Dyma rysáit o Dloty Bronglais, Aberystwyth ym 1884. Roedd y meintiau’n enfawr ac felly dwi wedi lleihau popeth i wneud digon i un neu ddau. Mae’r rysáit mewn pwysau ac ownsys ac mae trosi’r meintiau’n gramau’n dipyn o hwyl ynddo’i hun i rai sy’n mwynhau gwneud symiau.

Cawl ar gyfer y tlodion
Defnyddiais gig eidion (cig cawl), pys hollt gwyrdd a’r mymryn lleiaf o winwn, moron a maip. Ddefnyddiais i mo’r esgyrn (bydden nhw wedi helpu’r blas ond bydden nhw’n cael eu tynnu allan cyn gweini). Defnyddiais binsiad o berlysiau cymysg sych, ychydig o halen a phupur, a rhan o giwb stoc cig eidion yn hytrach na ‘gwlych cig’ (byddai hwnnw wedi ei wneud o’r cig eidion mae’n debyg).
Torrais y cig eidion a’r llysiau’n ddarnau bach iawn. Ychwanegais y gwlych cig, y pys hollt a’r blawd ceirch, y perlysiau sych ac ychydig o bupur a halen. Yna bu’n ffrwtian ar y stôf am hir. Yn y diwedd fe adewais i’r cawl ar wres ‘isel’ yn y popty araf dros nos. Er mawr syndod imi, roedd blas da arno, er doedd y lliw ddim yn apelio rhyw lawer.
Dyma ffilm byr gydag Archifydd y Sir yn siarad am y cawl a bwyd arall yn y tloty.
[HP]