Map Degwm Dihewyd 1845

Wrth nodi Wythnos Archwilio Eich Archif cawn gyfle i arddangos copi o fap degwm a detholiad o’r atodlen ysgrifenedig sy’n dod o gasgliad prosiect Cynefin, ‘Mapiau Degwm Cymru’. Mae Cynefin yn brosiect wedi’i ariannu drwy Gronfa Dreftadaeth y Lotri sydd wedi digideiddio mwy na 1,200 o fapiau degwm a thrawsgrifio mwy na 30,000 o dudalennau o atodlenni ysgrifenedig.

Rydyn ni wedi dewis arddangos copi o fap degwm ‘Dihewid’ gan fod copi o’r map hwnnw a’r atodlen ysgrifenedig yng nghasgliad Archifdy Ceredigion hefyd. Dewch i’w weld yn yr ystafell chwilio yn ystod Wythnos Archwilio Eich Archif.

 

Lluniwyd tri chopi o’r map degwm ar gyfer pob plwyf. Rhoddwyd un ohonynt i Gomisiynwyr y Degwm (cedwir y rhain yng nghasgliad yr Archifau Gwladol). Roedd y plwyf yn cadw copi yn lleol (cedwir llawer ohonynt mewn archifdai lleol) ac roedd copi ar gyfer yr esgobaeth hefyd (cedwir y rhain yn y Llyfrgell Genedlaethol). Daeth copi Archifdy Ceredigion o ffynhonnell wahanol, gan gyrraedd yma yn 2013 yn y blwch metel gwreiddiol ynghyd â’r atodlen ysgrifenedig, ar ôl cael ei gadw ar fferm Nantygelli, Dihewyd am 160 mlynedd a mwy.

Talwyd y Degwm i Eglwys Loegr – cyn y 1840au gellid ei dalu ar ffurf cynnyrch fel gwlân, cnydau neu dda byw. Fodd bynnag, yn sgil cyflwyno Deddf Cymudo’r Degwm ym 1836, lluniwyd mapiau’r degwm rhwng 1838 a 1850 er mwyn sicrhau y telid pob degwm gydag arian.

Mae’r mapiau degwm a’r atodlenni sy’n dod gyda nhw yn llawn gwybodaeth am y plwyfi yn y 1840au. I fanteisio ar yr adnodd gwerthfawr hwn, ac i gyfrannu at brosiect Cynefin, bydd Fforwm Hanes Lleol Ceredigion yn defnyddio’r wybodaeth yn sail ar gyfer astudiaeth o hanes tafarndai a gwestai ar hyd a lled Ceredigion – enw’r prosiect yw “Peint o Hanes, Plîs!”

Ar fap degwm ‘Dihewid’ gallwch weld y ‘Red Lion’ ynghanol y pentref, ac yn ôl yr atodlen ysgrifenedig:

Perchennog y tir oedd William Herbert a’r deiliad oedd David Evans. Mae cae’r ‘Red Lion’ yn fach – dim ond 2 rwd a 14 perc – ond roedd David Evans hefyd yn ddeiliad yr Hendy gerllaw, lle’r oedd ychydig mwy o gaeau. Yn ôl pob tebyg, golygai hynny ei fod yn dyddynwr yn ogystal â thafarnwr, a oedd yn beth digon cyffredin bryd hynny.

 

 Ar sail yr wybodaeth a gyflwynir yma, byddai modd olrhain hanes y dafarn a’i deiliaid ymhellach drwy ddefnyddio dogfennau megis y Cyfrifiad, cyfeirlyfrau masnach, cofnodion y plwyf, beddargraffiadau, mapiau a’r Fantolen o Dai Tafarn ymhob rhanbarth o’r Sesiwn Fach yn Sir Aberteifi ym 1905 (Archifdy Ceredigion – TPS/1/1).

Byddai tafarn wedi bod ymron pob plwyf yn y sir – llawer ohonynt â hanesion diddorol i’w hadrodd. Ewch i weld y map degwm ar gyfer eich ardal chi ar wefan Cynefin a byddwch yn siŵr o sylwi ar bethau diddorol. Os hoffech chi ddysgu mwy am unrhyw ddarn o eiddo, galwch heibio Archifdy Ceredigion i bori drwy’r cofnodion i weld beth arall y gallwch ddod chi o hyd iddo!

This entry was posted in Ein hoff ddogfennau and tagged , , , , . Bookmark the permalink.

Gadewch ateb

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s