Dechreuwch eich diwrnod gyda grual!

gruel

Dyma’r rysait y mae pawb yn ei gysylltu â’r tloty byth ers i Charles Dickens wneud i Oliver Twist ofyn am ‘ragor’. Ond sut beth yw e mewn gwirionedd?

Mae grual yn cael ei wneud â blawd ceirch yn hytrach na’r creision ceirch sydd mewn uwd heddiw.Roedd grual tloty Aberystwyth yn cael ei wneud â dŵr yn hytrach na llaeth (roedd y plant yn cael ‘uwd llaeth’), ond roedd  triog a phupur Jamaica yn cael eu rhoi ynddo i’w wneud ychydig bach yn felysach a mwy blasus.Fel y gwelwch chi o’r mesuriadau dim ond 2 owns (tua 50g) o flawd ceirch oedd i bob peint o ddŵr, felly tenau oedd y grual.

I wneud y grual rhowch y blawd ceirch  mewn dŵr oer, ar wres cymedrol ar y stôf a’i droi’n ysgafn nes bydd yn ffrwtian yn ysgafn ac mae’r blawd ceirch wedi tewychu. Ychwanegwch bupur Jamaica a daliwch i’w goginio am ychydig o funudau (daliwch i’w droi hefyd!), yna ychwanegwch y triog cyn gweini, a chymysgu’r cyfan yn dda.

[HP]

This entry was posted in Archwilio Eich Archif 2016, Ryseitiau and tagged , , , . Bookmark the permalink.

Gadewch ateb

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s