Mae eirin ysgaw’n barod i’w casglu erbyn hyn. Fel mae’n digwydd, rwyf wedi bod yn golygu’r catalog sydd newydd ei gwblhau ar gyfer y casgliad Webley-Parry (mwy am hynny nes ymlaen) a’i baratoi ar gyfer y we. Wrth wneud hynny daeth rysáit tymhorol iawn i’m sylw:
Mae’n ymddangos mewn llyfr ryseitiau mewn llawysgrifen (rhif catalog WP/2/1). Credwn fod yr awdur wedi cychwyn ysgrifennu’r llyfr tua dechrau neu ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg (neu’n gynt, efallai) ond nid ydym yn gwybod pwy oedd ef neu hi. Mae’n drysor go iawn, ac yn ogystal â ryseitiau mae’n cynnwys ‘sylwadau’ ynglŷn â phiclo, cyffeithio a gwneud pwdinau, ac amrywiaeth o gynghorion am waith tŷ. Dyma drawsgrifiad gyda’r sillafu gwreiddiol.
Mrs. Philipps receipt for Elder Wine
To ten gallons of water put twenty parts of Elder Berries let it boil an hour, strain it and to every gallon of liquor add two Pounds of Brown sugar, let it boil half an hour longer skimming it well while any scum arises. Put all spice to your taste strain it agen into a tub to cool. When cold put some ale yeast upon a toast on it and let it work 2 or three days. Tun it and stop it up close. You may bottle it at Christmas.
Ni fydd Archifdy Ceredigion yn gyfrifol am unrhyw ganlyniadau a ddaw wrth ddilyn y rysáit – ond os byddwch chi’n rhoi cynnig arni, rhowch wybod sut hwyl gewch chi!
Rwy’n gobeithio medru rhannu mwy o drysorau o’r llyfr hwn, ac un arall o’r un casgliad, cyn bo hir.
[AZS]
Pingback: Mins peis Captain Beefheart | Archifdy Ceredigion