Mae Archifdy Ceredigion yn gofalu am lawer iawn o fapiau, rhai printiedig a rhai a wnaethpwyd â llaw – ac maen nhw’n dangos sut mae’r sir wedi newid drwy’r oesoedd!
Cafodd y mapiau printiedig cynnar yma o Sir Aberteifi (cyf. ACM) eu rhoddi i’r Archifdy’n ddiweddar. Dyma rai o oreuon y casgliad.
- Copi a gafodd ei liwio â llaw o fap Michael Drayton o 1612 sy’n dangos afonydd, coedwigoedd a bryniau, wedi eu portreadu fel nymffau dŵr, helyddesau a bugeiliaid. Mae Michael Drayton fwyaf adnabyddus am ei gerdd dopograffigol, The Poly-Olbion. Map bardd yw hwn.
Cyf. ACM/4
- Mae mapiau ‘stribedog’ John Ogilby a gyhoeddwyd ym 1698 yn cynnwys Prydain gyfan. Dyma ran olaf y siwrnai o Lundain i Aberystwyth mewn manylder cyfewin.

Cyf. ACM/43
- Map morwrol o 1801 sy’n dangos llwybr diogel i mewn i harbwr Aberystwyth. Sylwch fod y dref yn dal i fod o fewn ei muriau yn y llun yma.

Cyf. ACM/83
Mae rhai o fapiau degwm gwreiddiol yn Archifdy Ceredigion ac fe gewch eu harchwilio yma (Mae mapiau degwm Cymru ar gael ar-lein hefyd trwy’r prosiect Cynefin).
- Rhan o Fap Degwm Dihewyd (1845) wedi ei chwyddo. Mae’n dangos canol y pentref, gan gynnwys yr eglwys a’r dafarn. Pan gafodd y map ei drin a’i adfer buom yn blogio amdano yma.

Cyf. Dihewyd TM
- Dyma fap hyfryd a wnaethpwyd gan William Couling ym 1814. Un o nifer fawr o fapiau ydyw o gyfrol sy’n cynnwys arolwg o blwyfi Llannarth a Llanina.

Cyf. ADX/176
Ceir llawer o fapiau yng nghasgliadau’r stadau, naill ai yng nghatalogau argraffedig yr arwerthiannau a gynhyrchwyd pan gâi stadau eu gwerthu, neu pan gâi arolygon eu comisiynu gan berchnogion y stadau.
- O arolwg Stad y Priordy (Aberteifi) 1884 y daw’r map yma o’r ‘Felin Newydd a’r Tiroedd’ yn ogystal â rhestr o’r caeau a’u herwau.
- Mae’r map bach yma, sy’n dod o Gasgliad Stad yr Hafod, yn dangos gwythiennau plwm ardal Bodcoll, Dolwen a Tyglyn.

Cyf. H/D4/17
- Y map yma a gafodd ei lunio â llaw o’r ‘Pedair Coedwig neu Goedwigoedd yr Esgob’ (1787) yw’r map manwl cynharaf hysbys o ardal Plwyf Llanddewibrefi ger y ffin â Sir Gaerfyrddin. Mi wnaeth y mapiwr, Thomas Lewis, fapio Stad Gogerddan ac ardal Llanfair Clydogau; cedwir y mapiau yma yn y Llyfrgell Genedlaethol.

Cyf. ADX/1282 (rhan)
Mapiau’r Arolwg Ordnans a mapiau eraill diweddarach
Mae nifer o fapiau eraill ar gael yn Archifdy Ceredigion, rhai’r Arolwg Ordnans ac eraill. Y prif gasgliadau yw:
- Mapiau Old Series yr AO, 1 fodfedd/milltir (1834)

Rhan o fap Old Series yr AO (Colby), tudalen LVIII, cyf. LIB/1 (1834)
- Mapiau County Series yr AO, 25 modfedd/milltir: Golygiad 1af (anghyflawn); 2il olygiad (y rhan fwyaf o’r sir); adolygiad o 1937 (Aberystwyth a’r cylch yn unig). Tair trem yn olynol ar Benparcau isod.
- Mapiau’r AO 6 modfedd/milltir: 2il argraffiad (c. 1905) ac Argraffiad Dros Dro, a’r grid cenedlaethol wedi ei argraffu drosto (1950au)
- Amryw o fapiau mwy diweddar cyfres Pathfinder a Landranger yr AO (ar gael yn yr ystafell ymchwil)
- Mapiau printiedig modern (wedi eu seilio ar rai’r AO fel rheol) gan Bartholomew’s a chyhoeddwyr eraill.

Cyf. ADX/371
- Ac yn olaf, cofiwch am yr holl fapiau sydd yn hen dywyslyfrau’r twristiaid!