Dyma rysáit o 1913 gan Marianne Farrow a ddaeth i Aberystwyth ym 1901 gyda’i gŵr George, Uwch Ringyll Cwmni yng Nghatrawd Magnelau Sir Aberteifi. Erbyn 1911 roedd ganddyn nhw chwech o blant rhwng 17 a 6 blwydd oed.
Gan mai dim ond rhyw 6 swllt yr wythnos oedd incwm ei gŵr, efallai fod Mrs Farrow yn gyfarwydd iawn â choginio’r fath ddanteithion blasus a darbodus.
[HP]