach o gelyn, fe dwymais beth brandi, rhoi’r pwdin ar dân (a’r celyn hefyd – wps!) a’i weini. Roedd yn flasus iawn gyda hufen dwbl Jersey. Roedd yn neis iawn – yn dywyll, yn llawn ffrwythau a heb fod yn rhy drwm. Yr unig feirniadaeth sydd gen i yw’r pîl cymysg – prynais frand oedd â blas rhy asidig arno imi, ac er na wnaeth hynny ddifetha blas y pwdin yn ormodol, doedd e ddim mor flasus â’r pîl a gawswn i o’r blaen. Y tro nesaf mi brynaf ddarnau mawr o bîl a’u torri nhw fy hun. Maen nhw’n flasus iawn fel arfer. Mam gafodd y darn tair ceiniog lwcus (pa syndod!)
Mae gen i ail bwdin o hyd ac yr wyf yn mynd i’w gadw am blwc i weld sut bydd e’n aeddfedu. Yn y cyfamser daeth copi arall o rysáit Pwdin Gogerddan i’r fei mewn llawysgrif o ryseitiau sydd newydd ei gatalogio. Mae’r cynhwysion union yr un fath ond mae’r disgrifiad o’r broses ychydig bach yn wahanol. Dydyn ni ddim yn gwybod eto pwy oedd y perchennog. Mae’r llawysgrif yn cynnwys nifer o ryseitiau diddorol ac yr ydym yn siŵr o roi cynnig arnyn nhw cyn bo hir…
Diolch yn fawr iawn i bawb am eu sylwadau a’u syniadau!
[HP]