Mae’r teisennau banana’n dod o Lyfr Ryseitiau Coeden Nadolig Eglwys Mihangel Sant a’r Holl Angylion, Aberystwyth (1913), casgliad o ryseitiau gan aelodau o’r gynulleidfa a’u ffrindiau. Mae Miss Hughes o Ael Dinas, Trefechan yn dweud eu bod yn ‘hynod faethlon’, math ar ymborth llawn egni o’r oes o’r blaen o bosib. Pwder pobi a oedd yn cael ei gynhyrchu gan gwmni Brown a Polson yn nhref Paisley oedd ‘Paisley Flour’.
Fe drodd y teisennau banana allan fel teisennau garw bach, melys â blas banana arnyn nhw. Mae’n bosibl bod y deisen fanana fodern yn fwy o faint na rhai 1916, oherwydd roedd y toes yn rhy wlyb i’w dorri’n deisennau bach fel yr awgryma’r rysáit. Mi wnes i eu coginio nhw ar 180° ac ar ôl ugain munud roeddynt yn dal i edrych yn welw a thrist, felly efallai fod angen mwy o wres.
[HP]