Diolch John Williams, gallwch orffwys yn awr: mae Llythyrau Llantood yn ddiogel

Mae’r cyfryngau’r wythnos hon wedi bod yn adrodd y newyddion gwych fod yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cadwraeth Llawysgrifau , gyda chymorth CyMAL, sy’n rhan o Lywodraeth Cymru, wedi rhoi cyllid i Archifdy Ceredigion ar gyfer diogelu rhai o’m hoff ddogfennau. Y dogfennau dan sylw yw llythyrau Morris a Daniel Williams, eu hewythr, Owen Williams, a John Williams, eu tad. Ysgrifennwyd yr holl lythyrau rhwng 1811 a 1824, cyfnod go gyffrous yn hanes Prydain.

Roedd Morris yn aelod o Fyddin Sir Benfro, a phan oedd yn y gad yn ne Lloegr fe wirfoddolodd i ymuno â’r drydedd gatrawd ar hugain, y Royal Welch. Yn sgil hynny aeth dramor a bu’n ymladd ym Mrwydr Waterloo. Cafodd Daniel well amser ohoni – aeth i Hounslow – ond gellid dadlau fod y llythyrau a anfonodd ef adref yn fwy bywiog a llawn newyddion na rhai ei frawd. Roedd ei ewythr Owen, a oedd yn byw gerllaw yn Hounslow, yn anfon newyddion yn rheolaidd at dad Daniel a Morris, John Williams, a drigai ym Mhenrallt Ddu, fferm nid nepell o Aberteifi, a bu John yn ymateb i’w feibion a’i frawd, ond dim ond ychydig o’i lythyrau sydd wedi’u cadw.

Williams006

Llythyrau Daniel

Derbyniodd Archifdy Ceredigion ddwy gyfrol o lythyrau, sef ‘Daniel’s Letters’ a ‘Morris’s Letters’ gan Amgueddfa Ceredigion, lle’u rhoddwyd ym 1979 ynghyd â dogfennau eraill y teulu. Maent yn cynnwys y llythyrau gwreiddiol yn bennaf, wedi’u hanfon o Gosport a Portchester, o Hounslow, o ‘wersyll gerllaw Paris’, o Luimneach a Chaer-wynt a llefydd eraill. Roedd y llythyrau mewn cyflwr rhyfeddol o dda ar ôl eu taith drwy system bost dechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac yna fe’u rhwymwyd mewn dwy gyfrol.

Llythyrau Morris

Llythyrau Morris

Nid ydym yn gwybod pwy benderfynodd gadw’r llythyrau a’u rhoi mewn trefn. Nid ydym yn gwybod chwaith pwy â’u rhwymodd, gyda phwythau gofalus ond ychydig yn lletchwith. Nid ydym yn gwybod pwy â’u cadwodd yn ddiogel ar hyd bron i ddwy ganrif – ac mae’n rhaid bod llawer o bobl wedi ymwneud â hynny – ond mae ein dyled yn enfawr i’r bobl hynny.

Hoffwn feddwl mai tad y bechgyn, John Williams, a ddechreuodd y broses. Anfonwyd y llythyrau ato ef, ac at Esther ei wraig, a John a ychwanegodd nodiadau atynt yn nodi’r dyddiadau y cyraeddasant, gan roi sylwadau ei hun o bryd i’w gilydd. Bob tro y byddaf yn bwrw golwg ar y llythyrau, rwy’n syfrdanu mor ofalgar a thringar oedd ei waith.

Un agwedd ar y broses gadwraeth fydd gwahanu’r llythyrau a thynnu’r pwythau sy’n eu dal at ei gilydd. Pan glywais mai dyna oedd y bwriad roeddwn i’n ei chael yn anodd ei derbyn. Roeddwn o’r farn bod y pwythau hynny’n dangos gofal mawr, i’r fath raddau fel y gellid eu galw’n llafur cariad. Roedd rhywun wedi penderfynu rhoi’r llythyrau hynny ar gof a chadw, ond wedi gwneud mwy na hynny: fe’u lluniwyd fel hanes, yn adlewyrchu’r perthnasau o fewn y teulu, mewn byd a oedd yn ymestyn ymhell y tu hwnt i feysydd cyfarwydd Penrallt Ddu. Fe’u cadwyd er cof am fab a gollwyd yn Ffrainc, ac i ddwyn i gof y teulu newydd a grëwyd fwy na dau gan milltir o Aberteifi.

Wrth gasglu’r llythyrau, eu cadw a’u pwytho, roedd hi’n amlwg fod bwriad i’w diogelu a’u trosglwyddo i genedlaethau’r dyfodol. Yn aml bydd dogfennau’n goroesi bron drwy ddamwain, ond cadwyd llythyrau Daniel a Morris Williams yn fwriadol. Pwy bynnag ydoedd a ddechreuodd y broses honno, yn awr daw’r cyfrifoldeb arnom ni yn Archifdy Ceredigion i barhau â’r gwaith. Wrth gwrs, mae’n rhaid inni wneud ein gorau glas i ddiogelu’r holl gofnodion sydd yn ein gofal, ond mae’n beth prin i gael y fath arweiniad o’r gorffennol yn hynny o beth.

Caiff y pwythau eu tynnu gan eu bod wedi gwneud eu gwaith. Mae bron i ddau gan mlynedd wedi mynd heibio ers pan bwythwyd y llythyrau at ei gilydd, ac mae’r edafedd yn dechrau difrodi’r papur. Bydd swyddogion cadwraeth y Llyfrgell Genedlaethol yn tynnu ffotograffau o’r llyfrau fel y bydd gennym gofnod o’r modd y’u pwythwyd, cyn eu tynnu ar wahân, eu glanhau a’u cyflwyno mewn modd sy’n eu diogelu orau. Felly bydd yr hanes yn parhau, a’r sawl a ddymunai drosglwyddo’r llythyrau i’r genhedlaeth nesaf wedi cyflawni ei dasg. Maent wedi goroesi i’r dyfodol, ar gael i ni.

Rwy’n gobeithio gallu cynnwys ambell ddetholiad o’r llythyrau bendigedig hyn yn y blog maes o law, cyn inni gyhoeddi trawsgrifiad cyflawn gyda nodiadau yn ddiweddarach eleni, i ddathlu cael yr ohebiaeth yn ôl wedi’r gwaith cadwraeth.

[HP]

This entry was posted in Ein hoff ddogfennau and tagged , , , , , , . Bookmark the permalink.

1 Response to Diolch John Williams, gallwch orffwys yn awr: mae Llythyrau Llantood yn ddiogel

  1. Pingback: Fy mhrofiad gwaith yn Archifdy Ceredigion, gan fyfyriwr hanes | Archifdy Ceredigion

Gadewch ateb

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s