A minnau’n fyfyriwr Lefel A â diddordeb mewn astudio gradd hanes yn y Brifysgol, rwyf wedi bod yn meddwl yn ddwys ar hyd y flwyddyn ddiwethaf am gael profiad gwaith addas. Gall gradd mewn hanes agor y drws i amrywiaeth o wahanol yrfaoedd, ond yn ddelfrydol roeddwn i’n chwilio am rywbeth oedd yn ymwneud yn uniongyrchol â hanes. Felly, pan gefais gadarnhad y byddwn i’n cael wythnos o brofiad gwaith yn Archifdy Ceredigion roeddwn i ar ben fy nigon i gael cyfle mor berffaith i ennill profiad ym maes hanes.
Serch hynny, er gwaethaf fy nghyffro roeddwn i’n pryderu rywfaint am yr wythnos oedd o’m blaen. Beth os na fyddai fy ngwybodaeth i am hanes yn ddigon i fedru gweithio’n effeithiol am wythnos yn yr Archifdy? A minnau heb fod mewn archifdy erioed o’r blaen, a fyddwn i’n medru deall a chyflawni’r hyn oedd y staff yn gofyn imi ei wneud?

Map Arolwg Ordnans 25”, ardal Llanddewi Brefi, taflen XXVII.13 (1889)
Rwy’n falch o ddweud nad oedd sail i’m pryderon, a bod fy mhrofiad yn Archifdy Ceredigion wedi bod llawn mor fendigedig ag oeddwn i wedi gobeithio. Cefais groeso gan dîm yr Archifdy ac o’r dechrau un roeddwn i’n teimlo’n gyfforddus yn gweithio yno. Ar fy niwrnod cyntaf fe roddwyd ymholiad gan gleient yn fy ngofal i, ac fe ddysgais sut i chwilio am gerrig beddi penodol drwy fynd drwy gofnodion ar ficroffilm, archwilio hanes teuluoedd ar-lein drwy’r cyfrifiadau ar ancestry.com a chofnodion ar bapur. Dysgais sut i ddarganfod mwy am bobl, gan gynnwys genedigaethau, priodasau a marwolaethau, drwy ddefnyddio cronfeydd data eraill ar-lein yn ogystal â chopïau gwreiddiol o bapurau newydd o’r 1880au.

Rhestr claddedigaethau, plwyf Rhostie
Ar ôl dysgu cymaint yn ystod y diwrnod cyntaf roeddwn eisoes wedi cael mwy o brofiad na’r hyn oeddwn wedi’i ddisgwyl am yr wythnos gyfan, ac felly drannoeth cefais syndod o gael cyfle i wneud gwaith tra gwahanol. Fy nhasg y tro hwn oedd rhestru cofnodion plwyf Eglwys Sant Mathew yn Y Borth. Roeddwn wrth fy modd yn cael gwneud y fath waith ar fy mhen fy hun, a dros ddeuddydd bûm yn rhestru pob eitem yn y casgliad. Wrth wneud hynny cefais drin a thrafod bron i gant o wahanol ddogfennau gwreiddiol, gan gynnwys llythyrau, ffurflenni a thaflenni o ddechrau’r 1900au.

Detholiad o gofnodion plwyfol, Eglwys Sant Mathew, Y Borth
Dros fy nau ddiwrnod olaf bûm yn helpu gyda phrosiect yr Archifdy i ddogfennu pob wythnos o’r Rhyfel Byd Cyntaf, gan mlynedd i’r dyddiad. Roedd hi’n fraint unwaith eto i gael chwarae rhan bwysig wrth baratoi’r deunydd, a chefais rwydd hynt i wneud gwaith ymarferol ar fy mhen fy hun. Un o’r tasgau oedd chwilio drwy fwy o hen gopïau gwreiddiol o bapurau newydd a thynnu lluniau o erthyglau perthnasol ynglŷn â’r rhyfel, i’w gosod ar hysbysfwrdd y tu allan i ddrws yr Archifdy ac i fynd ar flog arall Archifdy Ceredigion, sef Cofnodi’r Rhyfel Mawr
Er bod yr wythnos yn Archifdy Ceredigion wedi gwibio heibio, diolch i’r tîm rhagorol oedd yno cefais ddysgu popeth am weithio mewn Archifdy, ac roedd y profiad yn well nag allwn i fod wedi gobeithio amdano pan wnes i’r cais i ddechrau. Alla i wir ddim canmol digon ar y lle i unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwneud gradd mewn Hanes yn y brifysgol – neu rywun sydd wrthi’n dilyn y cwrs – ac yn chwilio am brofiad gwaith mewn cyd-destun hanesyddol. Diolch i bawb yn yr Archifdy am amser mor ddifyr!
[Hannah Watkin]