Dechreuodd Cofrestriadau Cerbydau Modur yn Sir Aberteifi ar 1af Ionawr 1904 ac fe gymerodd 45 mlynedd tan 1949 nes bod 10,000 o gerbydau (EJ 1 i EJ 9999) wedi eu cofrestru yn y sir.
Yn dilyn fy blog blaenorol mis Hydref 2014, rwyf bellach wedi cwblhau trawsgrifio’r cofnodion cofrestru cerbydau modur, yr holl gofnodion yn awr ar gronfa ddata a medru eu gweld a’i chwilio ar wefan Archifdy Ceredigion.
Mae’r blog hwn yn grynodeb byr o’r cofnodion hyn.

EJ 37, 30hp Milnes Daimler Omnibws wedi’w gofrestru gan Gwmni Rheilffordd Great Western ar 1af Mawrth 1907
I wneud didoli y swm mawr hyn o wybodaeth yn haws rwyf wedi rhannu’r cofnodion yn dri grŵp; Grŵp 1, Ceir, Faniau a Lorïau (cyfanswm gyda’i gilydd); Grŵp 2, Beiciau modur; a Grŵp 3, Tractorau.
Mae siart syml yn dangos dosbarthiad y 10,000 o gerbydau a gofrestrwyd yn y tri grŵp ac ar draws yr holl flynyddoedd i’w gweld isod.
Gallwn weld o’r siart bod y niferoedd o Ceir, Faniau a Lorïau yn cynyddu’n araf nes 1915. Nid yw effaith y Rhyfel Byd Cyntaf (1914-18) yn cael ei adlewyrchu yn y nifer o gerbydau a gofrestrwyd yn Sir Aberteifi hyd 1916 pan roedd gostyngiad bychan, parhaodd y gostyngiad hwn am y ddwy flynedd nesaf gyda dim ond nifer fechan a gofrestrwyd yn y blynyddoedd 1917-1918. Ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf cynyddodd y nifer o gerbydau yn y grŵp hwn yn raddol nes uchafbwynt o 450 y flwyddyn ar ddiwedd y 1930au.
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd 2 rhwng y blynyddoedd 1939-1945, roedd unwaith eto dim ond ychydig o Ceir, Faniau a Lorïau wedi ei cofrestru ac ar yr un pryd, roedd cynnydd yn y nifer oTractorau, y rhan fwyaf ohonynt wedi eu cofrestru ar gyfer yr Adran Rhyfel. Mae’r cynnydd hwn yn nifer o Tractorau i dros 350 y flwyddyn yn parhau ar ôl y rhyfel.
Mae nifer y Beiciau modur cofrestredig yn dilyn yr un patrwm â’r ceir yn ystod y blynyddoedd cynnar, gan gyrraedd uchafbwynt yng nghanol y 1920au. O’r brig hwn mae eu niferoedd wedi gostwng flwyddyn ar ôl blwyddyn trwy’r 1930au a’r 40au gyda dim ond llond dwrn a gofrestrwyd yn ystod y rhyfel.
Trwy ddefnyddio gwybodaeth o’r gronfa ddata y gallwn benderfynu ar y cynhyrchwyr modur gyda’r rhan fwyaf o gerbydau a gofrestrwyd ar gyfer y grŵp cyntaf (Ceir, Faniau a Lorïau), yn ystod y blynyddoedd 1904-1947 a gellir eu gweld yn y siart isod. Yn ystod y blynyddoedd hyn, roedd cyfanswm o 125 o wahanol gynhyrchwyr wedi eu gynrychioli yn y grŵp hwn, a 45 or cynhyrchwyr wedi eu gynrychioli ond unwaith.
O’r siart (dangosir y deg cynhyrchwyr uchaf yn unig), gallwn weld mae Austin oedd y cynhyrchwyr mwyaf ar gyfer y grŵp hwn gyda 1548 o gerbydau, a ddilynir gan Ford (1073) a Morris (965). Mae’r cyfanswm o’r tri cynhyrchwyr cerbydau hyn yn fwy na’r cyfanswm yr holl 122 o gynhyrchwyr eraill gyda’i gilydd.
Mae’n ddiddorol os edrychwn ar ddosbarthiad blynyddol or tri cynhyrchwyr sydd gyda’r mwyaf o gerbydau wedi eu gofrestru, gwelir isod mewn graff syml.
O’r graff gallwn weld mae Ford oedd y cynhrchwyr mwyaf poblogaidd ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf gyda’i Model T gan gyrraedd uchafbwynt yn y 1920au cynnar gyda dros 120 o gerbydau wedi’u cofrestru. Morris oedd y mwyaf poblogaidd yng nghanol y 1920au ac yna Austin. Yr Austin wedyn oedd gyda’r modelau mwyaf poblogaidd yn ystod y blynyddoedd 1934-1937 gyda mwy na 160 o gerbydau wedi’u cofrestru, a oedd yn fwy na chyfanswm y ddau cynhyrchwyr eraill.

EJ 21 Wolseley Landauette wedi’w gofrestru gan George William Parry Llidiarde, Llanilar ym 1911
Unwaith eto gan ddefnyddio gwybodaeth o’r gronfa ddata y gallwn benderfynu ar y cynhyrchwyr gyda’r rhan fwyaf o gerbydau a gofrestrwyd ar gyfer yr ail grŵp (Beiciau modur) yn ystod y blynyddoedd 1904-1947 a gellir eu gweld yn y siart isod. Yn ystod y blynyddoedd hyn, roedd 114 o wahanol gynhyrchwyr wedi eu cynrychioli yn y grŵp hwn a 45 or cynhyrchwyr wedi eu gynrychioli ond unwaith.
O’r siart (dangosir y deg cynhyrchwyr uchaf yn unig), gallwn weld mae Triumph oedd y gwneuthurwr mwyaf gyda 263 o beiciau a ddilynir yn agos gan BSA(262) ac Enfield (192). Mae’r cyfanswm or tri cynhyrchwyr beiciau hyn yn fwy na’r cyfanswm yr holl 111 o gynhyrchwyr eraill gyda’i gilydd.
Rwy’n awr yn y broses o ysgrifennu adroddiad mwy cynhwysfawr o’r holl gerbydau a gofrestrwyd yn Sir Aberteifi yn ystod y blynyddoedd 1904-1947. Bydd y rhain yn cynnwys mwy o fanylion am y cerbydau mwyaf poblogaidd a lleiaf poblogaidd sydd wedi cofrestru yn y sir, ynghyd â’r cerbydau rhyfedd a rhyfeddol oedd wedi eu cofrestru unwaith yn unig.Un enghraifft yw’r cerbyd Murphy annilys hon (a welir isod) wedi eu darganfod mewn garej yn diweddar a gofrestrwyd yng gyntaf yn Sir Aberteifi ar 7 Gorffennaf 1939.

(Llun gan Mr. Roland Malcolm)
Mwy yn fuan…
Andrew Williams
Cymdeithas Hanes Lleol Llandysul