Sefydlwyd y Gwasanaeth Iechyd Ysgolion ar 1 Ionawr 1908 yn unol â gofynion Deddf Addysg (Darpariaethau Gweinyddol) 1907. Mae Adran 13 o’r Ddeddf honno’n dweud:
The duty to provide for the medical inspection of children immediately before, or at the time of, or as soon as possible after their admission to a public elementary School and on such other occasions as the Board of Education direct and the power to make such arrangements as may be sanctioned by the Board of Education for attending to the health and physical condition of the children educated in Public Elementary Schools.
Wrth lunio adroddiad ar ôl gwneud archwiliadau meddygol o ysgolion roedd yn ofynnol cynnwys adolygiad cyffredinol o gyflwr yr ysgolion hynny o ran awyru, goleuo a gwresogi, a disgrifio’r trefniadau a wnaethpwyd rhwng y Gwasanaeth Iechyd Ysgolion a’r Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus ynglŷn â threfn yr archwiliad a goruchwyliaeth.
Yn Sir Aberteifi penodwyd 14 o swyddogion iechyd ysgolion, ac roedd 12 ohonynt eisoes yn gweithio fel swyddogion iechyd yn yr ardaloedd dan sylw. Roedd Prif Swyddog Iechyd y Sir hefyd yn Swyddog Iechyd ar gyfer holl ysgolion Sir Aberteifi.
Wrth bori drwy adroddiadau blynyddol y Swyddog Iechyd Ysgolion cawn wybod am yr hyn a wnaethpwyd i wella cyflwr adeiladau’r ysgolion, a’r datblygiadau o ran y gofal meddygol a’r maeth a roddwyd i blant ysgol. Er enghraifft, yn Adroddiad Blynyddol 1924 mae’r Swyddog Iechyd Ysgolion, L. Meredith Davies, yn nodi:
Mae adroddiad 1924 hefyd yn cyfeirio at ddechrau darparu prydau bwyd canol dydd mewn sawl ysgol yn Sir Aberteifi, a sonnir am lwyddiant y cynllun yn Aberystwyth:
At Aberystwyth a Committee have taken up the problem with great zest. Rooms have been taken, a cook and assistant engaged, and a voluntary Committee appointed to attend each day. On an average 100 children take the meal each day. The cost of the meal is 2d. per day, and for this the children receive a two-course dinner.
Erbyn 1930 gwelwn yn yr Adroddiad Blynyddol fod tair ar hugain o ysgolion ar hyd a lled y sir yn darparu prydau bwyd:
The improvement in the health of the children is marked. Some teachers maintain that the class is brighter during the afternoon lessons in consequence of mid-day meals and parents have remarked that food in school has had the effect of increasing the children’s appetites for other meals. In four schools where the home feeding is regarded as adequate in amount, but lacking in lime and vitamine content, supplementary feeding of milk is carried out.
Erbyn 1933 roedd nifer yr ysgolion yn darparu bwyd wedi tyfu i 36, ac mewn adroddiad i’r Pwyllgor Bwyd ym 1946 nodir bod y cynllun prydau bwyd canol dydd ar waith mewn 71 ysgol o 106 yn Sir Aberteifi.
Roedd pobl yn dechrau gweld mor bwysig oedd trin dannedd plant, ac roedd y Swyddog Iechyd Ysgolion, L. Meredith Davies, yn awyddus i sefydlu cynllun iechyd deintyddol yn Sir Aberteifi. Ym 1930 roedd y Pwyllgor Addysg wedi penderfynu penodi deintydd llawn amser o dan gyfarwyddyd y Swyddog Iechyd Ysgolion, ac Ernest Jones oedd yn y swydd honno bellach. Gwaith y deintydd oedd archwilio plant yn yr ysgolion, a rhoi triniaeth mewn gwahanol fannau, gyda chymorth tri ymwelydd iechyd.
Yn Adroddiad Blynyddol 1933 sonnir am lwyddiant y Gwasanaeth Deintyddol mewn Ysgolion:
Pan fyddai rhyw haint ar led, byddai’r Swyddog Iechyd Ysgolion neu Swyddog Iechyd yr Ardal yn cau’r ysgolion er mwyn atal y salwch rhag lledaenu ymhellach. Yn y llythyr hwn mae pennaeth ysgol yn sôn am achosion o glwy’r pennau ac annwyd:
Un o ddyletswyddau pennaf y Swyddog Iechyd Ysgolion oedd rhoi brechiadau er mwyn amddiffyn plant rhag amrywiaeth o afiechydon heintus. Cyflwynodd y Weinyddiaeth Iechyd ymgyrch genedlaethol i frechu plant rhag difftheria ym 1941, yn rhannol er mwyn atal yr afiechyd rhag lledaenu oherwydd amgylchiadau’r rhyfel.
Mae’r llythyr canlynol yn sôn am achosion o ddifftheria ar led ym Mhontrhydfendigaid ym 1944:
Bu gwaith y Swyddog Iechyd Ysgolion yn hwb aruthrol i ddatblygu triniaethau meddygol ar gyfer plant ysgol mewn cyfnod mewn cyfnod cymharol fyr, a hynny cyn i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol ddechrau darparu gofal iechyd am ddim. Yn ogystal â hynny bu datblygiadau mawr o ran maeth, glanweithdra a’r amgylchedd mewn adeiladau ysgolion.
Clare Connolly (archifydd y prosiect: Dogfennau Swyddog Iechyd y Sir)
Mae’r prosiect wedi’i ariannu yn garedig gan y Wellcome Trust