Eliza Webley Parry: Dyddiaduron Gwraig Fonheddig yn Sir Aberteifi yn y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg

Dr Rose McCormack

Ar hyd y tri mis diwethaf bûm yn gwirfoddoli yn Archifdy Ceredigion. Mae’r prosiect wedi bod yn un cyffrous; gofynnodd yr Archifdy imi fwrw golwg ar ddyddiaduron Eliza Webley Parry (1817-1894), gwraig fonheddig oedd yn byw yng Ngheredigion yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, er mwyn llunio crynodeb o’r deng mlynedd gyntaf ar gyfer catalog ar-lein yr Archifdy. Eliza oedd yr ieuengaf o saith o blant a anwyd i’r Ôl-lyngesydd Webley Parry (a fu farw ym 1837) a’i briod, Maria Washington White (1776-1858). Roedd y teulu’n byw yn Noyadd Trefawr, tŷ a etifeddodd yr Ôl-lyngesydd ym 1815. Pan oedd hi’n ddwy ar bymtheg oed dechreuodd Eliza ysgrifennu dyddiadur, a daliodd ati tan fis Chwefror 1893, pan ddirywiodd ei hiechyd. Wedi hynny bu Evelyn Hope, nith Eliza, yn ysgrifennu’r dyddiadur ar ran ei hen fodryb, tan y bu farw ym mis Ionawr 1894. Mae’r dyddiaduron yn llenwi un gyfrol ar ddeg, ac nid yw’r cynnwys mewn arddull flodeuog, nac ychwaith yn gryno fel oedd yr arfer gyda dyddiaduron poced gwragedd bonheddig y cyfnod. Yn hytrach na hynny, mae Eliza’n adrodd hanes rhai o’r pethau y bu’n eu gwneud yn go fanwl, gan sôn yn bennaf am ymweld â gwahanol leoedd a mynd i achlysuron cymdeithasol, ac mae’n aml yn crybwyll ei chwiorydd, Maria ac Ellen, a oedd yn annwyl iawn iddi.

wp-5-4-elizajwp

Eliza Webley-Parry

Un o’r pethau mwyaf trawiadol am ddyddiaduron Eliza yw mor brysur oedd ei bywyd hi. Mae hi’n sôn yn aml am ymweld ag ystadau Cymreig eraill, gan gynnwys Blaenpant, Sir Aberteifi (lle’r oedd ei chwaer Maria’n byw); Pentre, Manordeifi, gogledd sir Benfro (cartref ei brawd, William) a Choedmore, Sir Aberteifi (aelwyd y teulu Lloyd). Weithiau byddai’n mynd am y dydd, ac ar adegau eraill byddai’n aros am rai diwrnodau. Roedd Eliza hefyd yn hoff o fynd i lan y môr, a chawn glywed am ei hymweliadau â Glanymor, Pengwbert ac Aberystwyth. Er enghraifft, ym mis Gorffennaf 1837 bu Eliza a’i chwaer, Ellen, yn aros mewn tŷ llety ar lan y môr yn Aberystwyth. Tra buon nhw’n aros yna aethant am ginio yng Ngogerddan (lle’r oedd y teulu Pryse yn byw), aethant i dair dawns yn yr ystafelloedd cynnull, mynd i weld gêm griced a thwrnament saethyddiaeth i fenywod, mynd i’r Borth a chael swper yn Nanteos (lle’r oedd y teulu Powell yn byw). Byddai Eliza hefyd yn ymuno yn nathliadau Wythnos yr Helfa yn Aberteifi, gan gynnwys dwy ddawns fawr.

Yn ogystal â rhoi hanes ei bywyd cymdeithasol byrlymus, mae dyddiaduron Eliza hefyd yn amlygu rhai o’r profiadau llai dymunol a gafodd ar hyd ei hoes. Ceir sôn yn aml am y deintydd, Mr Noot, yn dod i dynnu ei dannedd, ac am yr afiechydon a orfododd Eliza, ei chwiorydd a’u mam i aros yn eu gwelyau am ddiwrnodau neu wythnosau ar y tro. Ym 1841, er enghraifft, roedd gan Eliza lid ar y frest a’r ffliw. Ym mis Ebrill mae’n nodi yn ei dyddiadur: ‘I had my head shaved for the third time since my illness.’ Nid yw’r manylion hyn mor ddifyr â’r lleill, efallai, ond maent yn helpu i greu darlun mwy cyflawn o fywyd Eliza.

Mae Eliza hefyd yn sôn yn ei dyddiadur am ddigwyddiadau mawr y dydd o ran cymdeithas, diwylliant a gwleidyddiaeth. Er enghraifft, ym mis Mai 1839 ysgrifennodd: ‘Heard of the resignation of Lord Melbourne’s administration, but Sir Robert Peel failed to form a ministry owing to the Queen not parting with her Ladies of the Bedchamber.’ Yn haf 1841 rhoddodd Eliza sylw i’r etholiad lleol, gan nodi bod Mr Pryse wedi bod yn canfasio ym Mhengwbert pan oedd hi’n aros yno, ac mae’n cofnodi canlyniadau’r etholiad: ‘Mr. Hereford at Cardigan: 69, at Lampeter: 16. Mr Pryse, at Aberystwyth: 88, at Lampeter: 22.’ Ym mis Mehefin 1843, wrth ymweld unwaith eto â Phengwbert, mae’n sôn am weld pacedlong ‘with 150 marines who landed under Penbryn, on account of the Rebecca disturbances.’ Mae hyn yn dangos crebwyll gwleidyddol Eliza. Er bod ei bywyd beunyddiol yn troi o amgylch ciniawau, dawnsfeydd ac ymweliadau, roedd hi’n ymddiddori ym myd gwleidyddiaeth hefyd. Byddai’r byddigion yng Nghymru, y dynion a’r menywod, yn hoff o drafod pethau fel etholiadau lleol neu derfysg Merched Beca.

wp-5-4-glanhelyg

Eliza ac Ellen Webley-Parry y tu allan i Lanhelyg

Nid yw fy nghrynodeb i ond yn cyflwyno deng mlynedd cyntaf y dyddiaduron; mae hanner cant a dwy o flynyddoedd yn weddill, ac mae’n siŵr bod y rheiny’n cynnwys trysorfa o wybodaeth ddifyr i haneswyr ei ddatgelu yn y dyfodol, gan gynnwys manylion am fywyd yn y wlad a’r dref yng Nghymru yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac yn benodol sut brofiad oedd hynny i wragedd bonheddig y cyfnod. Ni phriododd Eliza na’i chwaer, Ellen. Bu’r ddwy’n byw gyda’i gilydd tua diwedd eu hoes mewn tŷ yng Nglanhelyg oedd wedi’i adeiladu’n arbennig ar eu cyfer gan y chwaer arall, Maria, a’i gŵr, William Brigstocke. Mae hanes yn aml yn rhoi argraff anffafriol o ferched di-briod, yn eu portreadu fel pobl unig oedd wedi methu â chael cariad ac wedi byw eu bywydau ar yr ymylon. Fodd bynnag, dengys dyddiaduron Eliza y gallai menywod cefnog fyw bywydau braf iawn yn ddigymar. Roedd digon o amrywiaeth i fywyd Eliza wrth iddi ymweld â’r holl blastai, mynd i lan y môr ac ymuno yn nathliadau Wythnos yr Helfa, a chafodd gwmni da gan ei ffrindiau, ei chwiorydd a’i nithod tan y bu farw ym 1894.

Graddiodd Rose McCormack o Brifysgol Aberystwyth yn ddiweddar, gan ennill PhD o’r Adran Hanes a Hanes Cymru. Yn ei thraethawd ymchwil bu Rose yn ymchwilio i arfer menywod o ymweld â ffynhonau yng Nghaerfaddon a Tunbridge Wells yn y ddeunawfed ganrif, gan ddefnyddio llythyrau a dyddiaduron rhai o’r menywod hynny i ddangos beth oedd eu barn o’r trefi ffynhonnau dan sylw a’r profiadau a gawsant yno. Oherwydd ei diddordeb mewn dyddiaduron a hunangofiannau menywod, ysgogwyd Rose i wirfoddoli yn Archifdy Ceredigion, lle bu’n treulio’i hamser yn ymchwilio i ddyddiaduron Eliza Webley Parry.

Gweler hefyd cyflwyniad i gasgliad Webley-Parry a dilyn dolenni ar ochr chwith i weld mwy o’r catalog.

This entry was posted in Blog gwadd and tagged , , , , , . Bookmark the permalink.

Gadewch ateb

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s