Fe wnes i fwynhau fy amser yn Archifdy Ceredigion, ac roedd yn brofiad rhyfeddol. Cyn dod yma doeddwn i heb roi llawer o feddwl i hanes teulu, ac felly roedd yr ymholiadau y bûm yn helpu i’w datrys yn ddieithr imi. Wrth ymchwilio cefais gyfle i bori drwy gofnodion oedd yn mynd yn ôl mor bell â dechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg: cyfrifiadau, cofrestri plwyf a chofnodion bedyddio (mae’r Archifdy’n cadw’r cofnodion hyn ar gyfer hen Sir Aberteifi gyfan). Dim ond ychydig o brofiad a gefais o’r blaen o weithio gyda thystiolaeth wreiddiol fel hyn, ac rwy’n siŵr y byddaf yn elwa ar ddod i arfer â thrin a thrafod y dogfennau bregus.
Cefais hefyd gyflwyniad i wahanol agweddau ar y proffesiwn tra’r oeddwn yn yr Archifdy, gan gynnwys cadwedigaeth cofnodion cyfoes, er enghraifft, rhywbeth nad oeddwn i wedi meddwl amdano cyn dod yma.
Yn yr ail wythnos fy ngwaith i oedd llunio arddangosfa fechan am frwydr Waterloo (dydd Iau, 18 Mehefin yw dau ganmlwyddiant y frwydr). Ceisiais greu cysylltiad rhwng y gwŷr yma a’r hyn y bu eu carfannau’n ei wneud ar y diwrnod. Efallai mai dyma’r rhan fwyaf diddorol o’r profiad imi, gan fy mod wedi cael cyfle i ddarllen llythyrau oddi wrth ddyn o Sir Aberteifi a oedd ar faes y gad y diwrnod hwnnw. Mae’r archifau hefyd yn cynnwys medal a roddwyd i ŵr a fu’n ymladd gyda Marchfilwyr y Brenin yn Waterloo ac a oedd felly wedi bod yn rhan o’r ymladd ar adegau allweddol o’r frwydr.
Os ydych chi wedi ystyried dilyn gyrfa mewn archifau, neu os ydych chi ag unrhyw ddiddordeb mewn hanes, rwy’n eich cynghori’n gryf i wirfoddoli yn Archifdy Ceredigion.
Matthew Clayton, Myfyriwr Hanes ym Mhrifysgol Aberystwyth
[Diolch o galon i Matthew am ei holl waith caled yn ystod y bythefnos a dreuliodd â ni. Rydym ar fin lansio arddangosfa o’r llythyrau y mae’n sôn amdanynt uchod, ynghyd â lluniau a thrawsgrifiadau. Bydd yr arddangosfa y bu Matthew’n ei llunio ar gael yn ddigidol yn weddol fuan. Dewch yn ôl yma i weld!]