Cariad dan Gêl…

Tystysgrif briodas gyfrinachol yw’r ddogfen fach yma – a dyma’r unig dystiolaeth sydd i briodas gyfrinachol a ddigwyddodd ym  mhlwyf ‘Llanfinith’ (Llanfynydd) yn Sir Gaerfyrddin ym 1753.

ADX.364.7 Clandestine Marriage Certificate

Samuel Edwards o blwyf Llanfihangel Ystrad a Margaret Jones o blwyf Ciliau Aeron oedd y priodfab a’r briodferch. Mae’r plwyfi hynny rhwng Aberaeron a Llanbedr Pont Steffan yn yr hen Sir Aberteifi fel yr oedd hi yn yr oes honno, ac felly bu’n rhaid i’r ddau deithio 26 milltir i’r dirgel le yr oeddynt wedi dewis priodi ynddo yn Sir Gâr. Am ba bynnag reswm, yr oeddynt wedi dewis peidio â phriodi ym mhlwyf y briodferch, fel oedd yn arferol  –  a’r dybiaeth oedd bod y briodferch yn ei phlwyf ei hun yn priodi o ddewis, ac nid trwy orfodaeth, a’i theulu a’i ffrindiau o’i chwmpas hi.

Os edrychwch chi ar gofrestr priodasau plwyf Llanfynydd fe welwch chi nad oes cofnod o’r briodas hon ynddi. Mae hynny oherwydd mai priodas ddirgel ydoedd a gynhaliwyd yn rhywle – ni wyddom ymhle – ym mhlwyf Llanfynydd gan offeiriad a greodd ei dystysgrif ei hun i gofnodi’r briodas.

Gallwn weld ei enw ef – ‘Johannem James’ (John James) ac enwau nid llai na phedwar o dystion.

Mae’r ‘dystysgrif’ wedi ei haddurno ag ymadroddion Lladin, Groeg a Hebraeg. Dyfyniad o’r Effesiaid yw’r Lladin: “Deisyf gan hynny arnoch yr wyf fi, y carcharor yn yr Arglwydd, ar rodio ohonoch yn addas i’r alwedigaeth y’ch galwyd iddi, gyda phob gostyngeiddrwydd ac addfwynder, ynghyd â hirymaros, gan oddef eich gilydd mewn cariad.”  Dewis pur dda ar gyfer tystysgrif briodas.

Mae’r dystysgrif yn cyfeirio at ddwy o Ddeddfau Seneddol pwysig. Efallai i chi sylwi ar y geiriau ‘dated according to the New Stile’. Mae hynny’n cyfeirio at y ‘Calendar (New Style) Act 1750’ a newidiodd ddechrau’r flwyddyn newydd o’r 25ain o Fawrth i’r 1af o Ionawr.  O ganlyniad i’r Ddeddf honno cafwyd dwy o flynyddoedd byr – ymestynnodd y flwyddyn 1751 o’r 25ain o Fawrth hyd yr 31ain o Ragfyr ac yna ym 1752 collwyd un diwrnod ar ddeg (daeth y 14eg o Fedi’n syth ar ôl yr 2il o Fedi) er mwyn cysoni calendr Lloegr (a Chymru!) ag eiddo’r cyfandir.

Priododd Samuel a Margaret ym 1753. Y flwyddyn honno cafodd Deddf Priodasau Hardwicke ei phasio, “Deddf er gwarchod rhag Priodasau Cêl”. O dan y Ddeddf roedd yn rhaid priodi mewn eglwys Anglicanaidd a chyhoeddi’r gostegion neu gael trwydded i wneud y briodas yn un ddilys. Cyn pasio’r Ddeddf honno yr oedd y gofynion cyfreithiol a oedd yn ymwneud â phriodi wedi eu seilio ar gyfraith yr eglwys Anglicanaidd, ac er bod disgwyl i bobl briodi yn eglwys y plwyf lle trigai un o’r dddau a oedd yn priodi (plwyf y fenyw fel arfer), a chyhoeddi’r gostegion neu sicrhau trwydded, pe na wneid hynny ni fyddai’r briodas yn annilys cyn belled ag y byddai offeiriad Anglicanaidd yn ei chynnal.

Daeth Deddf Priodasau Hardwicke i rym ym 1754. Bydd haneswyr teulu’n gyfarwydd â’r cofrestrau priodasau newydd a gyflwynwyd y flwyddyn honno mewn eglwysi Anglicanaidd yn sgil y newid yn y gyfraith.

Ni wyddys beth oedd hanes Mr. and Mrs. Samuel Edwards, ond gellid tybio iddynt ffynnu oherwydd mai un o’u disgynyddion a roddodd y darn papur hynod hwn imi ugain mlynedd yn ôl.

[HP]

Advertisements
This entry was posted in Ein hoff ddogfennau and tagged , , , . Bookmark the permalink.

Gadewch ateb

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out /  Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s