Rwy’n falch o gyflwyno prosiect newydd sbon yn Archifdy Ceredigion. Diolch i haelioni Ymddiriedolaeth Wellcome rydyn ni wedi bod yn treulio’r flwyddyn ddiwethaf yn catalogio hen ddogfennau Swyddog Iechyd y Sir, gyda’r nod o ddatgelu’r manylion rhyfeddol sydd ynddynt ynglŷn â’i waith. Yn y casgliad ceir oddeutu cant o focsys yn llawn o ddeunydd sydd a wnelo a gweinyddu iechyd cyhoeddus yn Sir Aberteifi rhwng 1910 a chanol y 1970au. Prin y gwelwn ni gasgliadau fel hyn yn goroesi, ac rydyn ni’n ffodus iawn o gael cofnod mor fanwl o ofal iechyd yn y sir wledig hon.
Penodwyd Swyddogion Iechyd i oruchwylio iechyd y cyhoedd yn y sir neu’r fwrdeistref dan sylw, ac roeddent hefyd yn Swyddogion Iechyd Ysgolion. Yn Sir Aberteifi roedd yr Arolygydd Bydwragedd a’r Swyddog Arolygu Ymwelwyr Iechyd yn cynorthwyo’r Swyddog Iechyd, ynghyd ag amrywiaeth o swyddogion iechyd ardal ac arolygwyr glanweithdra a oedd yn gweithio ledled y sir. Roedd y Swyddog Iechyd yn cofnodi gwybodaeth ystadegol am enedigaethau, marwolaethau ac afiechydon, a bu’n gweithio i wella safonau byw a darpariaeth gofal iechyd i’r cyhoedd, gan fynd i’r afael â materion sydd a wnelont â glanweithdra, cyflenwadau dŵr glân, diet a thai.
Mae a wnelo rhan helaeth o’r casgliad â gwaith Ernest Jones, a weithiodd yn ddiflino fel Swyddog Iechyd Sir Aberteifi o ganol y 1920au tan iddo ymddeol ym 1956. Yn y papurau ceir gohebiaeth, adroddiadau, ystadegau, darlithoedd, cylchlythyrau ac adroddiadau blynyddol. Wrth daro golwg sydyn dros ei lythyrau, fe welwn fod Ernest Jones yn ŵr egnïol a blaengar oedd yn ei dweud hi yn blwmp ac yn blaen, ac roedd yn aml yn mynegi ei farn â digrifwch. Bu’n rhoi nifer o ddarlithoedd i’r gymuned leol er mwyn codi ymwybyddiaeth o faterion iechyd a glanweithdra. Dyma ddetholiad o ddarlith a draddododd gerbron Sefydliad y Merched Aberaeron ar 25 Ebrill 1934:
Bu’n rhaid wynebu heriau newydd yn ystod yr Ail Ryfel Byd, wrth i’r efaciwîs ddod i Geredigion, ac wrth i’r galw gynyddu am adnoddau, meddygon, nyrsys a gweithwyr meddygol i drin y milwyr a anafwyd. Mae’r papurau’n cynnwys gwybodaeth fanwl am waith y Wardeiniaid Cyrchoedd Awyr, y Gwasanaeth Meddygol Brys a’r Nyrsys Sifil Wrth Gefn. Yn y llythyr isod mae Ernest Jones yn sôn am ddefnyddio Neuadd y Dref yn Aberystwyth fel man i ddarparu cymorth cyntaf:
Mae’r casgliad yn cynnwys gwybodaeth werth chweil am ddatblygiad gofal iechyd mewn sir wledig, cyn sefydlu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol ym 1948 ac ar ôl hynny. Yn y dogfennau ceir sôn am amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys trin y diciâu, cartrefi mamau, cartrefi plant, achredu llaeth, gofal deintyddol, gofal llygaid, arolygu ysgolion, iechyd plant ysgol a chyflwyno prydau bwyd ysgol.
Cadwch lygad am erthyglau eraill am y prosiect catalogio a’r wybodaeth a ddaw i’r amlwg am waith Swyddog Iechyd y Sir.
Clare Connolly (archifydd y prosiect)

Rhan o hysbyseb ar gyfer ysbyty teithiol ac ambiwlans estynadwy wedi’u gwneud gan Mobile Expanding Structures Cyf., Llundain yn y 1940au
- Cyngor Sir Aberteifi – Adroddiad Blynyddol y Swyddog Iechyd a’r Swyddog Iechyd Ysgolion ar gyfer 1929: datganiad rhagarweiniol gan Ernest Jones
- Rhagofalon Cyrchoedd o’r Awyr: detholiad o ddatganiad Swyddog Iechyd y Sir i Gyngor Tref Aberystwyth, 27 Medi 1938
- Detholiad o’r braslun o drefniadau gwacáu a luniodd Swyddog Iechyd y Sir oddeutu 1939