Daw’r gacen hon o Aberystwyth ym 1917 o War Hints and Recipes. Mae hwn yn rysáit digon rhyfedd ar un ystyr oherwydd does dim wyau ynddo (roedd digon o’r rheiny yn Aberystwyth ym 1917, siawns?) Mae’n cynnwys lot fawr o sbeisys a chroen orennau a fyddai wedi gorfod cael eu mewnforio trwy fôr-warchae llongau tanfor yr Almaen. Felly, dwn i ddim sut oedd hyn yn helpu lle’r oedd y rhyfel yn y cwestiwn.
Defnyddiwch soda pobi a hufen tartar (mi wnaiff powdwr codi modern y tro) wedi eu cymysgu â llaeth enwyn neu laeth ‘melys’ (e.e. newydd). Mae’r cyfuniad hwn yn cael ei ddefnyddio i wneud sgonau heddiw.
Mae llwyth o sbeisys yn y gacen – owns o of sinamon, owns o sinsir mâl a nytmeg cyfan! Beth oedd diben y croen oren? Defnyddiais i groen candi –siawns nad oedd angen croen oren ar gyfer y rysáit? Mae’r croen oren yn hyfryd ond mae’r bywyn gwyn y tu mewn yn ofnadwy o chwerw.
Cymerodd ddwy awr i goginio’r gacen ar oddeutu 180° am yr awr gyntaf a 160° ar gyfer yr ail awr. Roedd y tu allan yn galed ond roedd y tu mewn wedi’i goginio’n neis. Imi roedd y gacen yn rhy sbeislyd o lawer ond fe gafodd aelodau Fforwm Hanes Lleol Ceredigion ddarn i’w flasu ac ni ddywedodd neb ddim am hynny. Fe dybiwn y byddai’n cadw’n dda mewn tun seiliedig.
Miss Marshall a gyfrannodd y rysáit yma. Tybed ai hi oedd Ethel, y clerc/telegraffydd a oedd yn gweithio, fe dybir, i Swyddfa’r Post. Un o Barnsley, Swydd Efrog oedd hi’n wreiddiol, ac yn ôl Cyfrifiad 1911 roedd yn byw yn Stryd y Dollborth, Aberystwyth.
[HP]